Diwrnod y Cyfrifiad nesaf yw dydd Sul, 21 Mawrth, gyda’r arolwg unwaith-y-ddegawd wedi cael ei gynnal bob deng mlynedd ers 1801, ac eithrio 1941.
Hwn fydd y cyntaf i gael ei gynnal yn bennaf ar lein, gydag aelwydydd yn cael llythyr gyda chod mynediad unigryw, sy’n gadael iddyn nhw lenwi’r holiadur ar eu cyfrifiadur, eu ffôn neu eu dyfais llechen.
Mae’n amlwg y bydd Cyfrifiad 2021 yn cael effaith fawr ar wasanaethau pwysig dros y blynyddoedd i ddod, ond mae hefyd yn ddiddorol nodi sut y mae cofnodion cyfrifiadau’r gorffennol – o nifer fawr iawn o flynyddoedd yn ôl – yn parhau i fod yn fuddiol i lawer o bobl heddiw am reswm cwbl wahanol.
Y diweddaraf am y rhaglen frechu rhag Covid-19 ar draws Wrecsam a Gogledd Cymru
Y cyfrifiad ac ymchwil i hanes teuluoedd
Gyda rhaglenni teledu fel ‘Who Do You Think You Are?’ a ‘Long Lost Family’ yn fwy poblogaidd nag erioed, ydych chi erioed wedi meddwl am eich treftadaeth eich hun?
Mae nifer o enwogion wedi cymryd rhan mewn gwahanol fersiynau o’r rhaglenni hyn, gan gynnwys Lionel Richie, JK Rowling a Daniel Radcliffe, ond does dim rhaid i chi wneud cais i raglen deledu i ddod i wybod mwy am eich gwreiddiau…
Mae cofnodion o’r gorffennol yn hynod werthfawr i bobl sy’n treulio amser yn olrhain eu gwreiddiau, gydag un o drigolion Wrecsam yn rhannu sut y mae’r cyfrifiad wedi bod o gymorth mawr gyda’i hymchwil.
Dywedodd y wraig hon o Wrecsam: “Pan gychwynnais i ymchwilio i hanes fy nheulu, doeddwn i ddim yn siŵr iawn pa mor bell yn ôl y gallwn i fynd mewn gwirionedd, gan nad oeddwn i’n gwybod beth oedd ar gael i fy helpu. Ond alla’ i ddim esbonio pa mor bwysig y mae cofnodion cyfrifiadau’r gorffennol wedi bod i mi ar hyd fy nhaith.
“Mae yna gymaint o wahanol ganghennau o fy nghoeden deulu lle rydw i wedi dod i stop, ac yna wedi canfod y wybodaeth roedd arna’ i ei hangen mewn cyfrifiad. Roedd yna un gangen benodol nad oeddwn i’n gallu mynd â hi’n ddim pellach am hydoedd, ond yn y pendraw, fe ddois i o hyd i’r hyn roeddwn i ei angen yng nghyfrifiad 1901. Ers hynny, rydw i wedi olrhain y gangen honno o fy nheulu yr holl ffordd yn ôl i’r 1600au, a fyddai hynny ddim wedi bod yn bosib heb i’r cyfrifiad ddatrys y broblem gychwynnol yna.”
Fe ofynnom ni i’r wraig pam ei bod yn teimlo ei bod yn bwysig i bobl gymryd rhan yng Nghyfrifiad 2021, ac fe eglurodd: “Yn ogystal â’r ddyletswydd sydd arnoch chi i gymryd rhan a helpu llunio gwasanaethau ledled y DU, meddyliwch hefyd am eich disgynyddion yn y blynyddoedd i ddod, allai fod eisiau ymchwilio i hanes eu teulu eu hunain. Wedi’r cyfan, rydym ni’n rhan o genhedlaeth (y genhedlaeth glo) y mae pobl yn debygol iawn o fod eisiau gwybod popeth amdanom ni.”
Diddordeb mewn gwneud eich gwaith ymchwil eich hun?
Mae Llyfrgell Wrecsam yn gadael i aelodau gael mynediad at Ancestry a Find My Past, er bod ein llyfrgelloedd i gyd ar gau i’r cyhoedd yn sgil y sefyllfa bresennol. Ond gall aelodau’r llyfrgell gael mynediad i Ancestry ar lein o’u cartrefi drwy glicio yma a mewngofnodi.
Ddim yn aelod? Gall trigolion wneud cais i ymuno â’r llyfrgell ar ein gwefan.
Bydd Ancestry yn gadael i chi weld cofnodion cyfrifiadau rhwng 1841-1911 (polisi’r llywodraeth yw y dylai Awdurdod Ystadegau’r Deyrnas Unedig gadw holl ffurflenni’r cyfrifiadau am 100 mlynedd, felly 1911 yw’r un mwyaf diweddar sydd ar gael ar hyn o bryd).
Gwybodaeth am Gyfrifiad 2021
Diwrnod y Cyfrifiad fydd 21 Mawrth, ond bydd aelwydydd ledled y wlad yn cael llythyr gyda chod i’w ddefnyddio ar lein, sy’n gadael iddyn nhw gymryd rhan o ddechrau Mawrth ymlaen. Ydych chi wedi cael eich un chi eto?
Diwrnod y cyfrifiad yw Mawrth 21, ond bydd cartrefi nawr yn derbyn llythyrau gyda chodau ar-lein yn esbonio sut i lenwi eu ffurflenni. Os na fyddwch yn derbyn un yn yr wythnos neu ddwy nesaf, cysylltwch â chanolfan gyswllt y cyfrifiad os gwelwch yn dda ???? https://t.co/PwGj4bTns6 pic.twitter.com/OgdzQcT2fk
— Cyngor Wrecsam (@cbswrecsam) March 4, 2021
Meddai’r Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Rydym yn gweithio gyda’r Swyddfa Ystadegau Gwladol i annog nifer uchel o bobl i gymryd rhan yng Nghyfrifiad 2021. Nid oes unrhyw beth arall sy’n rhoi gymaint o fanylion am y gymdeithas rydym ni’n byw ynddi, gan helpu i wneud penderfyniadau gyda’r potensial o drawsnewid bywydau er gwell. Rydym yn annog preswylwyr Wrecsam yn gryf i gymryd rhan.”
Bydd y cyfrifiad yn cynnwys cwestiynau am eich rhyw, oed, gwaith, iechyd, addysg, maint eich aelwyd a’ch ethnigrwydd. Ac am y tro cyntaf erioed, bydd yn cynnwys cwestiwn yn gofyn i bobl a ydyn nhw wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog, yn ogystal â chwestiynau gwirfoddol i unigolion dros 16 oed am eu cyfeiriadedd rhywiol a’u hunaniaeth o ran rhywedd.
Yng Nghymru, bydd cwestiwn penodol i aelwydydd am eu sgiliau Cymraeg. Ac i’r rheiny ohonoch chi sydd eisiau llenwi’r cyfrifiad yn y Gymraeg, fe allwch chi wneud hynny ar lein ac ar bapur. Mae yna fotymau “Cymraeg” ac “English” y gallwch chi eu pwyso i fynd yn ôl ac ymlaen rhwng y ddwy iaith ar unrhyw adeg ar lein, ac ar bapur, fe allwch chi ddefnyddio’r Gymraeg a’r Saesneg ar yr un ffurflen.
Bydd y canlyniadau ar gael o fewn 12 mis, er y bydd cofnodion personol yn cael eu cadw dan glo am 100 mlynedd er mwyn eu cadw’n ddiogel ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i cyfrifiad.gov.uk, neu i gael cymorth i lenwi’r cyfrifiad, ffoniwch 0800 169 2021 / (gwasanaeth cyfnewid testun) (18001) 0800 169 2021.
CANFOD Y FFEITHIAU