Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Lucy Cowley yw dysgwr y flwyddyn eleni
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Lucy Cowley
Lucy Cowley yw dysgwr y flwyddyn eleni
Digwyddiadau Pobl a lle
Jayne Bryant
Cymunedau Cymru i dderbyn hwb adfywio gwerth £17m
Busnes ac addysg Pobl a lle
ruthin road
Cofiwch am wasanaeth Parcio a Theithio Ffordd Rhuthun
Pobl a lle Y cyngor
Eisteddfod Wrecsam 2025
Eisteddfod Wrecsam 2025!
Digwyddiadau Fideo
Wrexham's Year of Wonder
Lansio “Blwyddyn o Ryfeddod” Wrecsam
Digwyddiadau Pobl a lle
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Digwyddiadau > Lucy Cowley yw dysgwr y flwyddyn eleni
DigwyddiadauPobl a lle

Lucy Cowley yw dysgwr y flwyddyn eleni

Eisteddfod Wrecsam 2025

Diweddarwyd diwethaf: 2025/08/06 at 3:47 PM
Rhannu
Darllen 3 funud
Lucy Cowley
RHANNU

Dysgwr y Flwyddyn eleni yw Lucy Cowley sy’n byw yn Llangollen. Fe’i anrhydeddwyd mewn seremoni arbennig ar lwyfan y Pafiliwn ddydd Mercher, yn dilyn cystadleuaeth o safon uchel.

Y tri arall a ddaeth i’r brig oedd Rachel Bedwin sy’n byw yn ardal Bangor, Hammad Hassan Rind sy’n byw yng Nghaerdydd, a Leanne Parry sy’n byw ym Mhrestatyn.

Daw Lucy Cowley o Is-y-Coed, Wrecsam, sef cartref yr Eisteddfod eleni. Roedd ei thaid yn ffoadur o Wlad Pwyl a’i nain yn ffoadur o’r Wcrain. Er ei bod hi wedi cael rhywfaint o Gymraeg yn yr ysgol, ‘doedd hi ddim yn hyderus, ond wrth weithio fel athrawes yn Ysgol Holt, sylweddolodd ei bod wrth ei bodd yn rhannu’r Gymraeg gyda’r plant.

Aeth ati i ati ddilyn cyrsiau, a dechrau defnyddio adnoddau Cymraeg yn y dosbarth. Mae hi’n byw yn Llangollen ac wedi sefydlu grŵp trafod Cymraeg yn y dref, sy’n denu criw o bobl o gefndiroedd amrywiol, rhai yn ddysgwyr newydd ac eraill yno i ail afael yn eu Cymraeg. Mae’n cynllunio gemwaith a daeth â stondin i Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd.

- Cofrestru -
Eisteddfod Wrecsam 2025

Cyhoeddwyd hyn ar lwyfan y Pafiliwn, ddydd Mercher 6 Awst, a derbyniodd Lucy Dlws Dysgwr y Flwyddyn, yn rhoddedig gan Spencer a Jeni Harris, a £300, yn rhoddedig gan Ann Aubrey. Derbyniodd y tri arall yn y rownd derfynol yn derbyn £100 yr un.

Dywedodd Lucy ar ol y seremoni ei bod dal mewn sioc.

“Dwi’n falch iawn. Wnes i erioed feddwl faswn yn ennill ac i wneud hynny yn Is-y-Coed mae’n wych. Rwyn emosiynol iawn does dim gair i ddisgrifio sut dwi’n teimlo.

“Mae ennill hwn yn golygu’r byd i mi. Rwyn byw yn lleol ac yn gweithio’n lleol ond doeddwn ddim yn teimlo fy mod yn ffitio fewn. Dwin siared hefo acen Saesneg a doeddwn ddim yn siared Cymraeg. Doedd pobl ddim yn deall pam roeddwn yn dysgu Cymraeg ond dwi mor falch fy mod wedi gwneud,” meddai.

Ychwanegodd y bydd yn cario ymlaen gyda gwersi Cymraeg a cynnal gwersi gemwaith yn yr iaith.

“Ac fe fydd gennym rhywbeth i’w drafod yn y grwp trafod nesaf,” meddai.

Beirniaid y gystadleuaeth oedd Steve Morris, Francesca Sciarrillo ac Ian Gwyn Hughes.

Rhannu
Erthygl flaenorol Jayne Bryant Cymunedau Cymru i dderbyn hwb adfywio gwerth £17m

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Lucy Cowley
Lucy Cowley yw dysgwr y flwyddyn eleni
Digwyddiadau Pobl a lle Awst 6, 2025
Jayne Bryant
Cymunedau Cymru i dderbyn hwb adfywio gwerth £17m
Busnes ac addysg Pobl a lle Awst 5, 2025
ruthin road
Cofiwch am wasanaeth Parcio a Theithio Ffordd Rhuthun
Pobl a lle Y cyngor Awst 5, 2025
Eisteddfod Wrecsam 2025
Eisteddfod Wrecsam 2025!
Digwyddiadau Fideo Awst 5, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Jayne Bryant
Busnes ac addysgPobl a lle

Cymunedau Cymru i dderbyn hwb adfywio gwerth £17m

Awst 5, 2025
ruthin road
Pobl a lleY cyngor

Cofiwch am wasanaeth Parcio a Theithio Ffordd Rhuthun

Awst 5, 2025
Eisteddfod Wrecsam 2025
DigwyddiadauFideo

Eisteddfod Wrecsam 2025!

Awst 5, 2025
Wrexham's Year of Wonder
DigwyddiadauPobl a lle

Lansio “Blwyddyn o Ryfeddod” Wrecsam

Awst 5, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English