Mae nifer o breswylwyr pryderus Wrecsam wedi dweud eu bod wedi cael galwadau ffôn gan fusnes sy’n honni i fod o’r ‘Llywodraeth Ganolog’ neu’r ‘Cyngor’ neu sefydliad arall.
Dywedodd y galwyr wrth y trigolion bod insiwleiddiad atig eu heiddo angen ei archwilio i wneud yn siŵr ei fod yn cydymffurfio ac nad yw’n llidus, gan gynnig anfon syrfëwr i wirio hyn yn defnyddio dull delweddu thermol.
Mae Safonau Masnach Wrecsam yn credu bod hyn yn ymgais i fynd i mewn i eiddo i osod deunydd insiwleiddio newydd nad oes ei angen.
Ein cyngor
Dydi galw yn ddigroeso ddim yn arfer busnes da iawn. Mae Safonau Masnach yn cynghori unrhyw un sy’n derbyn galwadau o’r fath i gymryd gofal, meddwl a ‘take five’ cyn ymateb neu gytuno i unrhyw beth.
Rydym ni hefyd yn eich cynghori i beidio â choelio popeth sy’n cael ei ddweud wrthoch chi na chytuno i ymweliad gan unrhyw un sy’n galw’n ddigroeso fel hyn. Peidiwch â rhoi’ch manylion personol ac os ydych chi’n amau unrhyw beth rhowch y ffôn i lawr a gwiriwch yr wybodaeth.
Os ydych chi’n meddwl bod yna broblem gydag insiwleiddiad eich atig, holwch aelod o’ch teulu neu ffrind am fasnachwr ag enw da. Anaml iawn y bydd masnachwr gonest yn galw’n ddigroeso, a bydd byth yn rhoi pwysau arnoch chi i wneud unrhyw waith.
Cofiwch, peidiwch byth â rhoi manylion personol na manylion eich banc/cerdyn banc i unrhyw un sy’n galw’n ddigroeso.
Os hoffech chi gyngor am fathau gwahanol o dwyll neu os oes arnoch chi eisiau rhoi gwybod am dwyll, cysylltwch â Gwasanaeth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 0808 223 1144.
Wedi methu casgliad bin? Rhowch wybod i ni ar-lein – mae’n hawdd.
RHOWCH WYBOD AM GASGLIAD BIN A FETHWYD