Mae Amgueddfa Bêl-droed newydd Cymru yn estyn allan at gefnogwyr clybiau a gwlad i rannu straeon cofiadwy.
Bydd yr Amgueddfa Bêl-droed yn ffurfio un hanner o’r ‘Amgueddfa Ddwy Hanner’ newydd sy’n cael ei datblygu yn Wrecsam.
Wedi’i threfnu i agor yn 2026, bydd hanner pêl-droed yr amgueddfa yn dathlu pêl-droed Cymru, y gorffennol a’r presennol, yn ei holl amrywiaeth, o glybiau gwaelodol i’r timau cenedlaethol, yn ogystal ag amlygu cyflawniadau hanesyddol Wrecsam yn y gamp a dathlu treftadaeth gyfoethog y Fwrdeistref Sirol.
Bydd hanner arall yr atyniad cenedlaethol newydd yn gartref i amgueddfa newydd sbon i Wrecsam. Bydd orielau newydd yn cael eu creu i arddangos casgliadau Amgueddfa Wrecsam.






Casglu straeon i genedlaethau’r dyfodol eu mwynhau
Mae Swyddog Ymgysylltu Pêl-droed yn yr amgueddfa newydd, Shôn Lewis, yn egluro:
“Un o’r rhannau mwyaf cyffrous o ddatblygu’r amgueddfa newydd hon fu teithio o gwmpas Cymru a chlywed rhai o’r straeon anhygoel y mae cefnogwyr wedi’u rhannu gyda ni. Mae rhai yn wirioneddol gyffrous, mae rhai’n ddoniol ac mae rhai’n anghredadwy!
“Nid yw Cymru erioed wedi cael amgueddfa bwrpasol ar gyfer ei phêl-droed genedlaethol o’r blaen, felly mewn llawer o achosion mae’r straeon hyn yn cael eu cofnodi a’u casglu am y tro cyntaf. Rydyn ni’n gwybod bod cymaint o straeon gwych eraill allan yna a’n tasg ni yw sicrhau eu bod nhw’n cael eu casglu i eraill eu mwynhau am flynyddoedd i ddod.
“Gallai fod yn brofiad a gawsoch mewn gêm glasurol (neu ddim mor glasurol) y buoch chi’n mynychu, cyfarfyddiad siawns ag arwr pêl-droed Cymru, digwyddiad cofiadwy yn eich clwb lleol, neu ddim ond atgof pêl-droed arbennig o’ch plentyndod yr hoffech chi ei rannu.
“Mae gennym ni ddiddordeb arbennig mewn clywed gennych chi os oes gennych chi eitem bersonol o atgofion pêl-droed i gyd-fynd â’ch stori.
“Boed yn eich clwb lleol yng Nghymru neu’r tîm cenedlaethol, mae’r holl straeon hyn yn rhan o’r tapestri cyfoethog o hanes pêl-droed yn ein gwlad – rydyn ni eisiau casglu cymaint ag y gallwn ni!”
Cysylltwch â thîm Amgueddfa Bêl-droed Cymru gyda’ch stori drwy e-bostio footballmuseumwales@wrexham.gov.uk