Mae disgyblion Wrecsam yn dathlu heddiw wrth dderbyn eu canlyniadau arholiadau TGAU a galwedigaethol.
Ar y cyfan, safodd 1206 o ddisgyblion ystod eang o gymwysterau TGAU, galwedigaethol a sgiliau. Cyflwynwyd llawer o’r cymwysterau hyn am y tro cyntaf eleni.
Mae hanner disgyblion Wrecsam wedi llwyddo i ennill 5 gradd A*-C yn cynnwys Cymraeg / Saesneg a Mathemateg. Mae canran y disgyblion sy’n llwyddo i ennill 5 gradd A*/A hefyd wedi cynyddu o 3%.
GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.
Dywedodd y Cynghorydd Phil Wynn, Aelod Arweiniol Addysg: “Hoffwn longyfarch ein disgyblion ar eu holl waith caled, eu hymrwymiad i’w hastudiaethau ac am gyflawni eu nodau personol.
“Pob hwyl iddynt wrth symud ymlaen i’r cam nesaf, boed hynny’n addysg bellach, hyfforddiant neu fyd gwaith.
“Byddwn yn parhau i gefnogi ein hysgolion gan ein bod ni, gyda’n gilydd, yn anelu at gyflawni rhagoriaeth addysgol i bobl ifanc yn Wrecsam.”
Dywedodd Ian Roberts, Pennaeth Addysg Wrecsam: “Llongyfarchiadau mawr i’r holl bobl ifanc. Gyda chefnogaeth eu hathrawon, eu rhieni a’u gofalwyr, maent wedi gweithio’n galed iawn er mwyn sicrhau llwyddiant.
“Mae yna hefyd lawer o lwyddiannau rhagorol gan fyfyrwyr o bob gallu. Bydd yr Awdurdod Lleol a GwE, y gwasanaeth rhanbarthol gwella ysgolion yn parhau i weithio gyda’n hysgolion er mwyn sicrhau bod ein disgyblion i gyd yn cyflawni eu potensial.”
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fy Niweddariadau.
COFRESTRWCH FI