Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Byddwn yn teimlo effaith colli swyddi Airbus yma yn Wrecsam – ond byddwn yn gweithio â phartneriaid i wneud popeth y gallwn
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Byddwn yn teimlo effaith colli swyddi Airbus yma yn Wrecsam – ond byddwn yn gweithio â phartneriaid i wneud popeth y gallwn
Busnes ac addysg

Byddwn yn teimlo effaith colli swyddi Airbus yma yn Wrecsam – ond byddwn yn gweithio â phartneriaid i wneud popeth y gallwn

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 7, 2020 1:52 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Airbus
RHANNU

Mae Cyngor Wrecsam wedi cyhoeddi neges i gefnogi teuluoedd a busnesau lleol yn dilyn y newyddion y bydd 1,700 o weithwyr Airbus yn y DU yn colli eu swyddi.

Cynnwys
  • “Cyflogwr mawr”
  • Diogelu swyddi a diwydiannau

Gwnaeth y cawr awyrofod y cyhoeddiad yr wythnos hon, a bydd llawer o swyddi yn cael eu colli ar safle’r cwmni ym Mrychdyn, Sir y Fflint.

Mae yna lawer o bobl o Wrecsam yn gweithio ar y safle ac mae yna nifer o fusnesau lleol yn cyflenwi deunyddiau, nwyddau a gwasanaethau i’r cwmni awyrofod.

“Cyflogwr mawr”

Meddai’r Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol Economi: “Bydd hyn yn effeithio ar lawer o bobl yn Wrecsam a byddan nhw’n poeni am eu dyfodol.

“Mae Airbus yn gyflogwr mawr yn yr ardal ac mae’r cwmni yn fawr iawn ei barch – yn darparu swyddi o ansawdd da i bobl ar draws gogledd ddwyrain Cymru, Swydd Gaer a Wirral.

“Bydd hyn hefyd yn effeithio ar lawer o fusnesau… gan gynnwys cwmnïau yma yn y fwrdeistref sirol.

“Mae’n bwysig ein bod ni’n gweithio gyda’n partneriaid, gan gynnwys awdurdodau lleol cyfagos a Llywodraeth Cymru, i wneud popeth y gallwn i ddenu buddsoddiad a chefnogaeth i’r rhanbarth… er mwyn i ni helpu busnesau oroesi’r cyfnod anodd hwn, diogelu swyddi a chreu swyddi newydd.”

SUT I GAEL PRAWF OS OES GENNYCH SYMPTOMAU CORONAFIRWS

Diogelu swyddi a diwydiannau

Mae’r diwydiant awyrofod yn teimlo effaith pandemig Covid-19, gyda llai o alw am deithiau awyr ac awyrennau ar y funud.

Mae Cynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy (partneriaeth economaidd rhwng gogledd ddwyrain Cymru, Swydd Gaer a Wirral) wedi addo gwneud popeth y gallan nhw i gefnogi’r economi trawsffiniol.

Meddai’r Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd y Cyngor a Chadeirydd Cynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy: “Rydym ni’n cydymdeimlo’n llwyr â theuluoedd pryderus gweithwyr Airbus a’r busnesau hynny sy’n cyflenwi nwyddau i’r cwmni.

“Bydd y newyddion hyn yn drychinebus i nifer o bobl ac felly byddwn yn gweithio gyda’n partneriaid i wneud popeth y gallwn i ddiogelu swyddi ac i gefnogi diwydiannau lleol drwy’r cyfnod anodd hwn.

“Bydd cyhoeddiad Airbus yn effeithio ar nifer fawr o bobl a busnesau yn Wrecsam ac felly bydd yn rhaid i ni wneud popeth y gallwn gyda’n partneriaid i ddiogelu buddsoddiad a chefnogaeth i’r rhanbarth.”

Sut i gael prawf os oes gennych symptomau Coronafirws

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://llyw.cymru/gwneud-cais-i-gael-prawf-coronafeirws”] YMGEISIWCH RŴAN [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Recycle your used ink cartridges at our recycling centres Ailgylchwch y cetris inc rydych wedi’u defnyddio yn ein canolfannau ailgylchu
Erthygl nesaf Lleiniau bowlio, cyrtiau tennis, parciau sgrialu a physgota yn ailagor heddiw Lleiniau bowlio, cyrtiau tennis, parciau sgrialu a physgota yn ailagor heddiw

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Minera Roof Trusses
Ehangu ar gyfer busnes teuluol yn dilyn grant Ardal Fuddsoddi
Busnes ac addysg
Awst 28, 2026
Football park and ride
Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd
Arall Pobl a lle
Awst 28, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam
Pobl a lle Y cyngor
Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lle Y cyngor
Awst 27, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Busnes ac addysg

Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol

Awst 20, 2026
Canlyniadau TGAU 2026 - Llongyfarchiadau i'n holl ddysgwyr
ArallBusnes ac addysgPobl a lle

Canlyniadau TGAU 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl ddysgwyr

Awst 20, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
ArallBusnes ac addysgPobl a lle

Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr

Awst 13, 2026
Groundwork
Busnes ac addysgPobl a lleY cyngor

Eisiau dysgu rhywbeth newydd? Mae disgwyl i Groundwork Gogledd Cymru ddarparu dosbarthiadau dysgu cymunedol AM DDIM ar draws Wrecsam a Sir y Fflint

Gorffennaf 22, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English