Bydd Llyfrgell Wrecsam ar gau am ddiwrnod ddydd Sadwrn, 26 Hydref.
Mae gwaith trydanol hanfodol yn golygu y bydd y llyfrgell ar gau dros y penwythnos hwnnw ac ni fydd yn gallu ateb galwadau ffôn nac ateb negeseuon e-bost yn ystod y cyfnod hwnnw. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.
Angen cysylltu â’r gwasanaeth llyfrgell ar 26 Hydref?
Os ydych chi angen ymweld â llyfrgell, bydd Llyfrgell Brynteg ac Owrtyn ar agor rhwng 10am ac 1pm.
Bydd cwsmeriaid hefyd yn gallu cysylltu â Llyfrgell Brynteg ac Owrtyn dros y ffôn. Bydd Llyfrgell Wrecsam ar agor fel yr arfer ddydd Llun, 28 Hydref.