Wythnos Gweithredu Dros Ddementia – Mai 17-21
Dan arweiniad Cymdeithas Alzheimer’s, bydd y cyhoedd yn dod at ei gilydd yn ystod Wythnos Gweithredu Dros Ddementia i wella bywydau pobl sy’n cael eu heffeithio gan ddementia.
Mae plant ysgol Wrecsam yn gwneud eu rhan i wneud y byd yn lle gwell a chleniach i bobl sy’n byw â dementia.
Mae sawl ysgol ar draws y fwrdeistref sirol wedi bod yn cymryd rhan mewn sesiynau Cyfeillion Dementia i ddysgu mwy am y cyflwr ac ystyried ffyrdd i wneud bywyd yn haws i unigolion a theuluoedd a effeithir gan ddementia.
Fel rhan o hyn, mae plant wedi addo gwneud pethau gwahanol i helpu i greu byd mwy gofalgar i bobl â dementia.
Dyma rai o’r addewidion a wnaed gan blant yn Ysgol Gynradd Rhosddu, a gymerodd ran mewn sesiwn yn gynharach y mis hwn ????
Maent yn cynnwys addewidion i wneud llyfrau lloffion gyda lluniau i helpu neiniau a theidiau gofio atgofion gwerthfawr, bod yn gwrtais ac amyneddgar, a threulio mwy o amser gyda pherthnasau sydd â dementia.
Caredigrwydd ac empathi
Mae aelod o staff yn Ysgol Gynradd Rhosddu, Mrs Linda Aldridge, yn dweud: “Fe wnaeth y plant ymgysylltu’n dda â’r sesiwn ac roedd ganddynt lawer o gwestiynau am ddementia.
“Fe wnaeth y sesiwn eu galluogi i feddwl am rai o’r pethau bychain y gallant eu gwneud i helpu pobl sy’n byw â’r cyflwr – gan gynnwys aelodau hŷn o’r teulu.
“Roedd yn hyfryd gweld caredigrwydd ac empathi’r plant wrth iddynt ddysgu am ddementia, ac mae pob un ohonynt wedi addo cadw at eu haddewidion.”
Mae’r ysgolion cynradd eraill sydd wedi cymryd rhan yn y sesiynau Cyfeillion Dementia yn ddiweddar yn cynnwys Sant Paul yn Isycoed, Fictoria a Holt, ac mae sesiynau ar y gweill yn y Rofft, Borras a Chlawdd Watt.
Gwisgo denim ar gyfer dementia!
Mae rhai plant hefyd wedi bod yn gwisgo denim fel rhan o Wythnos Ymwybyddiaeth Dementia.
Er enghraifft, cynhaliodd disgyblion yn Ysgol Gynradd Sant Paul, Isycoed ‘ddiwrnod denim ar gyfer dementia’, a threulio amser yn dysgu am y pwnc.
Fe wnaethant hefyd ddarllen llyfr o’r enw ‘Harry helps Grandpa remember’ – gan Karen Tyrrell – stori hoffus am fachgen ifanc a’i daid sy’n helpu plant i ddysgu am y cyflwr.
Dywedodd y Cynghorydd Joan Lowe, Aelod Arweiniol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Oedolion: “Mae aeddfedrwydd ac empathi plant wrth ddysgu am ddementia yn galonogol iawn, ac rwy’n falch iawn o’r holl bobl ifanc sydd wedi cymryd rhan yn y sesiynau Cyfeillion.
“Bydd gan nifer o blant berthnasau sy’n byw â dementia, a thrwy wneud addewidion a chodi ymwybyddiaeth am y cyflwr, maent yn helpu i wneud y byd yn lle gwell a chleniach.”
Y RHEOLAU COVID DIWEDDARAF