Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Mae mwy o fêps a thybaco anghyfreithlon wedi eu hatafaelu o siop yng nghanol y ddinas
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Mae mwy o fêps a thybaco anghyfreithlon wedi eu hatafaelu o siop yng nghanol y ddinas
Arall

Mae mwy o fêps a thybaco anghyfreithlon wedi eu hatafaelu o siop yng nghanol y ddinas

Diweddarwyd diwethaf: Rhagfyr 21, 2023 10:45 am
Rhannu
Darllen 4 funud
Illegal vapes seizure
RHANNU

Mae swyddogion Safonau Masnach o Wasanaeth Gwarchod y Cyhoedd Cyngor Wrecsam, gyda chefnogaeth Heddlu Gogledd Cymru, wedi atafaelu nifer sylweddol o dybaco a fêps yn dilyn ymweld â manwerthwr yng nghanol y ddinas.

Canfuwyd fêps a thybaco anghyfreithlon ar werth ar y silffoedd ac ar y cownter.

Roedd y cynnyrch yn cynnwys dros 600 o fêps tafladwy, bron i 4kg o dybaco rholio (digon ar gyfer 4,000 o sigaréts rholio) a bron i 700 o becynnau o sigaréts. Mae’r weithred hon yn dilyn atafaeliad mawr mewn siop wahanol, The Vape Shop ar y Stryd Fawr ym mis Medi. Mae’r siop honno bellach wedi ei chau trwy orchymyn y llys.

Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol sy’n gyfrifol am safonau masnach: “Mae’n bryderus clywed unwaith eto fod y cynnyrch hwn wedi bod ar gael i’w prynu yng nghanol y ddinas.

“Mae’r fêps a gafodd eu hatafaelu yn anghyfreithlon ac yn cynnwys mwy na’r cryfder uchafswm a ganiateir o nicotin, yn rhy fawr ac nid ydynt wedi eu cofrestru gyda’r awdurdod priodol.

“O ganlyniad mae pryderon difrifol am ddiogelwch yr eitemau hyn ac iechyd y bobl sy’n eu defnyddio.

“Mae pris isel tybaco anghyfreithlon yn ei gwneud yn llawer mwy fforddiadwy ac o ganlyniad yn llawer haws i blant eu cael a dechrau arfer angheuol gydol oes.

“Nid yw’r rhan fwyaf o siopau sy’n gwerthu fêps a thybaco anghyfreithlon yn poeni am werthu i blant er ei fod yn drosedd gwerthu i rai dan 18. Mae angen i ni wneud popeth a allwn i amddiffyn ein cymuned – yn arbennig pobl ifanc – a byddwn yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth am fêps neu dybaco anghyfreithlon i hysbysu rhywun amdano.”

Mae mwy o fêps a thybaco anghyfreithlon wedi eu hatafaelu o siop yng nghanol y ddinas
Mae mwy o fêps a thybaco anghyfreithlon wedi eu hatafaelu o siop yng nghanol y ddinas

Mae fêpio wedi dod yn fwy a mwy poblogaidd yn ystod y deng mlynedd ddiwethaf ac fe’i cydnabyddir yn eang fel ffordd effeithiol o roi’r gorau i ysmygu tybaco.

Fodd bynnag, yn fwy diweddar, mae diddordeb mewn fêps tafladwy wedi ffrwydro ac mae pobl sydd erioed wedi ysmygu yn rhoi cynnig arnynt.

Mae’n anghyfreithlon gwerthu cynnyrch fêp i rai dan 18 oed, ond er hyn, mae fêps wedi dod yn boblogaidd ymysg pobl ifanc ac mae llawer o’r cynnyrch sydd ar gael yn apelio i blant gyda’u blas melys a phecynnu llachar.

Mae rhai cynnyrch anghyfreithlon wedi defnyddio enwau fferins poblogaidd i’w hyrwyddo hyd yn oed.

Tybaco anghyfreithlon yw sigaréts a thybaco rholio sydd heb dalu tollau ac o ganlyniad maent yn llawer rhatach na thybaco cyfreithlon.

Mae’r pris isel a’r parodrwydd i werthu i rai o dan 18 yn creu risg sylweddol i blant ac yn ei gwneud yn fwy anodd i oedolion sy’n ysmygu i roi’r gorau iddi.

Mae ysmygu dal yn achosi mwy o farwolaethau cynamserol yng Nghymru a’r DU nag unrhyw beth arall ac yn lladd dros 5,000 o bobl yng Nghymru bob blwyddyn.

Gallwch ddweud ynglŷn â fêps neu dybaco anghyfreithlon yn ddi-enw trwy wefan No Ifs No Butts.

Neu ffoniwch 029 2049 0621 neu anfonwch e-bost at info@noifs-nobutts.co.uk

Rhannu
Erthygl flaenorol Plant Wrecsam yn mynychu première o’r ffilm a grëwyd ganddynt Plant Wrecsam yn mynychu première o’r ffilm a grëwyd ganddynt
Erthygl nesaf Canmoliaeth gan arolygwyr i ysgol gynradd yn Wrecsam Canmoliaeth gan arolygwyr i ysgol gynradd yn Wrecsam

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Digwyddiadau Pobl a lle
Medi 2, 2026
Yorke Street
Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Blue emergency services light
Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Caffi hynaf Wrecsam wedi'i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Caffi hynaf Wrecsam wedi’i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
Pobl a lle
Medi 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Football park and ride
ArallPobl a lle

Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd

Awst 28, 2026
Mayor at the Welsh Blood Service donation clinic
ArallPobl a lle

Maer yn rhoi gwaed i gefnogi ymgyrch rhoi

Awst 26, 2026
Red Ensign Flag
ArallDigwyddiadauPobl a lle

Coffáu Diwrnod y Llynges Fasnachol trwy godi’r Lluman Coch

Awst 24, 2026
Canlyniadau TGAU 2026 - Llongyfarchiadau i'n holl ddysgwyr
ArallBusnes ac addysgPobl a lle

Canlyniadau TGAU 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl ddysgwyr

Awst 20, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English