Fel y gwyddom i gyd, mae toriadau dinistriol wedi bod i gyllid llywodraeth leol ers i’r caledi ariannol ddechrau yn 2007/08, ac yn ystod y cyfnod hwn rydych wedi rhoi eich safbwyntiau ar gynigion am arbedion.
Eleni rydym yn gofyn un cwestiwn – beth ydych chi’n credu y dylem ei wneud?
Er bod dal ansicrwydd ynghylch cyllideb flwyddyn nesaf, bydd Llywodraeth Cymru yn darparu rhagor o wybodaeth tuag at ddiwedd mis Rhagfyr, rydym yn gwybod y bydd yr angen i wneud penderfyniadau anodd yn parhau a bydd y rhain yn cynnwys gwneud mwy o doriadau.
Diogelu’r bobl yr ydych yn eu caru, lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG.
Rhwng 30 Tachwedd a 13 Rhagfyr, byddwch yn gallu rhoi gwybod i ni beth yw eich safbwyntiau mewn pedwar ffordd wahanol:
- Llenwi’r arolwg – naill ai ar-lein neu ar bapur. Os hoffech gopi papur o’r arolwg, anfonwch e-bost atom i ofyn am hyn gan gynnwys eich manylion cyswllt ar telluswhatyouthink@wrexham.gov.uk neu ffoniwch 01978 292000.
- Mynychu sesiwn zoom cyhoeddus ar-lein dydd LLun, 7 Rhagfyr 2020, 5pm-6pm (cofrestrwch eich diddordeb drwy anfon e-bost at modernwaysofworking@wrexham.gov.uk erbyn dydd Iau, 3 Rhagfyr. Gadewch i ni wybod beth yw eich enw, ac os ydych yn cynrychioli unrhyw grŵp neu sefydliad.
- Fe allwch chi hefyd ysgrifennu atom yn ‘Dywedwch Eich Barn’, 3rd Floor Annex, Neuadd y Dref, Wrecsam, LL11 1AY
- Neu anfonwch e-bost atom i telluswhatyouthink@wrexham.gov.uk (dylid nodi ‘Penderfyniadau Anodd’ ar eich gohebiaeth)
Dyma ychydig o bwyntiau i chi ystyried wrth feddwl am eich syniadau:
- Mae’n rhaid i ni ddarparu gwasanaeth yn ôl y gyfraith; pethau fel gofal cymdeithasol ar gyfer oedolion a phlant, ac ysgolion / addysg.
- Mae costau eraill y mae’n rhaid i ni eu talu, er enghraifft ar gyfer gwaredu gwastraff neu fudd-daliadau tai.
- Gellir gwneud arbedion effeithlonrwydd yn y meysydd hyn, ond mae’n rhaid dal darparu’r gwasanaeth.
- Bydd nifer o’r toriadau yn dod o feysydd eraill yn ôl disgresiwn
- Hefyd rydym angen ystyried ffyrdd o greu incwm a ffynonellau o incwm, megis lefelau Treth Y Cyngor.
Croesawir awgrymiadau eraill hefyd – bydd yr ymgynghoriad yn cynnwys pob eitem ar y rhestr o arbedion mae rhaid i ni eu gwneud, ond y rhain yw’r meysydd y mae rhaid i ni ganolbwyntio arnynt.
Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd y Cyngor: “Yn Wrecsam, mae ein cynllun ariannol tymor canolig yn nodi diffyg o ryw £18miliwn ar gyfer y cyfnod 2021-24. Mae hyn yn ychwanegol i’r £11 miliwn sydd wedi’i arbed yn ystod y dair blynedd diwethaf (gan gynnwys y flwyddyn ariannol gyfredol). Yn ystod y cyfnod o galedi ariannol mae’r Cyngor wedi gwneud toriadau ac arbedion effeithlonrwydd o dros £64 miliwn. Rydym yn gofyn i chi roi gwybod i ni sut y gellir gwneud yr arbedion hyn. Nid oes penderfyniadau wedi cael eu gwneud – rydym angen clywed beth sydd gennych i ddweud cyn i ni allu eu gwneud.”
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Pobl – Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedau “Unwaith eto, mae’n rhaid gwneud penderfyniadau anodd a bydd eich awgrymiadau yn chwarae rhan bwysig yn y ffordd yr ydym yn cynllunio gwneud y toriadau angenrheidiol i’n cyllideb. Efallai bydd pob preswylydd yn Wrecsam yn cael eu heffeithio gan unrhyw newidiadau arfaethedig, felly mae’n hanfodol bod gymaint o bobl â phosibl yn cymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn.”
Lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG ….a helpwch i gadw Wrecsam yn ddiogel yr hydref yma.
Lawrlwythwch yr ap GIG