Rydyn ni’n hapus iawn i gyhoeddi ein rhaglen arddangosfeydd newydd sbon ar gyfer y flwyddyn nesaf!
Mae yna 5 arddangosfa i gyd, sy’n mynd â ni hyd at Ebrill 2022.
Mae ein horielau yn parhau ar gau am y tro ond gobeithiwn allu croesawu ymwelwyr yn ôl i’r oriel cyn gynted ag y bydd yn ddiogel gwneud hynny.
Y diweddaraf am y rhaglen frechu rhag Covid-19 ar draws Wrecsam a Gogledd Cymru
Yn y cyfamser rydym yn falch iawn o gyhoeddi y bydd POB un o’n harddangosfeydd eleni ar gael i’w gweld fel teithiau rhithiol felly byddwch chi’n gallu ymweld â’r oriel ble bynnag yr ydych chi!
Cyrchfan newydd sefydledig i gefnogwyr y celfyddydau
Yn dilyn blwyddyn hynod heriol, rydym yn falch iawn o gyflwyno rhaglen lawn o arddangosfeydd yn Tŷ Pawb i fynd â ni drwodd i 2022.
Ers agor yn 2018, mae Tŷ Pawb wedi parhau i swyno cynulleidfaoedd gydag ystod amrywiol, hygyrch ac atyniadol o arddangosfeydd ar draws ei orielau.
Mae Tŷ Pawb hefyd wedi helpu i sefydlu Wrecsam fel cyrchfan newydd i gefnogwyr celf ledled y wlad, gan gynnal arddangosfeydd o’r radd flaenaf fel Cymru yn Fenis a Greyson Perry.
Mae’r rhaglen eleni yn edrych yr un mor lliwgar a bydd yn cynnwys arddangosfeydd sy’n dathlu artistiaid Cymraeg a threftadaeth leol Wrecsam, arddangosfa deithiol fawr arall yn y DU, arddangosfa wedi’i churadu gan Fwrdd Cynghori Ieuenctid Tŷ Pawb ac arddangosfa agored ryngwladol ar gyfer gwneuthurwyr print ledled y byd.”
Fel erioed, bydd rhaglen lawn o weithgareddau a digwyddiadau i gyd-fynd â’r arddangosfeydd a sicrhau y gall cynulleidfaoedd o bob oed eu mwynhau, p’un a ydych chi’n ymwelydd rheolaidd â’r oriel neu os mai dyma’ch tro cyntaf.
Ein rhaglen arddangosfeydd ar gyfer 2021/22
CANFOD Y FFEITHIAU