Mae swyddogion Safonau Masnach o Wasanaeth Gwarchod y Cyhoedd Cyngor Wrecsam, gyda chefnogaeth Heddlu Gogledd Cymru, wedi atafaelu nifer sylweddol o dybaco a fêps yn dilyn ymweld â manwerthwr yng nghanol y ddinas.
Canfuwyd fêps a thybaco anghyfreithlon ar werth ar y silffoedd ac ar y cownter.
Roedd y cynnyrch yn cynnwys dros 600 o fêps tafladwy, bron i 4kg o dybaco rholio (digon ar gyfer 4,000 o sigaréts rholio) a bron i 700 o becynnau o sigaréts. Mae’r weithred hon yn dilyn atafaeliad mawr mewn siop wahanol, The Vape Shop ar y Stryd Fawr ym mis Medi. Mae’r siop honno bellach wedi ei chau trwy orchymyn y llys.
Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol sy’n gyfrifol am safonau masnach: “Mae’n bryderus clywed unwaith eto fod y cynnyrch hwn wedi bod ar gael i’w prynu yng nghanol y ddinas.
“Mae’r fêps a gafodd eu hatafaelu yn anghyfreithlon ac yn cynnwys mwy na’r cryfder uchafswm a ganiateir o nicotin, yn rhy fawr ac nid ydynt wedi eu cofrestru gyda’r awdurdod priodol.
“O ganlyniad mae pryderon difrifol am ddiogelwch yr eitemau hyn ac iechyd y bobl sy’n eu defnyddio.
“Mae pris isel tybaco anghyfreithlon yn ei gwneud yn llawer mwy fforddiadwy ac o ganlyniad yn llawer haws i blant eu cael a dechrau arfer angheuol gydol oes.
“Nid yw’r rhan fwyaf o siopau sy’n gwerthu fêps a thybaco anghyfreithlon yn poeni am werthu i blant er ei fod yn drosedd gwerthu i rai dan 18. Mae angen i ni wneud popeth a allwn i amddiffyn ein cymuned – yn arbennig pobl ifanc – a byddwn yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth am fêps neu dybaco anghyfreithlon i hysbysu rhywun amdano.”
Mae fêpio wedi dod yn fwy a mwy poblogaidd yn ystod y deng mlynedd ddiwethaf ac fe’i cydnabyddir yn eang fel ffordd effeithiol o roi’r gorau i ysmygu tybaco.
Fodd bynnag, yn fwy diweddar, mae diddordeb mewn fêps tafladwy wedi ffrwydro ac mae pobl sydd erioed wedi ysmygu yn rhoi cynnig arnynt.
Mae’n anghyfreithlon gwerthu cynnyrch fêp i rai dan 18 oed, ond er hyn, mae fêps wedi dod yn boblogaidd ymysg pobl ifanc ac mae llawer o’r cynnyrch sydd ar gael yn apelio i blant gyda’u blas melys a phecynnu llachar.
Mae rhai cynnyrch anghyfreithlon wedi defnyddio enwau fferins poblogaidd i’w hyrwyddo hyd yn oed.
Tybaco anghyfreithlon yw sigaréts a thybaco rholio sydd heb dalu tollau ac o ganlyniad maent yn llawer rhatach na thybaco cyfreithlon.
Mae’r pris isel a’r parodrwydd i werthu i rai o dan 18 yn creu risg sylweddol i blant ac yn ei gwneud yn fwy anodd i oedolion sy’n ysmygu i roi’r gorau iddi.
Mae ysmygu dal yn achosi mwy o farwolaethau cynamserol yng Nghymru a’r DU nag unrhyw beth arall ac yn lladd dros 5,000 o bobl yng Nghymru bob blwyddyn.
Gallwch ddweud ynglŷn â fêps neu dybaco anghyfreithlon yn ddi-enw trwy wefan No Ifs No Butts.
Neu ffoniwch 029 2049 0621 neu anfonwch e-bost at info@noifs-nobutts.co.uk