Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Mae artist Katie Cuddon wrth ei bodd i fod yn gweithio yn Wrecsam…a dyma pam…
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Mae artist Katie Cuddon wrth ei bodd i fod yn gweithio yn Wrecsam…a dyma pam…
Pobl a lle

Mae artist Katie Cuddon wrth ei bodd i fod yn gweithio yn Wrecsam…a dyma pam…

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 7, 2017 3:20 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Artist Katie Cuddon
RHANNU

Bydd gwaith celf gyhoeddus anferth ar gyfer y cyfleuster celfyddydau a marchnad newydd yn cael eu creu gan yr artist Katie Cuddon ac mae hi’n edrych ymlaen yn fawr am y peth.

Cynnwys
  • “Mae’n gyfle cyffrous iawn i greu gwaith celf ar gyfer cyd-destun arloesol ac anaml iawn: cyfuno oriel gelf a marchnad.”
  • “…a fydd yn rhan bwysig o’n canolfan gelfyddyd”

Mae hi wedi curo cystadleuaeth gan gref o geisiadau a dderbyniwyd gan artistiaid ar draws y DU i gael y comisiwn, gan gynnwys digwyddiad ymgynghori â masnachwyr lleol a phroses cyfweld.

GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.

Roedd y broses ddewis yn cynnwys digwyddiad ymgynghori hefo masnachwyr lleol ac roedd cynrychiolydd masnachwyr lleol, Keith Evans o Oriel Annibynnol Wrecsam, hefyd ar y panel cyfweld.

Bydd Katie rŵan yn cael ei chomisiynu i greu darn o gelf enfawr ar gyfer cyfnod agoriadol Wal Pawb. Mae disgwyl gwaith llachar, anturus a chwareus fel canolbwynt ar gyfer y ganolfan newydd.

Bydd Wal Pawb yn dangos y Celfyddydau a’r Marchnadoedd yn dod ynghyd o fewn y datblygiad newydd. Bydd y gwaith celf terfynol yn ymestyn dros ddau fwrdd poster mawr a bydd y mwyaf yn 9 metr o hyd. Bydd y ddau fwrdd yn cynnwys tri llun yr un a fydd yn cylchdroi.

Dros y chwe mis nesaf, fe fydd Katie’n gweithio gyda nifer o grwpiau ac aelodau o’r cyhoedd i gael ysbrydoliaeth ar gyfer y gwaith. Bydd gwaith Katie ar Wal Pawb yn cael ei ddadorchuddio wrth agor y Ganolfan Gelfyddydau, Marchnadoedd a Diwylliant newydd yn ystod gwanwyn 2018.

Bydd y gwaith i’w weld am 12 mis cyn i gomisiwn newydd ddod yn ei le.

“Mae’n gyfle cyffrous iawn i greu gwaith celf ar gyfer cyd-destun arloesol ac anaml iawn: cyfuno oriel gelf a marchnad.”

Dywedodd Katie:

“Mi ydw i wedi gwirioni o fod wedi cael fy newid i greu cyfres o weithiau celf ar gyfer Wal Pawb. Mae’n gyfle cyffrous iawn i greu gwaith celf ar gyfer cyd-destun arloesol ac anaml iawn: cyfuno oriel gelf a marchnad. Mi ydw i’n edrych ymlaen at weithio hefo masnachwyr a defnyddwyr y farchnad a’r delweddau sydd i’w gweld mewn marchnad. Mi ydw i am i’r gweithiau terfynol gynnwys holl ddelweddau, egni, bywyd ac agweddau cymdeithasol marchnad fel eu bod yn adlewyrchu’r amgylchedd y maen nhw ynddo gan hefyd fod yn fyd ar eu pennau eu hunain.”

“…a fydd yn rhan bwysig o’n canolfan gelfyddyd”

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol:

“Llongyfarchiadau i Katie sydd wedi plesio pawb a oedd yn rhan o’r broses ddewis ac a oedd yn meddwl bod arbenigedd Katie yn amlwg.  Mi ydw i’n edrych ymlaen at gael gweld ei chreadigaethau hi, a fydd yn rhan bwysig o’n canolfan gelfyddyd a marchnadoedd newydd.”

Wrth wraidd y prosiect mae denu’r gymuned leol i gymryd rhan, yn ogystal â dangos safon gelfyddydol y byddai rhywun yn ei disgwyl yn y datblygiad newydd. Bydd y gwaith terfynol, a gweithiau eraill ar Wal Pawb yn y dyfodol, yn rhywbeth y bydd Wrecsam yn gallu ymfalchïo ynddo wrth iddo ddenu cydnabyddiaeth o bob cwr o’r wlad.

Cyn hyn, mae Katie wedi dangos ei gwaith yng Nghymru, ar hyd y DU ac yn rhyngwladol.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.wrexham.gov.uk/welsh/user_register_w/register_w.cfm”]COFRESTRWCH FI[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Cynllun i fuddosddi er mwyn cefnogi’r “gwaith da” yng Nghanol Tref Wrecsam Cynllun i fuddosddi er mwyn cefnogi’r “gwaith da” yng Nghanol Tref Wrecsam
Erthygl nesaf Wnewch chi ddim credu pa mor hardd yw ein parciau gwledig Wnewch chi ddim credu pa mor hardd yw ein parciau gwledig

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Digwyddiadau Pobl a lle
Medi 2, 2026
Yorke Street
Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Blue emergency services light
Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Caffi hynaf Wrecsam wedi'i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Caffi hynaf Wrecsam wedi’i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
Pobl a lle
Medi 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Football park and ride
ArallPobl a lle

Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd

Awst 28, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lleY cyngor

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu

Awst 27, 2026
Tattoo Cymru 2026
DigwyddiadauPobl a lle

Tattoo Cymru yn dychwelyd i Wrecsam gyda Salíwt i Filwr y Môr

Awst 26, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English