Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Mae Cyngor Wrecsam wedi gweld nifer o’i gartrefi gwag wedi lleihau bron i 50% dros y 2 flynedd diwethaf
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Mae Cyngor Wrecsam wedi gweld nifer o’i gartrefi gwag wedi lleihau bron i 50% dros y 2 flynedd diwethaf
Y cyngorArall

Mae Cyngor Wrecsam wedi gweld nifer o’i gartrefi gwag wedi lleihau bron i 50% dros y 2 flynedd diwethaf

Diweddarwyd diwethaf: Mai 31, 2024 2:10 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Void Property
RHANNU

Mae Cyngor Wrecsam wedi gweld ei nifer o dai gwag wedi lleihau bron i 50% dros y 2 flynedd ddiwethaf; ar hyn o bryd dim ond 1% o’n stoc sy’n wag gennym, wrth i’r gwaith adnewyddu gymryd lle rhwng ein deiliaid contract.

Bob blwyddyn, byddwn yn disgwyl rhwng 600-700 o eiddo i ddod yn wag, sydd yna’n cael ei neilltuo i un ai ein Sefydliad Llafur Uniongyrchol (SLlU) neu gontractwyr allanol i gwblhau’r gwaith adferol. Dyma ffigwr ar gyfartaledd sy’n seiliedig ar flynyddoedd blaenorol.

Mae’r adran wedi buddsoddi’n sylweddol ar adnewyddu eiddo gwag dros y 6-7 mlynedd diwethaf, ac mae hyn wedi bod o gymorth mawr gyda’r amseroedd cwblhau ar gyfer ein rhaglen adnewyddu eiddo gwag. Eleni, bydd £11 miliwn bellach yn cael ei fuddsoddi mewn eiddo gwag a bydd y rhain yn cael eu cwblhau yn defnyddio cyfuniad o’n SLlU mewnol a chontractwyr allanol. 

Mae’r flwyddyn ariannol bresennol yn gweld Cyngor Wrecsam yn newid ei weledigaeth ryw fymryn ar ei raglen adnewyddu.  Mae’r galw i gwrdd â Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC 2023) a chynlluniau Sero Net ar gyfer y dyfodol yn profi i fod yn her anferthol  yn yr hinsawdd ariannol sydd ohoni.

Yn achlysurol yn ystod y flwyddyn ac wrth ddefnyddio’r Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio mae cyfanswm bychan o eiddo wedi cael eu hadnewyddu’n llawn fel rhan o’r cynllun peilota.   Dyma’r gwaith sy’n cael ei wneud i leihau ôl-troed carbon yr eiddo, a hefyd bydd y cynlluniau peilota hyn yn helpu ein deiliaid contract gyda chostau ynni llai oherwydd effeithiolrwydd ynni yr eiddo sydd wedi’i drawsnewid.  

Yn y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi cwblhau 10 eiddo tebyg, ac rydym yn rhagweld y byddwn yn cynyddu’r ffigyrau hyn flwyddyn ar flwyddyn.

Meddai’r Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol Tai, “Rydym yn parhau i weithio ar ein heiddo gwag fel eu bod nhw’n cyrraedd y Safon Ansawdd Tai Cymru newydd.

“Dwi’n falch er gwaethaf yr heriau ariannol ein bod wedi llwyddo i leihau ein stoc o eiddo gwag bron i 50%. 

“Mae’r adnewyddiad ôl-osod yn ddefnyddiol ar gyfer ein deiliaid contract gan ei fod yn gallu lleihau costau a chynyddu effeithiolrwydd ynni eu heiddo, fodd bynnag bydd adnewyddiadau yn y dyfodol yn dibynnu ar gyllid.”

TAGGED:wrecsam
Rhannu
Erthygl flaenorol Dim ond wythnos sydd i fynd nes y bydd Lloyds Bank Taith Prydain Merched 2024 yn dod i Wrecsam Dim ond wythnos sydd i fynd nes y bydd Lloyds Bank Taith Prydain Merched 2024 yn dod i Wrecsam
Erthygl nesaf Marchnad Gwneuthurwyr Wrecsam yn dychwelyd dydd Sadwrn yma! Marchnad Gwneuthurwyr Wrecsam yn dychwelyd dydd Sadwrn yma!

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mae gennym lu o swyddi gwag newydd i chi eu chwilio...
Mae gennym lu o swyddi gwag newydd i chi eu chwilio…
Busnes ac addysg
Hydref 9, 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Y cyngor
Hydref 9, 2026
Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam
Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam
Y cyngor Digwyddiadau
Hydref 9, 2026
The People’s Emergency Briefing next screening is at
Ydych chi wedi gwylio The People’s Emergency Briefing? Archebwch eich tocynnau ar gyfer y dangosiad nesaf (17 Hydref)
Digwyddiadau Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 9, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Y cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam

Hydref 9, 2026
Horace outside Wrexham Library
FideoPobl a lleY cyngor

Braw i bawb yn Llyfrgell Wrecsam

Hydref 8, 2026
Housing Image
Y cyngor

Adran Tai Cyngor Wrecsam yn parhau i ymrwymo i Safonau Ansawdd Tai Cymru

Hydref 7, 2026
Occupational Therapy Week poster
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Digwyddiad gwybodaeth i arddangos gwasanaethau cymdeithasol yn ystod Wythnos Therapi Galwedigaethol

Hydref 1, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English