Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Sut mae’r cynnig gofal plant 30 awr di-dâl yn gweithio a sut ydw i’n ymgeisio?
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Sut mae’r cynnig gofal plant 30 awr di-dâl yn gweithio a sut ydw i’n ymgeisio?
Busnes ac addysgPobl a lleY cyngor

Sut mae’r cynnig gofal plant 30 awr di-dâl yn gweithio a sut ydw i’n ymgeisio?

Diweddarwyd diwethaf: Awst 15, 2019 9:27 am
Rhannu
Darllen 4 funud
Sut mae’r cynnig gofal plant 30 awr di-dâl yn gweithio a sut ydw i’n ymgeisio?
RHANNU

Oes gennych chi blant tair neu bedair oed?

Cynnwys
  • Ydw i’n gymwys?
  • Mae gofal plant yn cynnwys:
  • Faint ydw i’n gallu ei gael?
  • Sut ydw i’n gwneud cais?

Ydych chi’n gwybod os ydych yn gymwys i’r cynnig gofal plant di-dâl 30 awr?

Ydych chi’n gwybod sut i ymgeisio?

Wel, peidiwch â chynhyrfu, mae’r erthygl hon yn anelu i ateb yr holl gwestiynau hynny i chi!

Mae’r cynnig ar gael i blant  Wrecsam o ddechrau’r tymor yn dilyn eu pen-blwydd yn dair oed nes mis Medi ar ôl iddynt droi’n bedair oed. Dylid nodi efallai y bydd angen talu am bethau fel costau cludiant a phrydau bwyd.

PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…

Ydw i’n gymwys?

  • Mae’n rhaid i’ch plentyn fod yn 3 neu 4 blwydd oed?
  • Mae’n rhaid i chi ennill yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol o leiaf neu’r cyflog byw am 16 awr yr wythnos ar gyfartaledd
  • Mae’n rhaid i bob rhiant ennill llai na £100,000 y flwyddyn
  • Mae rhieni teuluoedd unig rieni angen bod yn gweithio
  • Mae’n rhaid i rieni mewn teuluoedd dau riant fod yn gweithio
  • Mae rhieni sy’n hunan-gyflogedig neu ar gontract dim oriau angen profi eu statws a darparu dogfennau perthnasol
  • Rhieni sy’n gyflogedig neu’n hunan-gyflogedig ond ar wyliau statudol er enghraifft, absenoldeb mamolaeth
  • Mae gofalwyr maeth a gofalwyr sy’n berthnasau hefyd yn gallu bod yn gymwys
  • Gall teuluoedd lle mae un rhiant yn derbyn rhai budd-daliadau hefyd fod yn gymwys – cysylltwch â’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd am fwy o fanylion.

Pryd allaf i wneud cais?

Gall teuluoedd ymgeisio 8 wythnos ar y mwyaf cyn y tymor y gallant gael mynediad i’r Cynnig Gofal Plant felly ar gyfer tymor y Gwanwyn byddai o 11 Tachwedd ac ar gyfer tymor yr Haf byddai o 24 Chwefror 2020.

Cyflwynir ceisiadau drwy http://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Schools/Wrexham-Childcare-Offer.aspx

Mae gofal plant yn cynnwys:

  • Meithrinfeydd
  • Gwarchodwyr Plant
  • Cylchoedd Chwarae
  • Crèche
  • Gofal plant y tu allan i oriau ysgol
  • Mamaethod

Gallwch ddewis eich darparwr gofal plant eich hun sy’n diwallu anghenion eich plentyn.

Mae’r Cynnig Gofal Plant ar gael i blant  Wrecsam o ddechrau’r tymor yn dilyn eu pen-blwydd yn dair oed nes mis Medi ar ôl iddynt droi’n bedair oed.

Faint ydw i’n gallu ei gael?

Gallech gael hyd at 30 awr yr wythnos o ofal plant addysg gynnar.  Mae’r 30 awr yn cynnwys lleiafswm o 10 awr o addysg gynnar yr wythnos a mwyafswm o 20 awr yr wythnos o ofal plant.

Sut ydw i’n gwneud cais?

http://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Schools/Wrexham-Childcare-Offer.aspx

Os byddwch yn cael unrhyw broblemau yn llenwi’r cais ar-lein, gall Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Wrecsam helpu.  Gallwch alw heibio Galw Wrecsam ar Stryt yr Arglwydd, dydd Llun-dydd Gwener 10:30am-2:30pm a bydd aelod o’r tîm yn hapus i helpu.

Os hoffech gysylltu â’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd am unrhyw beth arall gallwch gysylltu ag aelod o’r tîm drwy ffonio 01978 292094 neu e-bost at fis@wrexham.gov.uk

Angen help gyda chostau gwisg ysgol? Gwelwch os ydych yn gymwysterol…

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://www.wrexham.gov.uk/welsh/education_w/school_uniform_grant_w.htm “] YMGEISIWCH AM GRANT DATBLYGU DISGYBLION [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Magi Ann yn ymweld â Llyfrgelloedd Gwersyllt a Rhiwabon Magi Ann yn ymweld â Llyfrgelloedd Gwersyllt a Rhiwabon
Erthygl nesaf Llwyddiant Lefel A ac AS i Ysgolion Wrecsam Llwyddiant Lefel A ac AS i Ysgolion Wrecsam

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The Longest Yarn in Wrexham
Gwirfoddolwyr lleol yn helpu i adrodd stori Prydain yn y Rhyfel… pwyth fesul pwyth
Digwyddiadau Fideo Pobl a lle
Hydref 2, 2026
Wrecsam letters at Erddig
Llythrennau eiconig WRECSAM yn dechrau eu pennod nesaf yn Erddig
Pobl a lle
Hydref 2, 2026
Poppy field
Wrecsam yn Cofio
Digwyddiadau
Hydref 2, 2026
Occupational Therapy Week poster
Digwyddiad gwybodaeth i arddangos gwasanaethau cymdeithasol yn ystod Wythnos Therapi Galwedigaethol
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Hydref 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Wrecsam v oxford
ArallPobl a lle

Niferoedd parcio a theithio ar gynnydd

Hydref 1, 2026
Mayor's engagements - September
ArallPobl a lle

Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Medi

Hydref 1, 2026
Byddwch yn ddiogel ac yn wyliadwrus wrth groesfannau sebra.
Pobl a lle

Byddwch yn ddiogel ac yn wyliadwrus wrth groesfannau sebra.

Hydref 1, 2026
the longest yarn
DigwyddiadauPobl a lle

Dilynwch y pabïau i ‘The Longest Yarn’

Medi 29, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English