Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Mae gan y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid “Uchelgeisiau Uchel” ar gyfer plant a phobl ifanc”
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Mae gan y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid “Uchelgeisiau Uchel” ar gyfer plant a phobl ifanc”
Busnes ac addysgY cyngor

Mae gan y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid “Uchelgeisiau Uchel” ar gyfer plant a phobl ifanc”

Diweddarwyd diwethaf: Mawrth 28, 2019 9:45 am
Rhannu
Darllen 5 funud
60+
RHANNU

Mae ein staff yn y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid yn hapus iawn yn dilyn eu harolwg diweddar gan Arolygiaeth Carchardai ei Mawrhydi.

Dywedodd y Cyng. Andrew Atkinson, Aelod Arweiniol Gwasanaethau Ieuenctid a Gwrth-dlodi: Mae hwn yn newyddion gwych. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu’r gwasanaeth gorau bosib i bob unigolyn ifanc ac mae’r adroddiad hwn yn galonogol iawn a dylai pawb fod yn falch iawn o’r gwasanaeth maent yn ei ddarparu. Mae’r staff yn cyflawni gwaith ardderchog, ac rwy’n hyderus y byddent yn cymryd y camau angenrheidiol i wella’r gwasanaeth ymhellach.”

GWNEWCH GAIS AM GLUDIANT I’R YSGOL YM MIS MEDI RŴAN!

Gallwch ddarllen be ddwedodd y ACEM amdan y gwasanaeth isod:

“Wrexham YJS – Gwasanaeth Da Gyda’r Potensial i Fod yn Rhagorol”

Cafodd y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Wrecsam yng Ngogledd Cymru ei nodi’n dda yn gyffredinol gan arolygwyr, gyda llawer o feysydd da a “dyheadau uchel” ar gyfer plant a phobl ifanc.

‘Da’ yw’r ail raddfa uchaf Arolygiaeth Prawf Ei Mawrhydi. Dywedodd y Fonesig Glenys Stacey, Prif Arolygydd Prawf EM: “Mae llawer o agweddau o’u gwaith yn dda, a chyda ychydig mwy o ddatblygiad, gall y gwasanaeth hwn anelu i gyflawni graddfa uwch yn y dyfodol.”

Roedd tîm arwain cryf. “Mae perthynas proffesiynol yn gryf hefyd ac mae asiantaethau partner allweddol yn cefnogi’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid yn dda. Mae’r staff yn ymrwymedig ac yn frwdfrydig. Maent yn adnabod eu pobl ifanc yn dda ac yn greadigol wrth ymateb i’w hanghenion. Nid ydynt yn gweld yr amddifadedd cymdeithasol ac economaidd yn rhannau o’r ardal fel rhwystr i’w pobl ifanc i lwyddo i gyrraedd eu hamcanion.”

Nodwyd yn yr adroddiad: “Mae rheolwyr achosion wedi ymrwymo i adeiladu perthynas waith gadarnhaol a dalgar yn eu dull o ymgysylltu pobl ifanc. Roedd y staff yn adnabod eu pobl ifanc yn dda ac yn dangos cred gwirioneddol y gallent fyw bywyd sy’n ufudd i’r gyfraith.” Nododd yr arolygwyr y panel ‘adolygu a llongyfarch’ fel arferion da. Gall y panel adnabod yn ffurfiol a rhoi adborth i’r unigolyn ifanc a’u teulu ar y cynnydd y maent wedi’i wneud.

Mae gwaith y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid gyda phlant a phobl ifanc sydd wedi cael gorchmynion gan y llysoedd yn ‘Rhagorol’ ar y cyfan, graddfa uchaf y Gwasanaeth Prawf EM.

Nid oedd ansawdd y gwaith y tu allan i’r llys cystal. Fodd bynnag, roedd pryderon yr arolygwyr yn canolbwyntio ar offeryn asesu a ddefnyddiwyd gan y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid a oedd wedi cyfyngu ar faint o wybodaeth a gasglwyd am yr unigolyn. Roedd newid diweddar i’r fersiwn newydd o’r offeryn asesu hwn yn golygu, yn ôl yr adroddiad, bod mwy o le i gofnodi diogelwch, lles a pherygl o niwed i eraill.”

Ar wahân i’r offeryn asesu, dywedodd y Fonesig Glenys, “mae proses cadarn y tu allan i’r llys, sydd yn cynnig gwaith atal priodol ar gyfer achosion sydd ddim yn bodloni trothwy ar gyfer canlyniad mwy ffurfiol. Mae hyn yn cynnwys gwasanaeth atal a chymorth i bobl ifanc sydd ynghlwm ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a’r rhai hynny sydd wedi cael adferiad cymunedol.

“Gyda newidiadau bychan i’r offeryn asesu, bydda sgoriau ar gyfer yr agwedd hon o’r gwaith yn gallu cynyddu’n sylweddol.” Hefyd, cymeradwywyd y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid i sicrhau bod asesiadau yn cael eu cwblhau ar amser.

Yn gyffredinol, dywedodd y Fonesig Glenys:
“Dylai Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Wrecsam adlewyrchu a dathlu ei gryfderau, gan gydnabod bod dal gwaith i’w wneud i adeiladu ar welliannau y mae wedi ei gyflawni eisoes.”

A fydd angen cludiant i’r ysgol arnoch ym mis Medi? Gwnewch gais ar-lein rŵan

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://admissions.wrexham.gov.uk/CitizenPortal_Live/Account/Login?ReturnUrl=%2FCitizenPortal_Live%2F%E2%80%9D”] GWNEWCH GAIS AR-LEIN RŴAN [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Torri Coeden y Llyfrgell i Lawr Torri Coeden y Llyfrgell i Lawr
Erthygl nesaf "Withnail and I" ar y sgrin yn Nhŷ Pawb “Withnail and I” ar y sgrin yn Nhŷ Pawb

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysg Y cyngor
Medi 4, 2026
Football park and ride
Wrecsam v Burnley – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 4, 2026
Penley Hospital
Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna
Arall Pobl a lle
Medi 3, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
Minera Roof Trusses
Busnes ac addysg

Ehangu ar gyfer busnes teuluol yn dilyn grant Ardal Fuddsoddi

Awst 28, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lleY cyngor

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu

Awst 27, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English