Am bob awr yr ydych chi’n ei rhoi i’ch cymuned, byddwch yn ennill awr i’w threulio yn cymryd rhan mewn gweithgareddau lleol.
Dyma sut mae Credydau Amser yn gweithio, ac mae’n ffordd wych o gydnabod y pethau gwych y mae pobl yn eu gwneud yn eu cymunedau.
DERBYNIWCH Y WYBODAETH DDIWEDDARAF – YMAELODWCH I GAEL EIN PRIF STRAEON.
Tempo sy’n cynnal Credydau Amser, elusen ledled Prydain a sefydlwyd i gysylltu cymunedau a sicrhau bod amser pawb yn cael ei werthfawrogi.
Er mwyn rhoi cyfle i chi ddarganfod mwy am Gredydau Amser, mae Cyngor Wrecsam yn trefnu te parti seicedelig y 1960au yn Tŷ Pawb, 1 Hydref, 10am-3pm.
Bydd digon o bethau i’ch cadw chi’n brysur drwy gydol y dydd, gan gynnwys:
- stondinau gwybodaeth amrywiol, gan gynnwys Mind, Age Cymru a Tempo
- gweithdai a gweithgareddau, gan gynnwys gweithgareddau a chwisiau atgofion, gweithgareddau synhwyraidd i bobl â dementia, gweithdy pontio’r cenedlaethau
- cyflwyniadau a sesiynau rhannu gwybodaeth, gan gynnwys “Sut i gynnig y gefnogaeth orau bosibl i rhywun â dementia”, gweithdai gwau, cyflwyniad ar Elvis!
- cerddoriaeth fyw – a chyfle i gyd-ganu
- DJ Vinyl Richie a Steve seicedelig y 60au (Mind)
- cyfle i gofrestru i wirfoddoli â Tempo a threfnu taith â nhw i wylio sioe yn Theatr Clwyd
- lluniaeth
- siaradwyr gwadd ar ddiwedd y dydd
Mae gwybodaeth ar gael ar wefan Time Credits, lle y gellir darganfod sut i ennill amser a sut y gellir treulio’r amser hwnnw.
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.
COFRESTRWCH FI RŴAN