Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Mae cynaliadwyedd yn ganolog i’r Archwood Group
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Mae cynaliadwyedd yn ganolog i’r Archwood Group
Pobl a lleBusnes ac addysg

Mae cynaliadwyedd yn ganolog i’r Archwood Group

Diweddarwyd diwethaf: Ebrill 29, 2024 10:54 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Archwood
RHANNU

Cwmni teuluol, proffesiynol yw’r Archwood Group, sydd yn wneuthurwr cynnyrch pren arweiniol sydd â dau frand masnachu, Richard Burbage, gweithgynhyrchwr a chyflenwr cydrannau i risiau, ategolion ar gyfer decin a mowldiau addurniadol, ac Atkinson & Kirby, cyflenwr lloriau pren caled premiwm.

Yn ddiweddar bu i’r Aelod Arweiniol ar gyfer Economi ac Adfywio, y Cynghorydd Nigel Williams, ynghyd â’r Tîm Busnes a Buddsoddi yn CBSW, gwrdd â staff yn y cwmni sydd â chynaliadwyedd yn un o’u prif flaenoriaethau.

Yn ystod yr ymweliad bu i Archwood ddangos sut maent yn arwain y ffordd yn y maes. Trwy ymuno ag ymgyrch Race To Zero y Cenhedloedd Unedig yn 2021 mae’r cwmni wedi gostwng eu hallyriadau Cwmpas 1 a 2, 66%. Maent wedi cyflawni hyn trwy ffurfio’r Grŵp Gweithredu Amgylcheddol mewnol sydd wedi gweithredu newidiadau busnes sydd wedi gweld buddsoddiadau mewn isadeiledd adnewyddadwy, peirianwaith newydd, systemau ailgylchu a TG.

Roedd Lee Burford (Cyfarwyddwr Gweithrediadau) a Lee Travis (Rheolwr Ansawdd a Chynaliadwyedd) yn cytuno fod y cwmni wedi gwneud cynnydd gwych ar eu siwrnai Sero Net ond nodwyd fod llawer o waith dal i’w wneud.

Archwood Group yn arwain y ffordd

“Fel nifer o gwmnïau gweithgynhyrchu yn y DU mae gennym gadwyn gyflenwi fyd-eang sy’n cynhyrchu allyriadau carbon yn anuniongyrchol. Ac rydym yn arwain y ffordd yma gan ein bod eisoes wedi asesu a dilysu ein hallyriadau Cwmpas 3. Rydym bellach yn ymgysylltu â chyflenwyr i gyfleu ein nodau cynaliadwyedd, y targedau gostwng sydd gennym ar gyfer y gadwyn gyflenwi a sut y byddwn yn cefnogi ein cyflenwyr ar eu siwrneiau Sero Net unigol eu hunain.

Os hoffech wybod mwy am gynaliadwyedd yn Archwood Group gweler y dolenni isod

Richard Burbridge am gynaliadwyedd

Atkinson and Kirby am gynaliadwyedd

Yn dilyn yr ymweliad dywedodd Nigel, “Mae hi’n galonogol gweld busnes lleol, teuluol gyda chymaint o frwdfrydedd tuag at ddatblygu arferion gweithio sy’n fwy cynaliadwy yn amgylcheddol a sut maent yn gweithio gyda’u cyflenwyr i gyrraedd yr un amcanion. Dymunaf yn dda iddynt ar ei siwrnai a byddaf yn cymryd diddordeb brwd wrth iddynt symud ymlaen.”

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch

Efallai yr hoffech hefyd ddarllen Gorymdaith yng Nghanol y Ddinas i goffáu 80 mlynedd ers glaniadau D-Day

Rhannu
Erthygl flaenorol Mae’n bleser gan Groundwork Gogledd Cymru gyhoeddi y cynhelir cyfres o weithdai crefft yn y Lleoliad yn y Parc, Parc Gwledig Dyfroedd Alun. Mae’n bleser gan Groundwork Gogledd Cymru gyhoeddi y cynhelir cyfres o weithdai crefft yn y Lleoliad yn y Parc, Parc Gwledig Dyfroedd Alun.
Erthygl nesaf Youth Work Cynllun Grant Bach Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid 2024 – 2025 – ar agor ar gyfer ceisiadau

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wo
Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid
Pobl a lle Arall Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 23, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Ffocws ar gymorth busnes yn Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 23, 2026
National Adoption Week 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru
Y cyngor Pobl a lle
Hydref 23, 2026
Could you be a councillor?
Allech chi fod yn gynghorydd?
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 22, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Busnes ac addysgPobl a lle

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi

Hydref 21, 2026
Sam Gardner
DigwyddiadauArallBusnes ac addysg

Athro ac awdur i roi sgwrs bwerus ar y system ofal

Hydref 22, 2026
Wrecsam 2029
Pobl a lle

Mae’n swyddogol! Mae Wrecsam wedi’i henwi ar restr fer derfynol teitl Dinas Diwylliant y DU

Hydref 22, 2026
Mayor attending the Taste of Nigeria Festival
Pobl a lleArall

Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Hydref

Hydref 21, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English