Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Sgam ad-daliad treth newydd: adroddiadau am negeseuon e-bost ffug yn cynnig cymorth Covid-19
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Sgam ad-daliad treth newydd: adroddiadau am negeseuon e-bost ffug yn cynnig cymorth Covid-19
Arall

Sgam ad-daliad treth newydd: adroddiadau am negeseuon e-bost ffug yn cynnig cymorth Covid-19

Diweddarwyd diwethaf: Tachwedd 27, 2020 3:28 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Online Scam Fraud
RHANNU

Mae Safonau Masnach Wrecsam wedi clywed gan bobl sydd wedi derbyn negeseuon e-bost, sy’n edrych yn rhai swyddogol, yn cynnig ad-daliad treth i fusnesau oherwydd Covid-19.

Cynnwys
  • Sgam ydi hwn!
  • “Mae yna bryder go iawn y bydd rhai pobl yn credu ei bod yn neges go iawn”
  • Cadwch yn ddiogel
  • Sut i ddelio â negeseuon e-bost amheus
  • Rhoi gwybod am drosedd seiber
  • Cyngor cyffredinol ar sgamiau

Sgam ydi hwn!

Sgam ydi hwn… peidiwch â chlicio ar unrhyw ddolen yn yr e-bost.

Mae’r ad-daliad sy’n cael ei gynnig yn filoedd o bunnau! Mae’r neges e-bost yn honni: “Due to on-going Coronavirus (COVID-19) guidance and support for businesses, we’ve determined that you are eligible to receive a tax refund credit of 12368.72 GBP.”

Rydych chi wedyn yn cael eich annog i glicio ar ddolen i fewngofnodi i wasanaethau ar-lein Cyllid a Thollau EM i nodi manylion eich cyfrif banc a’ch ID defnyddiwr a’ch cyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth. Peidiwch â chlicio ar y ddolen – dyma ymgais i geisio dwyn eich gwybodaeth bersonol.

Diogelu’r bobl yr ydych yn eu caru, lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG.

“Mae yna bryder go iawn y bydd rhai pobl yn credu ei bod yn neges go iawn”

Meddai’r Cyng. Hugh Jones, Aelod Arweiniol Pobl, Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Mae sgamiau gostyngiad yn y dreth yn gyfarwydd iawn, ond y tro hwn mae’r neges e-bost yn ceisio manteisio ar y gefnogaeth sy’n cael ei chynnig mewn ymateb i’r pandemig parhaus. Gan fod rhai pobl wedi gwneud cais am ostyngiad yn y dreth oherwydd eu bod yn gweithio gartref, mae yna bryder go iawn y bydd rhai yn credu ei bod yn neges go iawn.

“Dydi’r cyngor ddim wedi newid – cyn gwneud unrhyw beth arall, ystyriwch ai sgam ydi hwn. Os ydych chi’n ansicr, cysylltwch â’r cwmni’n uniongyrchol. Bydd hyn yn eich helpu i gadw’n ddiogel.”

Cadwch yn ddiogel

Gwyddwn fod unrhyw beth sy’n dweud wrthych chi eich bod chi wedi talu gormod o dreth yn edrych yn ddeniadol iawn, ac mae temtasiwn i ddilyn y negeseuon hyn. Fodd bynnag, wrth wneud hynny fe allwch chi adael i rywun arall ddwyn eich gwybodaeth.

Cofiwch, os ydi rhywbeth yn swnio’n rhy dda i fod yn wir, mae’n debyg ei fod.

Sut i ddelio â negeseuon e-bost amheus

Mae’r Ganolfan Seiberddiogelwch Cenedlaethol (NCSC) wedi creu gwasanaeth pwrpasol i bobl adrodd am negeseuon e-bost amheus, sy’n ei gwneud yn hawdd i bobl anfon negeseuon e-bost amheus atyn nhw.

Bydd yr NCSC wedyn yn dadansoddi’r e-bost ac unrhyw wefan sy’n gysylltiedig â’r neges.

Gallwch ddod o hyd i’r manylion yma…

Rhoi gwybod am drosedd seiber

Os ydych chi’n credu eich bod chi wedi dioddef twyll neu drosedd seiber, rhowch wybod i Action Fraud drwy eu gwefan neu drwy ffonio 0300 123 2040.

Action Fraud ydi Canolfan Genedlaethol Adrodd am Sgamiau a Throseddau Seiber y DU.

Cyngor cyffredinol ar sgamiau

Fe allwch chi dderbyn cyngor gan Wasanaeth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth. Gellir cysylltu â nhw ar 0808 223 1144 (Cymraeg) neu 0808 223 1133 (Saesneg).

Arhoswch yn ddiogel a byddwch yn wyliadwrus o sgamiau.

Lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG ….a helpwch i gadw Wrecsam yn ddiogel yr hydref yma.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://www.covid19.nhs.uk/”]Lawrlwythwch yr ap GIG[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Climate Change Paneli Solar a’n cynlluniau at y dyfodol – gadewch i ni wybod eich barn
Erthygl nesaf budget Mae gennym gwestiwn i chi – ymgynghoriad ar gyllideb 2021/22

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Guildhall
Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw
Arall
Awst 14, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Y cyngor
Awst 14, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 13, 2026
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Awst 12, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Water
ArallFideo

Arhoswch yn ddiogel o amgylch y dŵr

Awst 11, 2026
Mayor of Wrexham receiving a PSA screening test
ArallPobl a lle

Maer yn cefnogi digwyddiad sgrinio canser y prostad

Gorffennaf 28, 2026
Dal dwylo
ArallPobl a lle

Rydyn ni’n chwilio am is-gadeirydd ar gyfer ein panel maethu – allech chi fod yr un?

Gorffennaf 22, 2026
North Wales Police in Wrexham city centre
Arall

Diogelwch merched a genethod yn parhau bod yn ganolbwynt allweddol yn Wrecsam yr haf hwn

Gorffennaf 16, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English