Mae’n bleser gen i roi gwybod i chi fod ein lleiniau bowlio, cyrtiau tennis, parciau sgrialu a physgota wedi ail agor heddiw (dydd Mawrth 7 Gorffennaf). Fe gaewyd yr holl gyfleusterau yma ym mis Mawrth yn unol â rheolau’r cyfnod clo yn dilyn yr achosion o Coronafeirws (Covid-19).
Bydd yr holl adeiladau sy’n gysylltiedig â’r safleoedd hyn yn parhau ar gau nes rhoddir gwybod yn wahanol.
Yn unol â Llywodraeth Cymru yn codi cyfyngiadau, fe fydd yna reolau y mae’n rhaid cadw atynt er diogelwch pawb; bydd arwyddion wedi cael eu gosod o amgylch y cyfleusterau hyn.
Dywedodd y Cynghorydd David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Rydym yn falch iawn ein bod yn gallu ailagor y cyfleusterau yma heddiw, ond rydym ni’n gofyn i bawb eu defnyddio’n gyfrifol. Mae rheolau llym ym mhob cyfleuster ac arwyddion wedi’u gosod yn glir ac mae’n rhaid i ni sicrhau ein bod yn cadw atynt.
“Mae gan bawb ohonom hobïau rydym ni wedi eu methu dros y misoedd diwethaf, felly gan ein bod yn gallu ailgydio yn rhai ohonynt rŵan, peidiwch â gwneud unrhyw beth a fydd yn peryglu’r cynnydd rydym wedi’i wneud yn Wrecsam. Arhoswch yn ddiogel.”
Sut i gael prawf os oes gennych symptomau Coronafirws
YMGEISIWCH RŴAN