Mae disgyblion Wrecsam yn dathlu heddiw wrth gael eu canlyniadau Lefel A. Hoffai Cyngor Wrecsam longyfarch pob myfyriwr ar eu llwyddiannau yn yr arholiadau Lefel A ac AS eleni.
Dywedodd y Cynghorydd Phil Wynn, Aelod Arweiniol Addysg:
“Hoffwn longyfarch ein myfyrwyr am eu hymroddiad a’u dyfalbarhad. Hoffwn hefyd ddiolch i’r athrawon am eu gwaith caled yn ystod y flwyddyn, ac am baratoi’r myfyrwyr mor drwyadl at yr arholiadau.”
“Pob dymuniad da i’n pobl ifanc ni wrth iddyn nhw ddilyn y camau nesaf yn eu gyrfaoedd.”
Angen help gyda chostau gwisg ysgol? Gwelwch os ydych yn gymwysterol…
Dywedodd Ian Roberts, Prif Swyddog Addysg ac Ymyrraeth Gynnar Wrecsam: “Mae myfyrwyr o bob gallu wedi cyflawni nifer o bethau eithriadol, a hoffwn ddiolch i’r ysgolion a’r athrawon am eu hymroddiad a’u proffesiynoldeb wrth gefnogi’r myfyrwyr – ac i’r rheini hefyd am eu cefnogaeth. Dymuniadau gorau i’r myfyrwyr wrth iddyn nhw edrych tua’r dyfodol ar ba bynnag lwybr maen nhw wedi’i ddewis.”
Need help with school uniform costs? Find out if you’re eligible.
YMGEISIWCH AM GRANT DATBLYGU DISGYBLION