Mae’r gyfran o gyfanswm nifer y gofalwyr yng Nghymru sy’n bobl LHDTC+ ar gynnydd, yn ôl ffigurau newydd.
Mae 56 aelwyd LHDTC+ yng Nghymru yn ofalwyr maeth cofrestredig, cynnydd o 30% o’i gymharu â 2024.
Yn ystod Wythnos Mabwysiadu a Maethu LHDTC+ eleni, sy’n dechrau ar 2 Mawrth, mae Maethu Cymru Wrecsam yn annog pobl LHDTC+ i ystyried gwneud ymholiadau i ddod yn ofalwyr maeth a newid bywydau yn 2026.
Yn Wrecsam, mae 290 o blant mewn gofal maeth ar hyn o bryd. Gall cyplau neu bobl sengl faethu, ac mae gan lawer o bobl LHDTC+ brofiadau bywyd personol unigryw a allai fod o gymorth wrth ofalu am blant a phobl ifanc.
Mae Lisa a’i gwraig Kate wedi bod yn maethu gyda Chyngor Wrecsam ers 2021. Trwy eu parodrwydd i gofleidio amrywiaeth a’u hymroddiad diwyro, maent wedi creu teulu cariadus sy’n herio confensiwn ac sydd wedi’i adeiladu ar dosturi.
Dywedodd Lisa: “Daeth ein plant maeth i mewn i’n bywydau a dod yn rhan barhaol o’n teulu yn gyflym. Rydyn ni’n teimlo’n ffodus iawn o’u cael nhw gyda ni ac o allu cynnig cartref cariadus a sefydlog iddyn nhw. Ochr yn ochr â’n dau blentyn biolegol, mae ein cartref bob amser yn llawn egni – mae wedi dod yn normal newydd i ni, ac ni fyddem yn newid unrhyw beth amdano.
“Mae gwylio ein plant i gyd yn tyfu mewn hyder wir wedi cynhesu’r galon. Mae’r berthynas maen nhw’n ei rhannu, a’r caredigrwydd maen nhw’n ei ddangos i’w gilydd, yn golygu popeth i ni. Y teulu amrywiol a chariadus hwn rydyn ni wedi’i adeiladu yw ein byd ni.”
Dywedodd y Cynghorydd Robert Walsh, aelod arweiniol y gwasanaethau plant a theuluoedd: “Mae rhieni maeth yn helpu i lunio dyfodol plant a phobl ifanc yn Wrecsam; mae pob un yn cynnig ei brofiadau bywyd gwerthfawr ei hun. Rwy’n gobeithio y bydd Wythnos Mabwysiadu a Maethu LHDTC+ eleni yn codi ymwybyddiaeth o’r ffaith y gall pawb a phob teulu sy’n gallu cynnig amgylchedd sefydlog a gofalgar i blant a phobl ifanc ddod atom i weld sut y gallwn weithio gyda’n gilydd.”
Dywedodd Suzanne Griffiths, Cyfarwyddwr Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru a Maethu Cymru: “Mae gofalwyr maeth yn gwneud gwahaniaeth anhygoel i blant a phobl ifanc bob dydd trwy gynnig sefydlogrwydd, dealltwriaeth a lle diogel i ffynnu. Maen nhw’n tynnu ar eu profiadau bywyd eu hunain, eu tosturi a’u gwydnwch i ddiwallu anghenion unigol pob plentyn. I rai plant, gall gofalwyr maeth eu helpu i symud ymlaen i gael eu mabwysiadu, gan ddarparu’r diogelwch gydol oes sydd ei angen arnynt pan nad yw’n bosibl dychwelyd i’w teuluoedd biolegol.
“Gyda chymaint o blant sydd angen cartrefi cariadus ar hyn o bryd, byddem yn annog yn gryf unrhyw un sy’n ystyried maethu neu fabwysiadu i ddod ymlaen a dechrau sgwrs gyda’u tîm lleol heddiw.”
Gallwch ddilyn Wythnos Mabwysiadu a Maethu LHDTC+ ar-lein ac ar Twitter (@lgbtadoptfoster) a Facebook (@newfamilysocial).
I gael rhagor o wybodaeth am faethu yn Wrecsam, ewch i: https://wrecsam.maethucymru.llyw.cymru.

