Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Mae angen i ni adolygu ein Gwasanaethau Llyfrgelloedd – rhowch wybod i ni beth yw eich barn
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Mae angen i ni adolygu ein Gwasanaethau Llyfrgelloedd – rhowch wybod i ni beth yw eich barn
Pobl a lleY cyngor

Mae angen i ni adolygu ein Gwasanaethau Llyfrgelloedd – rhowch wybod i ni beth yw eich barn

Diweddarwyd diwethaf: Hydref 1, 2019 9:35 am
Rhannu
Darllen 5 funud
surgery to waterloo
RHANNU

Rydym yn gwybod pa mor boblogaidd yw’n Gwasanaethau Llyfrgelloedd, a pha mor bwysig ydynt i’w cymunedau lleol.

Cynnwys
  • Cysylltiadau gyda Galw Wrecsam
  • Sioe deithiol
  • “Byddwn yn gwneud ein gorau glas i sicrhau bod gan gymunedau fynediad at wasanaeth llyfrgell modern.”

Rydym wedi gorfod gwneud toriadau sylweddol i gyllideb ein gwasanaethau i gyd dros y pum mlynedd diwethaf; cyfanswm o £33 miliwn – ac rydym wedi gorfod torri £62 miliwn o’n cyllideb gyffredinol ers i fesurau caledi economaidd gael eu cyflwyno gan Lywodraeth y DU yn 2007/8.

Oherwydd ein sefyllfa ariannol ar ôl mwy na degawd o galedi ariannol, a’r heriau rydym yn debygol o wynebu i’r gyllideb yn y blynyddoedd i ddod, rydym wedi gorfod gwneud toriadau o £300,000 i Wasanaeth Llyfrgelloedd Wrecsam dros y ddwy flynedd nesaf.

DERBYNIWCH Y WYBODAETH DDIWEDDARAF – YMAELODWCH I GAEL EIN PRIF STRAEON.

Felly mae angen i ni edrych ar y mathau o newidiadau sydd angen i ni eu gwneud i’r llyfrgelloedd.

Ni fydd pob newid rydym yn ei wneud i’r gwasanaethau yn dod o doriadau’n unig – bydd rhai ohonynt yn newidiadau y byddwn yn eu gwneud er mwyn moderneiddio’r gwasanaeth, i’w wneud yn wasanaeth perthnasol a chynaliadwy wrth symud ymlaen.

Bydd yr ymgynghoriad yn mynd yn fyw ar ddydd Llun, Medi 30.

Cysylltiadau gyda Galw Wrecsam

Mae posibiliadau diddorol eraill ar gyfer ein Gwasanaethau Llyfrgelloedd.

Erbyn diwedd 2020, bydd angen i ni symud o’n swyddfeydd Galw Wrecsam ar Stryt Yr Arglwydd.

Efallai bydd cyfle da i ddefnyddio ein llyfrgelloedd i letya staff Galw Wrecsam yn eang ar draws y fwrdeistref sirol, a darparu lleoliadau hyblyg iddynt.

Ond mae hynny’n rhywbeth y bydd angen holi’r cyhoedd yn ei gylch, felly mae’n hanfodol eich bod cymryd rhan yn yr ymgynghoriad.

Sioe deithiol

Byddwn hefyd yn cynnal sioe deithiol ar yr ymgynghoriad a’r rhesymiadau y tu ôl iddo ar y dyddiau, llyfrgelloedd a lleoliadau canlynol:

  • Medi 30 – Llyfrgell Wrecsam: 10am hyd at ganol dydd; 2pm hyd at 4pm; ac o 4pm hyd at 6pm
  • Hydref 1 – Tŷ Pawb: 10am hyd at 3pm
  • Hydref 2 – Owrtyn: 3pm hyd at 5pm
  • Hydref 4 – Coedpoeth: 3pm hyd at 5pm
  • Hydref 14 – Rhosllanerchrugog: 3pm hyd at 5pm
  • Hydref 15 – Gwersyllt: 3pm hyd at 5pm
  • Hydref 16 – Brynteg: 3pm hyd at 5pm
  • Hydref 17 – Y Waun: 3pm hyd at 5pm
  • Hydref 18 – Llai: 3pm hyd at 5pm
  • Hydref 19 – Wrecsam: 10am hyd at ganol dydd; 1pm hyd at 3pm
  • Hydref 28 – Rhiwabon: 3pm hyd at 5pm
  • Hydref 30 – Cefn: 3pm hyd at 5pm
  • Tachwedd 6 – Canolfan Glyn Ceiriog: 10am hyd at ganol dydd
  • Tachwedd 7 – Tŷ Pawb: 10am hyd at 3pm
  • Tachwedd 11 – Canolfan Menter Brymbo: 10am hyd at ganol dydd
  • Tachwedd 12 – Splash Magic: 5pm hyd at 7pm
  • Tachwedd 13 – Canolfan Adnoddau Acton: 3pm hyd at 7pm
  • Tachwedd 14 – Rhostyllen (llyfrgell deithiol): 2pm hyd at 4pm
  • Tachwedd 15 – Holt (Cae’r Llew – llyfrgell deithiol): 9.45am hyd at ganol dydd
  • Tachwedd 21 – Partneriaeth Parc Caia – 11am hyd at 1pm

“Byddwn yn gwneud ein gorau glas i sicrhau bod gan gymunedau fynediad at wasanaeth llyfrgell modern.”

Dywedodd y Cyng. Andrew Atkinson, Aelod Arweiniol Gwasanaethau Ieuenctid a Gwrth-dlodi: “Yn sgil yr heriau ariannol rydym yn eu hwynebu, byddwn – yn anffodus – yn gorfod gwneud newidiadau i’n Gwasanaeth Llyfrgelloedd i sicrhau eu bod yn parhau i fod yn hyfyw a chynaliadwy yn y dyfodol.

“Ond yn ogystal â gorfod gwneud newidiadau yn unol â’r toriadau, bydd rhai o’r newidiadau sy’n cael eu cynllunio yn gwneud y gwasanaeth yn fwy hwylus a hygyrch i ddefnyddwyr y llyfrgell. Mae posibilrwydd y gall gwasanaethau Galw Wrecsam eu hintegreiddio gyda’r llyfrgelloedd.

“Ond mae angen barn y cyhoedd arnom ar yr uchod, i roi gwybod i ni pa drywydd i’w ddilyn – ac o ganlyniad byddwn yn annog pob un sy’n defnyddio’r llyfrgell, a chymunedau i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad a lleisio eu barn.”

I gymryd rhan yn yr ymgynghoriad, ewch i’n wefan Eich Llais.

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_5″] SIGN ME UP NOW [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Siôn Corn job at Wrexham Council Hysbysebu swyddi Siôn Corn a’i gynorthwydd (darperir barf wen a chlustiau corrach)
Erthygl nesaf Dathlu Diwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth yn Wrecsam Dathlu Diwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth yn Wrecsam

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

sign for site
Cyngor Wrecsam i ddechrau dymchwel i wneud lle i ailddatblygu tai cymdeithasol
Y cyngor
Medi 22, 2026
Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell
Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell
Pobl a lle
Medi 22, 2026
Gresford memorial wheel
Colli 266 o fywydau yn enw glo – Trychineb Gwaith Glo Gresffordd 92 mlynedd yn ddiweddarach
Pobl a lle
Medi 22, 2026
Street lighting
Cyngor Wrecsam yn tynnu sylw at beryglon dringo goleuadau stryd
Arall
Medi 21, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Horse Riders
ArallPobl a lle

Cyngor ar gyfer gyrru ystyriol o gwmpas marchogion

Medi 21, 2026
Y Cyngor wedi cefnogi mwy na 220,000 o deithiau ar wasanaethau bws
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Y Cyngor wedi cefnogi mwy na 220,000 o deithiau ar wasanaethau bws

Medi 21, 2026
Gwersyllt
Y cyngor

Dan sylw: Rôl cynghorydd

Medi 21, 2026
Tennis o'r radd flaenaf yn dychwelyd i Wrecsam ym mis Hydref
DigwyddiadauPobl a lle

Tennis o’r radd flaenaf yn dychwelyd i Wrecsam ym mis Hydref

Medi 18, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English