Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Mae angen enw ar amgueddfa newydd Wrecsam!
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Image: Residents and staff at Penygelli care home in Wrexham.
Preswylwyr cartrefi gofal yn dod at ei gilydd i greu llyfr ryseitiau calonogol
Pobl a lle
Llay coal tip in Wrexham
Dyfarnwyd dros £1.3 miliwn i Gyngor Wrecsam o gynllun Grant Diogelwch Tomenni Glo
Arall
The renal team at the Maelor Hospital in Wrexham
12 Mawrth yw Diwrnod Arennau’r Byd!
Arall
Wrexham v Swansea
Wrecsam v Abertawe – beth am barcio a theithio?
Digwyddiadau Pobl a lle
Wythnos Croeso i Dy Bleidlais 2026
Wythnos Croeso i Dy Bleidlais 2026
Pobl a lle
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Mae angen enw ar amgueddfa newydd Wrecsam!
Pobl a lle

Mae angen enw ar amgueddfa newydd Wrecsam!

Diweddarwyd diwethaf: 2024/11/07 at 2:12 PM
Rhannu
Darllen 4 funud
Mae angen enw ar amgueddfa newydd Wrecsam!
Llun trwy garedigrwydd Haley Sharpe /Image courtesy of Haley Sharpe
RHANNU

Mae gwaith adeiladu bellach ar y gweill i drawsnewid Adeiladau’r Sir 167 oed yng nghanol dinas Wrecsam yn atyniad cenedlaethol newydd sbon, nid yn unig i Wrecsam ond i Gymru gyfan.

Cynnwys
Byddwch yn rhan o foment hanesyddolEnw i adlewyrchu balchder ein cenedlDarganfod mwy am yr amgueddfa newydd

Yr amgueddfa newydd fydd cartref Amgueddfa Wrecsam ac orielau Amgueddfa Bêl-droed Cymru.

Mae dau enw wedi cyrraedd rhestr fer yr amgueddfa newydd yn seiliedig ar ymchwil cynulleidfa ar draws Wrecsam a Chymru gyfan, a nawr eich tro chi yw dewis eich ffefryn.

Nid dim ond ie neu na yw hyn – mae gan bob enw stori ac ystyr unigryw y tu ôl iddo.

Dewis 1: Tŷ Hanes

Mae’r enw “Tŷ Hanes” yn dathlu beth yw amgueddfa. Mae’n fan croesawus er mwyn archwilio hanes pêl droed Cymru a hanes Wrecsam. Mae’r enw’n gysurus, fel cartref yn llawn straeon i’w hadrodd.

Dewis 2: Histordy

Mae’r enw “Histordy” yn cyfuno “histor” o’r gair Saesneg “history” a “stordy” yn y Gymraeg i greu enw newydd. Fel arfer mae geiriau sy’n gorffen gyda “-dy” yn adeiladau, fel archifdy, injandy, ysgoldy neu oleudy. Mae “Histordy” yn hawdd ei ynganu gan siaradwyr Cymraeg a’r rhai sydd ddim yn siarad Cymraeg.

Cymerwch eiliad i ystyried y syniadau a’r ysbrydoliaeth y tu ôl i bob enw, yna gadewch i ni wybod beth yw eich barn

Cymerwch eiliad i ystyried y syniadau a’r ysbrydoliaeth y tu ôl i bob enw, yna gadewch i ni wybod beth yw eich barn trwy lenwi’r holiadur byr hwn.

Byddwch yn rhan o foment hanesyddol

Dywedodd y Cynghorydd Paul Roberts, Aelod Arweiniol Partneriaethau Cyngor Wrecsam: “Gydag orielau newydd o’r radd flaenaf ac adeilad wedi’i adnewyddu a’i ymestyn yn llwyr, bydd yr amgueddfa’n atyniad cenedlaethol newydd i Wrecsam, gan ddenu miloedd o ymwelwyr o bob rhan o Gymru a tu hwnt

“Mae gwaith adeiladu wedi bod yn mynd rhagddo’n dda ar y safle dros yr ychydig wythnosau diwethaf ac mae bwrlwm gwirioneddol yn tyfu o amgylch y prosiect wrth i raddfa’r cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer yr amgueddfa newydd hon ddod yn amlwg.

“Rydym nawr yn gofyn i’r cyhoedd ein helpu i ddewis enw cyffredinol ar gyfer yr amgueddfa a fydd yn cwmpasu orielau Amgueddfa Wrecsam ac Amgueddfa Bêl-droed Cymru, y siop a’r caffi, yr atyniad cyfan.

“Bydd yr enw newydd yn helpu i roi hunaniaeth unigryw i’r amgueddfa newydd, gan ddwyn ynghyd bopeth sydd ar gael o dan ei tho, yn ogystal â lansio pennod newydd ym mywyd un o adeiladau mwyaf eiconig Wrecsam.

“Rydym yn gwahodd pawb i gwblhau’r holiadur a bod yn rhan o’r foment hanesyddol hon.”

Enw i adlewyrchu balchder ein cenedl

Dywedodd Gweinidog Diwylliant Llywodraeth Cymru, Jack Sargeant: “Mae’n gyfnod cyffrous i Lywodraeth Cymru ariannu’r amgueddfa newydd hon. Wrth ddewis ei enw, nid yn unig rydyn ni’n labelu adeilad ond rydyn ni’n rhoi cartref i hanes, atgofion a straeon dyfodol Wrecsam a phêl-droed Cymru.

“Boed yn ‘Tŷ Hanes’ neu’n ‘Histordy’, mae pob enw yn adlewyrchu balchder ein cenedl i gadw ei hanes amrywiol. Eich llais chi fydd yn llywio etifeddiaeth yr amgueddfa hon – rhowch eich barn a byddwch yn rhan o bennod newydd yn stori gyfoethog Cymru.”

Darganfod mwy am yr amgueddfa newydd

Mae’r Amgueddfa’n cael ei datblygu gan dîm amgueddfa Cyngor Wrecsam ar y cyd â’r dylunwyr amgueddfeydd, Haley Sharpe Design, y penseiri Purcell a’r contractwr SWG Construction.

Darperir cymorth ariannol ar gyfer yr amgueddfa newydd gan Gyngor Wrecsam, Llywodraeth Cymru, Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Llywodraeth y DU a Sefydliad Wolfson.

Darganfod mwy am brosiect yr Amgueddfa Dwy Hanner

TAGGED: Football, history, Museum, Tourism, wrecsam
Rhannu
Erthygl flaenorol Person yn palu’r ddaear wrth blannu coeden Dewch i roi help llaw a helpwch i blannu coed ym Marchwiel!
Erthygl nesaf Criw HMS Dragon i ymweld â Wrecsam i gefnogi Apêl y Pabi a gorymdaith Sul y Cofio Criw HMS Dragon i ymweld â Wrecsam i gefnogi Apêl y Pabi a gorymdaith Sul y Cofio

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Image: Residents and staff at Penygelli care home in Wrexham.
Preswylwyr cartrefi gofal yn dod at ei gilydd i greu llyfr ryseitiau calonogol
Pobl a lle Mawrth 13, 2026
Llay coal tip in Wrexham
Dyfarnwyd dros £1.3 miliwn i Gyngor Wrecsam o gynllun Grant Diogelwch Tomenni Glo
Arall Mawrth 12, 2026
The renal team at the Maelor Hospital in Wrexham
12 Mawrth yw Diwrnod Arennau’r Byd!
Arall Mawrth 12, 2026
Wrexham v Swansea
Wrecsam v Abertawe – beth am barcio a theithio?
Digwyddiadau Pobl a lle Mawrth 11, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Image: Residents and staff at Penygelli care home in Wrexham.
Pobl a lle

Preswylwyr cartrefi gofal yn dod at ei gilydd i greu llyfr ryseitiau calonogol

Mawrth 13, 2026
Wrexham v Swansea
DigwyddiadauPobl a lle

Wrecsam v Abertawe – beth am barcio a theithio?

Mawrth 11, 2026
Wythnos Croeso i Dy Bleidlais 2026
Pobl a lle

Wythnos Croeso i Dy Bleidlais 2026

Mawrth 11, 2026
Young Carers Action Day 2026
Pobl a lle

Diwrnod Gweithredu Gofalwyr Ifanc 2026

Mawrth 10, 2026
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English