Ar ôl buddsoddiad o £4m mewn adnewyddu’r Cigyddion a’r Marchnadoedd Cyffredinol mae ein masnachwyr yn brysur yn symud yn ôl i mewn cyn digwyddiad ailagor mawr am 11am ddydd Iau.
Ymhlith wynebau cyfarwydd, mae’r marchnadoedd hefyd wedi croesawu rhai masnachwyr newydd, gan greu cymysgedd amrywiol o ffefrynnau cymunedol hirsefydlog a busnesau newydd.
Mae’r ailwampiad o’r marchnadoedd yn dathlu traddodiad ac arloesedd, gan ddarparu gofod llachar a ffres i fasnachwyr sy’n dychwelyd a chroesawu busnesau newydd i galon y gymuned. Mae’r buddsoddiad wedi creu marchnad fodern, ddeniadol wrth gadw’r cymeriad a’r dreftadaeth sydd wedi gwneud y Marchnadoedd Cigyddion a Chyffredinol yn gonglfaen i fywyd lleol.
Mae’r ailagoriad yn nodi pennod newydd yn hanes y marchnadoedd, gan gynnig profiad siopa amlbwrpas gydag ystod eang o nwyddau, o nwyddau crefftwyr i hanfodion bob dydd.
Mae hefyd yn gyd-fynd â’n digwyddiad Marchnadoedd Fictoraidd 4 diwrnod yn anterth nifer o flynyddoedd o waith cynllunio a phartneriaeth.
Dywedodd Aelod Arweiniol yr Economi ac Adfywio Cyngor Wrecsam, y Cynghorydd Nigel Williams “Mae adnewyddu ein marchnadoedd hanesyddol yn fuddsoddiad sylweddol mewn dau leoliad amlwg yng Nghanol y Ddinas. “Bydd trawsnewidiadau sylweddol y Marchnadoedd Cigyddion a Chyffredinol yn pontio’r bwlch rhwng Wrecsam fel tref farchnad hanesyddol a’n dyfodol disglair fel cyrchfan a dinas uchelgeisiol. “Ar ran CBSW hoffwn ddiolch i SWG Construction am eu gwaith caled yn dod â’r prosiectau i ffrwyth, yn ogystal â diolch i’n swyddogion sydd wedi gweithio’n ddiflino y tu ôl i’r llenni.”
Dywedodd Jacqui Gough, cyfarwyddwr Grŵp SWG: “Rydym yn ddiolchgar iawn i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam am roi eu hymddiriedaeth ynom i adnewyddu dau adeilad sydd mor bwysig i’r ddinas a’r gymuned.
“Mae wedi bod yn brosiect arwyddocaol, yn cynnwys popeth o osod systemau trydanol newydd i atgyweirio gwaith carreg hanesyddol, ac mae’r ddau adeilad bellach yn ôl i fod yn rhywbeth y gall Wrecsam gyfan fod yn falch ohono.
Mae ymweld â’r marchnadoedd sydd newydd eu hadnewyddu yn ogystal â mwynhau golygfeydd, synau ac arogleuon y farchnad Nadolig Fictoraidd dydd Iau yma, dydd Gwener, dydd Sadwrn a dydd Sul, yn ffordd wych o fwynhau ysbryd yr ŵyl, yn ogystal â chefnogi busnesau lleol.
Mwy o wybodaeth: