Wrth i Lywodraeth Cymru fwrw ymlaen â chynlluniau i ddileu elw o ofal plant sy’n derbyn gofal, mae Maethu Cymru Wrecsam yn tynnu sylw at fanteision maethu gydag awdurdod lleol.
Mae Cymru yn y broses o newid system gyfan ar gyfer gwasanaethau plant.
Mae’r newidiadau a gynigir yng nghytundeb cydweithredu 2021 rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yn blaenoriaethu gwasanaethau sydd wedi’u lleoli’n lleol, wedi’u cynllunio’n lleol, ac sy’n atebol yn lleol.
O fewn y cynlluniau hyn mae ymrwymiad clir i ‘ddileu elw preifat o ofal plant sy’n derbyn gofal.’ Mae hyn yn golygu, erbyn 2027, y bydd gofal plant sy’n derbyn gofal yng Nghymru yn cael ei ddarparu gan sefydliadau sector cyhoeddus, elusennol neu ddielw.
Yng ngoleuni’r newidiadau hyn, mae Maethu Cymru Wrecsam – y rhwydwaith sy’n cynrychioli 22 awdurdod lleol Cymru – yn galw am fwy o bobl i ddod yn ofalwyr maeth awdurdodau lleol ac yn annog y rhai sy’n maethu ar hyn o bryd gydag asiantaeth er elw i drosglwyddo i’w tîm awdurdod lleol.
Dywedodd y Cynghorydd Robert Walsh, aelod arweiniol dros wasanaethau plant:
“Mae bod yn ofalwr maeth gyda Chyngor Wrecsam yn cynnig y cyfle i wneud newid hirdymor a chadarnhaol i ofal ein pobl ifanc, sydd o fudd iddynt heddiw ac yn y dyfodol.
“Mae llawer o fanteision i ofalwyr, gan gynnwys cymorth a hyfforddiant, gan roi’r dewis i bobl ifanc aros yn eu hardal leol. Mae cymunedau lleol yn allweddol i wneud i’r newid hwn ddigwydd felly cysylltwch â’n tîm maethu os oes gennych ddiddordeb.”
Mae 79% o blant sy’n derbyn gofal gan asiantaethau maethu preifat yng Nghymru yn cael eu maethu y tu allan i’w hardal leol, a 6% yn cael eu symud allan o Gymru yn gyfan gwbl. Yn y cyfamser, mae 84% o’r rhai sy’n byw gyda gofalwyr maeth awdurdod lleol yn aros yn eu hardal leol eu hunain, yn agos i’w cartref, i’r ysgol, i deulu a ffrindiau.
Symudodd gofalwyr maeth lleol, Cath a Neil, o asiantaeth faethu annibynnol i faethu gyda’u hawdurdod lleol, Maethu Cymru Wrecsam yn 2018.
“Mae mor bwysig bod plant yn aros yn eu hardaloedd lleol, fel eu bod nhw’n agos at eu ffrindiau a’u hysgol. Pan oedden ni’n maethu gydag asiantaeth, roedd plant yn aml yn cael eu symud o gwmpas llawer, o ofalwr i ofalwr, weithiau ymhell o’u gwreiddiau.”
Nawr, mae’r plant rydyn ni’n gofalu amdanyn nhw yn cadw mewn cysylltiad â’u ffrindiau a’u perthnasau, ac mae hynny’n hollbwysig.”
I gael rhagor o wybodaeth am faethu, a sut i drosglwyddo, ewch i Maethu Cymru or email fostering@wrexham.gov.uk