Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Mae plant ysgol Wrecsam yn helpu i wneud y byd yn lle cleniach i bobl â dementia
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Mae plant ysgol Wrecsam yn helpu i wneud y byd yn lle cleniach i bobl â dementia
Busnes ac addysg

Mae plant ysgol Wrecsam yn helpu i wneud y byd yn lle cleniach i bobl â dementia

Diweddarwyd diwethaf: Mai 21, 2021 4:55 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Ysgol Sant Paul Eglwys Cymru a Gynorthwyir
Ysgol Sant Paul Eglwys Cymru a Gynorthwyir
RHANNU

Wythnos Gweithredu Dros Ddementia – Mai 17-21

Dan arweiniad Cymdeithas Alzheimer’s, bydd y cyhoedd yn dod at ei gilydd yn ystod Wythnos Gweithredu Dros Ddementia i wella bywydau pobl sy’n cael eu heffeithio gan ddementia.

Cynnwys
  • Wythnos Gweithredu Dros Ddementia – Mai 17-21
  • Caredigrwydd ac empathi
  • Gwisgo denim ar gyfer dementia!

Mae plant ysgol Wrecsam yn gwneud eu rhan i wneud y byd yn lle gwell a chleniach i bobl sy’n byw â dementia.

Mae sawl ysgol ar draws y fwrdeistref sirol wedi bod yn cymryd rhan mewn sesiynau Cyfeillion Dementia i ddysgu mwy am y cyflwr ac ystyried ffyrdd i wneud bywyd yn haws i unigolion a theuluoedd a effeithir gan ddementia.

Fel rhan o hyn, mae plant wedi addo gwneud pethau gwahanol i helpu i greu byd mwy gofalgar i bobl â dementia.

Dyma rai o’r addewidion a wnaed gan blant yn Ysgol Gynradd Rhosddu, a gymerodd ran mewn sesiwn yn gynharach y mis hwn ????

Dementia pledge
Dementia
Dementia
Dek
Deme
Deme

Maent yn cynnwys addewidion i wneud llyfrau lloffion gyda lluniau i helpu neiniau a theidiau gofio atgofion gwerthfawr, bod yn gwrtais ac amyneddgar, a threulio mwy o amser gyda pherthnasau sydd â dementia.

Caredigrwydd ac empathi

Mae aelod o staff yn Ysgol Gynradd Rhosddu, Mrs Linda Aldridge, yn dweud: “Fe wnaeth y plant ymgysylltu’n dda â’r sesiwn ac roedd ganddynt lawer o gwestiynau am ddementia.

“Fe wnaeth y sesiwn eu galluogi i feddwl am rai o’r pethau bychain y gallant eu gwneud i helpu pobl sy’n byw â’r cyflwr – gan gynnwys aelodau hŷn o’r teulu.

“Roedd yn hyfryd gweld caredigrwydd ac empathi’r plant wrth iddynt ddysgu am ddementia, ac mae pob un ohonynt wedi addo cadw at eu haddewidion.”

Mae’r ysgolion cynradd eraill sydd wedi cymryd rhan yn y sesiynau Cyfeillion Dementia yn ddiweddar yn cynnwys Sant Paul yn Isycoed, Fictoria a Holt, ac mae sesiynau ar y gweill yn y Rofft, Borras a Chlawdd Watt.

Gwisgo denim ar gyfer dementia!

Mae rhai plant hefyd wedi bod yn gwisgo denim fel rhan o Wythnos Ymwybyddiaeth Dementia.

Er enghraifft, cynhaliodd disgyblion yn Ysgol Gynradd Sant Paul, Isycoed ‘ddiwrnod denim ar gyfer dementia’, a threulio amser yn dysgu am y pwnc.

Fe wnaethant hefyd ddarllen llyfr o’r enw ‘Harry helps Grandpa remember’ – gan Karen Tyrrell – stori hoffus am fachgen ifanc a’i daid sy’n helpu plant i ddysgu am y cyflwr.

De
Victoria CP School
Deni
Victoria CP School
St Paul's School
St Paul’s School
St Paul's School
St Paul’s School
St Paul's School
St Paul’s School
St Paul's School
St Paul’s School
St Paul's School
St Paul’s School

Dywedodd y Cynghorydd Joan Lowe, Aelod Arweiniol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Oedolion: “Mae aeddfedrwydd ac empathi plant wrth ddysgu am ddementia yn galonogol iawn, ac rwy’n falch iawn o’r holl bobl ifanc sydd wedi cymryd rhan yn y sesiynau Cyfeillion.

“Bydd gan nifer o blant berthnasau sy’n byw â dementia, a thrwy wneud addewidion a chodi ymwybyddiaeth am y cyflwr, maent yn helpu i wneud y byd yn lle gwell a chleniach.”

???? Mae’r cyfyngiadau yng Nghymru’n llacio’n raddol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall beth gewch chi ei wneud a beth na chewch chi ei wneud.????

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://llyw.cymru/cyfyngiadau-cyfredol “] Y RHEOLAU COVID DIWEDDARAF [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Arolwg Boddhad Tenant a Lesddeiliad – Y Canlyniadau Arolwg Boddhad Tenant a Lesddeiliad – Y Canlyniadau
Erthygl nesaf Carer A ydych chi erioed wedi ystyried bod yn ofalwr?

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Car park
Wrecsam yn erbyn Watford – cynlluniwch eich taith🚗🚌
Digwyddiadau Pobl a lle
Awst 21, 2026
Canlyniadau TGAU 2026 - Llongyfarchiadau i'n holl ddysgwyr
Canlyniadau TGAU 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl ddysgwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 20, 2026
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Busnes ac addysg
Awst 20, 2026
St Mark's Car Park in Wrexham
Paratoadau ar y gweill ar gyfer adeiladu parc bysus yng nghanol dinas Wrecsam
Pobl a lle
Awst 19, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
ArallBusnes ac addysgPobl a lle

Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr

Awst 13, 2026
Groundwork
Busnes ac addysgPobl a lleY cyngor

Eisiau dysgu rhywbeth newydd? Mae disgwyl i Groundwork Gogledd Cymru ddarparu dosbarthiadau dysgu cymunedol AM DDIM ar draws Wrecsam a Sir y Fflint

Gorffennaf 22, 2026
Bethan, Noah a Gill
Busnes ac addysg

“Gwasanaeth ymroddedig i blant, teuluoedd a staff” – athrawes sydd wedi gwasanaethu am 43 mlynedd yn ymddeol

Gorffennaf 20, 2026
Youth Services Survey - young peope
Busnes ac addysgPobl a lle

Cwblhewch ein harolwg a helpwch i lunio dyfodol gwasanaethau ieuenctid yn Wrecsam

Gorffennaf 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English