Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Mae mynd i’r parc yn brofiad gwahanol iawn rŵan…
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Mae mynd i’r parc yn brofiad gwahanol iawn rŵan…
Y cyngor

Mae mynd i’r parc yn brofiad gwahanol iawn rŵan…

Diweddarwyd diwethaf: Ebrill 20, 2020 9:50 am
Rhannu
Darllen 4 funud
Acton Park View Scenery Bench
RHANNU

Ers blynyddoedd lawer rydym ni wedi bod yn annog pobl i fynd am dro i’r parc, i gael picnic neu i gymryd rhan mewn digwyddiadau.

Ond mae pethau yn wahanol iawn rŵan a dydyn ni ddim yn eich annog i deithio mewn car i unrhyw un o’n parciau. Yn hytrach, gofynnwn mai dim ond bobl leol sy’n mynd i’n parciau a hynny fel rhan o’u hymarfer corff dyddiol, gan gynnwys mynd â chŵn am dro. Ddylech chi ddim gyrru i unrhyw un o’n parciau.

I’r rheiny ohonoch chi sy’n ddigon ffodus i fod yn byw wrth ymyl parc gwledig, rydym ni wedi gorfod rhoi mesurau arbennig ar waith a byddwch chi rŵan yn gweld arwyddion y dylech chi gymryd sylw ohonyn nhw.

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU

Canllawiau newydd ar gyfer ymweld â pharciau:

  • Peidiwch ag ymweld â pharc os oes gennych chi unrhyw symptom – gwres, peswch, diffyg anadl. Edrychwch ar ganllawiau’r GIG os ydi hyn yn berthnasol i chi
  • Cadwch bellter cymdeithasol o ddau fetr neu fwy rhyngoch chi a phobl eraill
  • Peidiwch â mynd i mewn os ydi hi’n brysur ac os nad ydych chi’n gallu cadw pellter cymdeithasol
  • Ystyriwch fynd i’r parc ar adeg wahanol (yn gynt neu’n hwyrach) er mwyn i rieni, plant a phobl hŷn ddefnyddio’r gofodau hyn
  • Defnyddiwch bob rhan o’r parc sydd ar agor er mwyn i chi cadw pellter priodol o bobl eraill
  • Os ydi’r parc yn brysur, ystyriwch wneud ymarfer corff ar strydoedd distawach a llai prysur
  • Trïwch beidio â chyffwrdd arwynebau (fel gatiau neu ganllawiau) a dilynwch gyngor Iechyd Cyhoeddus Cymru ar olchi dwylo, gan gynnwys golchi dwylo yn syth bin ar ôl i chi gyrraedd adref
  • Cadwch eich ci/cŵn ar dennyn drwy gydol yr amser
  • Ddylech chi ddim gyrru i’r parc i fynd â’ch ci am dro – dydi hyn ddim yn ‘deithio hanfodol’
  • Cofiwch barchu’r rheiny sy’n cynnal a chadw’r parciau a dilyn unrhyw gyfarwyddyd a roddir gan swyddogion. Mae’r mesurau yma yn rhai dros dro er mwyn eich diogelu chi
  • Peidiwch â defnyddio’r rhannau sydd ar gau fel meysydd chwarae, campfeydd awyr agored a chyfleusterau chwaraeon – mae’r rhain ar gau er mwyn eich diogelwch chi
  • Chewch chi ddim mynd i’r parc i dorheulo nac i gael picnic neu farbeciw

Mae’r mesurau hyn ar waith i’ch cadw chi’n saff, felly cofiwch gymryd sylw ohonyn nhw a gwneud yr addasiadau priodol pan fyddwch chi’n ymweld.

Gobeithio y cawn eich gwahodd yn ôl yn fuan ond, am rŵan, mae’n rhaid i bethau fod yn wahanol a gofynnwn i chi aros gartref, aros yn saff a diogelu’r GIG. Pan fyddwch chi’n gwneud eich ymarfer corff dyddiol, cofiwch gadw pellter o ddau fetr rhyngoch chi ac eraill pan fyddwch chi yn y parc a phan fyddwch chi’n cerdded yno ac yn ôl gartref.

Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://icc.gig.cymru/pynciau/gwybodaeth-ddiweddaraf-am-coronavirus-newydd-covid-19/”] Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Covid 19 Covid-19 (Coronafeirws Newydd) – nodyn briffio’r cyhoedd 17.4.20
Erthygl nesaf Covid 19 Covid-19 (Coronafeirws Newydd) – nodyn briffio’r cyhoedd 20.4.20

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Digwyddiadau Pobl a lle
Medi 2, 2026
Yorke Street
Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Blue emergency services light
Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Caffi hynaf Wrecsam wedi'i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Caffi hynaf Wrecsam wedi’i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
Pobl a lle
Medi 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lleY cyngor

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu

Awst 27, 2026
The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam
Y cyngor

The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam

Awst 25, 2026
Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam

Awst 25, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English