Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Criw HMS Dragon i ymweld â Wrecsam i gefnogi Apêl y Pabi a gorymdaith Sul y Cofio
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Photo showing the eisteddfod site on a bright day with clear blue skies. The huge eisteddfod letters are in he foreground with the main pavillion in the background.
Cynllun mynediad am ddim i’r Eisteddfod i deuluoedd lleol ar incwm isel
Digwyddiadau Pobl a lle
Da i fusnes, da i gymdeithas: mae cyflogi rhywun ag anabledd dysgu yn gwneud synnwyr perffaith
Da i fusnes, da i gymdeithas: mae cyflogi rhywun ag anabledd dysgu yn gwneud synnwyr perffaith
Busnes ac addysg
trees
Fandaleiddio coed ym Mhlas Madog yn ennyn dicter y gymuned
Pobl a lle
9000
Wrecsam yn dathlu plannu dros 9000 o goed newydd
Pobl a lle Y cyngor
Ty Mawr
Parciau gwledig Wrecsam o’r awyr
Fideo Pobl a lle Y cyngor
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Criw HMS Dragon i ymweld â Wrecsam i gefnogi Apêl y Pabi a gorymdaith Sul y Cofio
Pobl a lle

Criw HMS Dragon i ymweld â Wrecsam i gefnogi Apêl y Pabi a gorymdaith Sul y Cofio

Diweddarwyd diwethaf: 2024/11/08 at 10:39 AM
Rhannu
Darllen 4 funud
Criw HMS Dragon i ymweld â Wrecsam i gefnogi Apêl y Pabi a gorymdaith Sul y Cofio
RHANNU

Fe fydd morwyr o HMS Dragon yn ymweld â Wrecsam i helpu i godi arian ar gyfer Apêl y Pabi yn Stok Cae Ras a chymryd rhan yng ngorymdaith Dydd y Cofio swyddogol y ddinas.

Cynnwys
Sul y CofioWrecsam yn nodi Penwythnos y Cofio gydag arddangosfa pabi yng Ngerddi Jiwbilî ac arddangosfa oleuadau yn Eglwys San Silyn

Dyma fydd yr ail waith y bydd personél o Long Ddistryw Math 45 fodern yn ymweld â Wrecsam ers i’r ddinas gael ei chysylltu gyda’r Llynges Frenhinol yn ôl ym mis Ebrill.

Fe fydd rhywfaint o’r criw yng ngêm Wrecsam vs Mansfield Town ddydd Sadwrn, 9 Tachwedd i helpu i gasglu ar gyfer to help Apêl y Pabi eleni – yr elusen sydd yn rhoi cefnogaeth hollbwysig i gyn filwyr a’u teuluoedd.

Sul y Cofio

Yna, ddydd Sul 10 Tachwedd, bydd y morwyr yn cymryd rhan yng ngorymdaith swyddogol Sul y Cofio drwy’r ddinas, cyn mynychu’r gwasanaeth coffa yn y Senotaff ym Modhyfryd.

- Cofrestru -
Eisteddfod Wrecsam 2025

Meddai’r Cynghorydd Beverley Parry-Jones, Cefnogwr y Lluoedd Arfog yng Nghyngor Wrecsam: “Mae Wrecsam yn ymfalchïo yn ei gysylltiadau cryf gyda’r Lluoedd Arfog, ac fe fydd hi’n anrhydedd enfawr i groesawu’r criw i’r ddinas eto.

“Rydym ni’n gobeithio y bydd cynifer o bobl â phosibl yn cefnogi Apêl y Pabi yn y gêm, ac yn dod allan i gefnogi’r orymdaith a’r gwasanaeth ar Sul y Cofio.”

Meddai fydd Pennaeth Milwrol HMS Dragon, Comander Iain Giffin, a fydd yn gosod torch yn y gwasanaeth ddydd Sul: “Mae hi’n anrhydedd ac yn bleser gan fy llongwyr a minnau o HMS Dragon ein bod wedi cael cynnig cymryd rhan yng ngorymdaith Sul y Cofio yn ninas Wrecsam am y tro cyntaf.

“Mae achlysuron fel hyn yn galluogi i ni ddangos ein cefnogaeth i Wrecsam er mwyn dod yn agosach at ein cymuned gysylltiedig, a phobl y ddinas.

“Rydym ni’n edrych ymlaen at ymuno â phawb yn anrhydeddu’r rhai sydd wedi aberthu eu bywydau a chofio’r rhai a wasanaethodd ac sydd yn gwasanaethu’r genedl, gartref a thramor.”

Fe fydd gorymdaith Dydd y Cofio yn gadael Barics Hightown am 10.30am ddydd Sul, 10 Tachwedd. Fe fydd y gwasanaeth yn dechrau yn y Senotaff ym Modhyfryd yn fuan ar ôl 11am.

Wrecsam yn nodi Penwythnos y Cofio gydag arddangosfa pabi yng Ngerddi Jiwbilî ac arddangosfa oleuadau yn Eglwys San Silyn

Criw HMS Dragon i ymweld â Wrecsam i gefnogi Apêl y Pabi a gorymdaith Sul y Cofio
Criw HMS Dragon i ymweld â Wrecsam i gefnogi Apêl y Pabi a gorymdaith Sul y Cofio

Ar Benwythnos y Cofio, bydd arddangosfa o gerfluniau pabi wedi’u creu gan Ganolfan Gwaith Haearn Prydain i’w gweld yng Ngerddi Jiwbilî drws nesaf i Lyfrgell Wrecsam.

Ochr yn ochr â’r arddangosfa, fe fydd Eglwys San Silyn yn cael ei goleuo nos Sadwrn a nos Sul (9 a 10 Tachwedd).

Mae’r arddangosfa pabi wedi cael ei threfnu’n ofalus i anrhydeddu’r rhai a fu’n gwasanaethu, a bydd goleuo Eglwys San Silyn yn deyrnged arbennig er cof amdanynt.

Meddai’r Cynghorydd Beverley Parry-Jones, Cefnogwr y Lluoedd Arfog yng Nghyngor Wrecsam: “Mae Penwythnos y Cofio yn amser i ni gyd ddod ynghyd. Mae’r arddangosfa pabi a goleuadau’r Eglwys yn ein hatgoffa o ddewrder ac aberth gan gynifer.

Mae’r gymuned yn cael ei hannog i ymweld ag Arddangosfa Pabi Gerddi Jiwbilî ac Eglwys San Silyn dros y penwythnos i adlewyrchu ar yr achlysur pwysig.

Wrecsam yn Cofio – Sul y Cofio a Diwrnod y Cadoediad 2024 – Newyddion Cyngor Wrecsam

Rhannu
Erthygl flaenorol Mae angen enw ar amgueddfa newydd Wrecsam! Mae angen enw ar amgueddfa newydd Wrecsam!
Erthygl nesaf Foster Wales Wrexham supports its foster carers every step of the way “Rydym yn ymroddedig i gefnogi ein gofalwyr maeth ar bob cam o’r ffordd”

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Photo showing the eisteddfod site on a bright day with clear blue skies. The huge eisteddfod letters are in he foreground with the main pavillion in the background.
Cynllun mynediad am ddim i’r Eisteddfod i deuluoedd lleol ar incwm isel
Digwyddiadau Pobl a lle Gorffennaf 4, 2025
Da i fusnes, da i gymdeithas: mae cyflogi rhywun ag anabledd dysgu yn gwneud synnwyr perffaith
Da i fusnes, da i gymdeithas: mae cyflogi rhywun ag anabledd dysgu yn gwneud synnwyr perffaith
Busnes ac addysg Gorffennaf 4, 2025
trees
Fandaleiddio coed ym Mhlas Madog yn ennyn dicter y gymuned
Pobl a lle Gorffennaf 4, 2025
9000
Wrecsam yn dathlu plannu dros 9000 o goed newydd
Pobl a lle Y cyngor Gorffennaf 4, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Photo showing the eisteddfod site on a bright day with clear blue skies. The huge eisteddfod letters are in he foreground with the main pavillion in the background.
DigwyddiadauPobl a lle

Cynllun mynediad am ddim i’r Eisteddfod i deuluoedd lleol ar incwm isel

Gorffennaf 4, 2025
trees
Pobl a lle

Fandaleiddio coed ym Mhlas Madog yn ennyn dicter y gymuned

Gorffennaf 4, 2025
9000
Pobl a lleY cyngor

Wrecsam yn dathlu plannu dros 9000 o goed newydd

Gorffennaf 4, 2025
Ty Mawr
FideoPobl a lleY cyngor

Parciau gwledig Wrecsam o’r awyr

Gorffennaf 4, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English