Bydd menter newydd yn Wrecsam yn taflu goleuni ar greadigrwydd, lles ac ysbryd cymunedol lleol – diolch i gydweithrediad rhwng y caffi annibynnol poblogaidd Lot 11 a Dyma Wrecsam.
Dyma Wrecsam yw’r bartneriaeth twristiaeth a lletygarwch swyddogol ar gyfer Bwrdeistref Sirol Wrecsam, sy’n gweithio i hyrwyddo’r rhanbarth fel cyrchfan fywiog, groesawgar i ymwelwyr, busnesau a thrigolion fel ei gilydd. Trwy ymgyrchoedd strategol, cymorth busnes a hyrwyddo lleoedd, mae’r bartneriaeth yn hyrwyddo popeth sy’n gwneud Wrecsam yn arbennig – o berlau cudd ac annibynwyr lleol i ddigwyddiadau ac atyniadau mawr.
Gan adlewyrchu’r un ysbryd, mae’r perchennog Sarah Baker a’r tîm yn Lot 11 yn lansio prosiect sy’n dod â phrofiadau celf, busnes lleol a lles at ei gilydd. Mae’r caffi wedi partneru â’r artist o Wrecsam, Mikey Jones, i greu darlun pwrpasol o’r nenlin, sy’n cynnwys adeilad eiconig Lot 11 yn ei ganol. Bydd y gwaith celf yn ymddangos ar ystod o fagiau tôt a nwyddau chwaethus, wedi’u cynllunio i ddathlu’r ddinas a chefnogi hyrwyddo lleol.
Bydd pob bag tôt yn cael ei lenwi â map o Wrecsam, taflenni a deunydd hyrwyddo gan fusnesau lleol, gan annog ymwelwyr i weld popeth sydd gan y ddinas i’w gynnig. Mae Dyma Wrecsam yn gweithio’n agos gyda’i rwydwaith aelodau i sicrhau bod ystod eang o fusnesau a phrofiadau annibynnol yn cael eu cynrychioli.

Hefyd, bydd Lot 11 yn ymuno â darparwyr lles lleol – gan gynnwys grwpiau ioga, pilates, cerdded a ffitrwydd – i gyflwyno cyfres o ddigwyddiadau lles misol. Bydd pob un o’r mynychwyr yn cael bag tôt, gan helpu i ledaenu’r gair am Wrecsam a’i sîn annibynnol ffyniannus.
Mae’r prosiect yn cael ei gynorthwyo drwy arian gan Gronfa Ffyniant a Rennir y DU, ac fe’i disgrifiwyd fel dathliad o greadigrwydd, cydweithredu a chymuned – gyda Lot 11 a Dyma Wrecsam wrth ei galon.
Dywedodd Sam Regan, Perchennog Lemon Tree a Chadeirydd Dyma Wrecsam: “Dyma’r union fath o brosiect rydyn ni’n falch o’i gefnogi – un sy’n dod â phobl at ei gilydd, yn hyrwyddo ein busnesau lleol anhygoel, ac yn dangos ysbryd creadigol Wrecsam. Mae Lot 11 yn enghraifft wych o sut y gall lletygarwch annibynnol arwain y ffordd wrth adeiladu cymuned, ac rydym yn gyffrous i weld yr effaith gadarnhaol y bydd hyn yn ei chael ar draws y ddinas.”
Dwedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam: “Fel cyngor rydym wedi helpu i ddyrannu miliynau o bunnoedd o Gyllid Ffyniant a Rennir y DU i fusnesau a phrosiectau lleol, ac mae’r fenter hon yn enghraifft wych o sut mae’r sector twristiaeth lleol yn gweithio gyda’i gilydd i hyrwyddo popeth sy’n unigryw ac arbennig am Wrecsam.”
Mae ESSBEA Limited, sy’n masnachu fel Caffi Lot 11, wedi derbyn £5,000 gan Dyma Wrecsam C.I.C. drwy Gronfa Ffyniant a Rennir y DU i gefnogi’r prosiect.