Mae canol y dref yn paratoi ar gyfer Gŵyl Stryd arall ddydd Sadwrn ac mae’n argoeli i fod yn fwy ac yn well nag erioed.
Y mis yma bydd yr Ŵyl yn ymuno â Wrexfest sy’n digwydd am y chweched flwyddyn ac sy’n sicr o greu awyrgylch da yn Llwyn Isaf lle bydd cerddoriaeth yn cael ei chwarae drwy’r dydd. Bydd dau lwyfan cerddoriaeth, meic agored a DJs yn ogystal â pharth plant. Gallwch ddysgu mwy am Wrexfest yma
Yn Stryt y Rhaglaw, Queen Street, Stryt yr Hob a Stryt Henblas bydd llu o adloniant, atyniadau, stondinau bwyd, celf a chrefft a gweithgareddau am ddim i blant; gall y rhai ohonoch sy’n teimlo’n egnïol ddringo Tŵr Eglwys San Silyn neu gymryd rhan mewn taith hanes o amgylch canol tref Wrecsam – Philip Philips fydd eich tywysydd a’r pris fydd dim ond £5. Mae rhagor o wybodaeth i’w gweld yma :
Bydd Techniquest hefyd ar agor am y diwrnod lle gall plant fwynhau digwyddiad gwyddoniaeth o 11am
WEDI GWELD TIPIO ANGHYFREITHLON? GADEWCH I NI WYBOD YN SYTH AC YN HAWDD YMA
Yn ymuno yn yr hwyl bydd Tŷ Pawb a fydd ag amrywiaeth fawr o ddigwyddiadau ar y gweill gan gynnwys peintio crochenwaith gyda Crochenwaith Cwtch, helfa drysor a gweithdy creu ffilmiau. Yn ogystal bydd y ffilm gomedi “You are invited to” gan 73 Degree Films yn cael ei dangos.
“Mae pawb yn chwarae rhan mis yma”
Meddai’r Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol yr Economi: “Mae ‘mae ‘na gymaint yn digwydd mis yma! Mae’r Gwyliau Stryd yn llwyddiannus dros ben ac yn ffordd wych o ddangos yn union beth sydd ar gael i ymwelwyr â chanol y dref. Mae’n ymddangos fod pawb y cymryd rhan mis yma a dymunaf yn dda i bawb ar gyfer digwyddiad llwyddiannus dros ben.”
Mae rhagor o wybodaeth am yr Ŵyl Stryd ar gael yma
Wedi gweld tipio anghyfreithlon? Gadewch i ni wybod ar-lein
DDWEDWCH WRTHYM AM DIPIO ANGHYFREITHLON AR-LEIN