Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Mae Diwrnod Lluoedd Arfog Cymru yn argoeli i fod yn ddiwrnod gwych i bawb! (18 Mehefin, Wrecsam)
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Rhybudd tywydd - 26-27 Awst
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Mae Diwrnod Lluoedd Arfog Cymru yn argoeli i fod yn ddiwrnod gwych i bawb! (18 Mehefin, Wrecsam)
Y cyngor

Mae Diwrnod Lluoedd Arfog Cymru yn argoeli i fod yn ddiwrnod gwych i bawb! (18 Mehefin, Wrecsam)

Diweddarwyd diwethaf: Mehefin 13, 2022 9:53 am
Rhannu
Darllen 5 funud
Armed Forces Day
RHANNU

Ddydd Sadwrn nesaf, bydd tyrfaoedd o bobl o bob oedran yn dod i Wrecsam i ddathlu Diwrnod Lluoedd Arfog Cymru 2022.

Cynnwys
  • Adloniant ar y Bandstand
  • Y gornel rhwng Stryt yr Hôb a Stryt Henblas:

Bydd y faner yn cyhwfan uwch ben Neuadd y Dref yn barod ar gyfer y diwrnod mawr. Bydd gorymdaith o 300 o filwyr a chyn-filwyr, a bydd awyrennau bomio Lancaster Dinas Lincoln o Hediad Coffa Brwydr Prydain yn hedfan dros yr ardal.

Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.

Bydd llawer mwy i’w weld a’i wneud, a bydd yr arddangosfeydd yn agored o 10:00am, yn cynnwys teganau gwynt, cegin faes ac ysbyty maes gweithredol, cynrychiolwyr o Warchodlu Dragŵn y Frenhines, o’r Corfflu Arfog Brenhinol, gyda thanc Challenger 2, y Gwarchodlu Cymreig, y Llynges Frenhinol, yr Awyrlu Brenhinol, y Corfflu Logisteg Brenhinol, a’r Cymry Brenhinol, ochr yn ochr ag elusennau’r lluoedd arfog megis y Lleng Brydeinig Frenhinol a Woody’s Lodge.

Bydd yr orymdaith yn ymgynnull ym Modhyfryd am 10, ac yn cychwyn am 10:30 – yn cael ei harwain gan Fand y Cymry Brenhinol. Yn rhan o’r orymdaith, bydd Uwch-Gapten y Ceffyl Mark Holland o Warchodlu Dragŵn y Frenhines gyda’r masgot catrawd, yr Is-Gorporal Jones (sef Emrys Forlan Jones, y Ferlen Fynydd Gymreig); ac Uwch-Gapten yr Afr, y Rhingyll Mark Jackson gyda Siencyn IV, yr afr. Bydd y gweddill yn eu dilyn.

Byddant yn gadael Bodhyfryd ac yn gorymdeithio ar hyd Stryt Caer, y Stryt Fawr, Stryt yr Hôb, Stryt y Syfwr, Stryt y Lampint, i’r chwith o dan y bwa ac i Lwyn Isaf, lle byddant yn aros ac yn sefyll yn unionsyth ar gyfer y seremoni agoriadol swyddogol. Rhoddir areithiau gan y Prif Weithredwr, a fydd yn croesawu pawb i Ddiwrnod y Lluoedd Arfog; Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog, a fydd yn diolch i Gymuned y Lluoedd Arfog; a’r Brigadydd Andrew Dawes CBE, Comander Brigâd 160 y Milwyr Traed (Cymru) a phennaeth y Fyddin yng Nghymru. Dilynir hyn gan yr Anthemau Cenedlaethol.

Bydd awyrennau bomio Lancaster o Hediad Coffa Brwydr Prydain yn hedfan dros yr ardal am 13:38.

Bydd y digwyddiad yn parhau tan y seremoni gloi ar Lwyn Isaf am 15:45.

Drwy gydol y dydd, bydd pawb yn rhydd i gael mwynhau’r arddangosfeydd, sgwrsio gyda chynrychiolwyr y tri llu arfog a gweld yr hyn sydd ganddynt i’w arddangos. Bydd lluniaeth ar gael, gyda diodydd alcoholaidd a dialcohol, ynghyd ag adloniant o’r bandstand (gweler yr amserlen isod).

Adloniant ar y Bandstand

  • 11:30 – 12:15 – Band Glofa Ifton
  • 12:15 – 13:00 – Côr Meibion y Rhos
  • 13:00 – 13:45 – Band y Cymry Brenhinol
  • 13:45 – 15:45 – The Big Beat

Y gornel rhwng Stryt yr Hôb a Stryt Henblas:

  • 11:00 – 12:00 Band Cadetiaid yr Awyrlu Brenhinol
  • 12:00 – 12:30 Corfflu Drymiau Gwirfoddolwyr y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig
  • 12:30 – 13:30 Band Llu Cadetiaid y Fyddin Gwent a Phowys
  • Am 3:45 ceir areithiau’r seremoni gloi gan y Maer, y Cynghorydd Brian Cameron, a

Chomodor yr Awyrlu Adrian (Dai) Williams OBE ADC, Swyddog Awyr Cymru yr Awyrlu Brenhinol, sydd yn wreiddiol o Ddinbych. Bydd ‘Seremoni Machlud Haul’ fer gan fand y Cymry Brenhinol, a byddant yn gorymdeithio oddi yno.

Dywedodd y Cynghorydd Beverley Parry-Jones, Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog, “Bydd hwn yn ddigwyddiad cofiadwy ac rydym yn disgwyl ymwelwyr o bob cwr o Gymru a’r rhanbarthau i ddod i ddathlu gwaith y lluoedd arfog, yn y gorffennol ac yn y presennol, gyda ni.

“Maent yn parhau i’n gwasanaethu drwy heddwch ac adfyd, a hwn yw’r diwrnod y gallwn ddiolch iddynt hwy a’u teuluoedd am eu haberth wrth iddynt wasanaethu eu gwlad gyda balchder.”

href=”https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_5″> Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_5″]TANYSGRIFWYCH[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Wrexham Playday Sandpit Byddwch yn barod i boitsio!! Mae’r Diwrnod Chwarae yn ôl ar gyfer 2022
Erthygl nesaf BorrowBox Newyddion Llyfrgelloedd: Teitlau ‘No Queue’ o BorrowBox

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lle Y cyngor
Awst 27, 2026
Tattoo Cymru 2026
Tattoo Cymru yn dychwelyd i Wrecsam gyda Salíwt i Filwr y Môr
Digwyddiadau Pobl a lle
Awst 26, 2026
Mayor at the Welsh Blood Service donation clinic
Maer yn rhoi gwaed i gefnogi ymgyrch rhoi
Arall Pobl a lle
Awst 26, 2026
The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam
The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam
Y cyngor
Awst 25, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam

Awst 25, 2026
Dim newidiadau i gasgliadau biniau dros ŵyl banc mis Awst
Y cyngor

Dim newidiadau i gasgliadau biniau dros ŵyl banc mis Awst

Awst 24, 2026
Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan
Y cyngor

Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan

Awst 18, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio WrecsamY cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam

Awst 14, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English