Wrexham Acton Park Gorsedd Stones

Ydych chi’n un o’r bobl hynny sy’n aml yn sylwi ar rywbeth diddorol, ond eto byth yn cwestiynu’r ystyr neu’r rheswm y tu ôl iddo?

Mae nifer ohonom yn euog o wneud hyn, ac er ei bod hi’n wych cydnabod prydferthwch rhywbeth, mae hefyd yn werth darganfod ei bwysigrwydd hanesyddol.

Mae rhai straeon arbennig o gwmpas, a byddwn yn archwilio rhai ohonynt, gan gychwyn gyda Pharc Acton ac yn benodol, Cerrig yr Orsedd.

Parc Acton ei hun…

Mae gan Parc Acton hanes hir yn dyddio’n ôl i’r 17eg ganrif pan oedd teulu’r Jeffreys yn byw yn Neuadd Acton.

“Pwy oedd teulu’r Jeffreys?” meddech chi…

Wel, yr aelod enwocaf o’r teulu yw’r Barnwr Crogi Jeffreys … neu George i’w ffrindiau agosaf.

Efallai eich bod chi rhywbryd wedi sefyll yng nghanol Cerrig yr Orsedd gan droelli mewn cylchoedd ac ail-adrodd “Y Barnwr Jeffreys” tair gwaith i weld a fyddai’n ymddangos … ond faint ydych chi’n ei wybod am ei hanes?

WEDI GWELD TIPIO ANGHYFREITHLON? GADEWCH I NI WYBOD YN SYTH AC YN HAWDD YMA

“Y barnwr gwaethaf i godi cywilydd ar y fainc”

I dorri stori hir yn fyr, profodd Jeffreys fywyd helyntus a gwnaeth sawl gelyn ar hyd y ffordd. Roedd yn enwog am fwynhau ei ddiod, ac ym 1680 fe ddaeth yn Brif Ustus Caer, a hynny er iddo gael ei adnabod fel: “y barnwr gwaethaf i godi cywilydd ar y fainc”.

Anwybyddodd y cyhuddiadau hyn a daeth yn Arglwydd Brif Ustus Lloegr gyfan ym 1683. Sicrhaodd Jeffreys y byddai ei enw yn cael ei gofio mewn hanes drwy’r Frawdlys Waedlyd yn 1685 pan ddienyddwyd bron i 300 o bobl gyda llawer mwy yn cael eu cludo fel gweision i India’r Gorllewin.

Yn y diwedd, cafwyd digon o’i ymddygiad, ac ym 1688 bu ymgyrch yn ei erbyn. Wrth iddo geisio ffoi, nid syndod iddo gael ei ddarganfod mewn tafarn â’i bocedi yn llawn o 35,000 o ginis a llwyth o nwyddau arian. Bu farw yn Nhŵr Llundain ym 1989.

Beth ddigwyddodd i neuadd Parc Acton?

Ail-adeiladwyd y neuadd ym 1695 gan Syr Griffith Jeffreys, ac fe’i prynwyd yn ddiweddarach gan Syr Foster Cunliffe, a atgyweiriodd yr eiddo gan ychwanegu aden newydd. Creodd hefyd barc wedi’i dirlunio â gardd a llyn wedi’u cau y tu ôl i wal.

Newidiodd yr eiddo ddwylo sawl gwaith cyn i’r Swyddfa Ryfel feddiannu Parc Acton ym 1939. Goroesodd y tŷ i ryw raddau, ond roedd mewn cyflwr gwael iawn.

Erbyn 1954, roedd y tŷ yn edrych yn flêr a dechreuodd y tîm dymchwel ar eu gwaith ym mis Awst y flwyddyn honno. Does dim yn weddill o’r tŷ erbyn hyn.

Felly, sut mae’r cerrig yn berthnasol i hyn?

Wel, i ddweud y gwir, dydyn nhw ddim .. does a wnelo’r cerrig ddim â theulu’r Jeffreys na hanes Parc Acton. Fe’u gosodwyd ym 1977 yn y paratoadau ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Cymru.

Crëwyd y cylch cerrig a welir heddiw yn wreiddiol ar gyfer Eisteddfod 1933. Codwyd y cerrig ar gaeau chwarae ysgol Parc y Llwyni tan iddynt gael eu symud.

Yna ym 1977, fe’u symudwyd i Barc Acton ac maent wedi aros yno ers hynny.

Ond pam cerrig?

Ffurfir y strwythur cerrig â 12 piler carreg sy’n aml o’r ardal leol. Cânt eu gosod mewn cylch, ac un garreg fawr â brig fflat arni yn y canol a adwaenir fel y Maen Chwyf. Cânt eu gadael fel marc i nodi’r lle y cafodd yr Eisteddfod ei chynnal…

Caiff y cerrig hyn eu defnyddio wedyn fel rhan o seremoni cyhoeddi Eisteddfodau’r dyfodol a gaiff eu cynnal un flwyddyn ac un diwrnod cyn yr agoriad swyddogol. Arweinir y seremoni gan Archdderwydd Gorsedd y Beirdd.

Yn ystod y seremoni mae’r Archdderwydd yn sefyll uwchlaw’r Maen Chwyf.

Felly y tro nesaf y byddwch yn pasio heibio, broliwch a rhannwch yr wybodaeth hon â’ch ffrindiau. Er i’r parc ymddangos fel unrhyw barc dymunol iddyn nhw, fel y rhan fwyaf o bethau yn Wrecsam, yn aml iawn mae mwy o hanes i’r lle na’r disgwyl…

Wedi gweld tipio anghyfreithlon? Gadewch i ni wybod ar-lein

DDWEDWCH WRTHYM AM DIPIO ANGHYFREITHLON AR-LEIN