Mae Senedd yr Ifanc (Senedd Ieuenctid Wrecsam) yn parhau i edrych ar y materion pwysig sy’n effeithio ar bobl ifanc yn Wrecsam, ac mae ganddo un ymgynghoriad newydd ac un bleidlais newydd maent eisiau i bobl ifanc gymryd rhan ynddynt.
Ymgynghoriad CAHMS
Mae CAMHS (Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc) yn cefnogi plant a phobl ifanc sydd ag anawsterau gyda’u lles emosiynol neu ymddygiad. Mae’r rhain yn cynnwys anhwylderau bwyta, anhwylder ar y sbectrwm awtistig, anhwylder diffyg sylw gorfywiogrwydd (ADHD), iselder, pryderus, anhwylder straen wedi trawma (PTSD) a seicosis.
Mae’r Senedd wedi dod at ei gilydd gyda CAMHS i weithio ar brosiect yn Wrecsam, ac maent ar hyn o bryd yn cynnal ymgynghoriad gyda phobl ifanc sy’n 10- 25 oed.
Bwriad yr ymgynghoriad yw datblygu ymhellach amgylchedd CAMHS i blant a phobl ifanc, drwy ofyn cwestiynau megis ‘os byddet ti’n mynychu apwyntiad CAMHS, beth arall a fyddai’n dy helpu i deimlo’n fwy cyfforddus?’
Mae CAHMS eisiau clywed safbwyntiau pobl ifanc hyd yn oed os nad ydynt wedi defnyddio’r gwasanaethau o’r blaen.
Mae eich llais yn bwysig. Dywedwch wrthym beth yw eich barn drwy gymryd rhan.
CYMRYD RHAN YN YR YMGYNGHORIAD
Bydd yr ymgynghoriad hwn yn weithredol tan 20 Tachwedd, 2020.
Diogelu’r bobl yr ydych yn eu caru, lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG.
Senedd Yr Ifanc a Diogelu Natur – Pleidlais
Roedd lleihau Newid Hinsawdd yn brif flaenoriaeth y Senedd Yr Ifanc yn eu pleidlais yn 2019, a bu i 477 o bobl ifanc (27.3%) bleidleisio am hyn.
Mi wnaethant greu pleidlais gyda chwe opsiwn i ganfod pa faes o leihau Newid Hinsawdd yr oedd pobl ifanc eisiau’r Senedd ffocysu arno.
Roedd Diogelu Natur ar y brig, roedd 36.36% o bobl ifanc wedi pleidleisio am hwn.
Hoffai’r Senedd i chi eu cefnogi yn awr drwy fwrw pleidlais ar ba faes yr ydych yn credu y gall gael yr effaith fwyaf ar ‘Ddiogelu Natur’ yn Wrecsam.
Mae hwn yn bleidlais gyflym i bobl ifanc 11 – 25 oed.
Pa faes ydych yn credu y gall Senedd Yr Ifanc gael yr effaith fwyaf arni yn Wrecsam?
• Mannau gwyrdd
• Plannu coed a blodau gwyllt
• Rheoli afonydd
• Cnydau a phlaladdwyr
• Gwarchod Bywyd
• Glanhau
• Gwarchod byd natur
• Arall
Gadewch iddynt wybod drwy gymryd rhan.
CYMRYD RHAN YN Y BLEIDLAIS
Bydd y bleidlais yn weithredol tan 20 Tachwedd, 2020.
Lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG ….a helpwch i gadw Wrecsam yn ddiogel yr hydref yma.
Lawrlwythwch yr ap GIG