Mae Tŷ Pawb yn sefydlu grwp o arddwyr a garddwrwyr brwd i feithrin gardd ben to gymunedol newydd!
Beth am ymuno â’n Clwb Garddio a helpu i hau hadau adnodd lleol newydd sbon? Bydd y clwb garddio yn plannu, cynnal a chymdeithasu yn yr ardal anarferol hon sydd gyda chymaint o botensial.
Plannu hadau ar gyfer prosiect canol tref newydd
Fel rhan o’i Comisiwn Wal Pawb 2019 yn Tŷ Pawb, mae’r arlunydd Kevin Hunt yn datblygu diod newydd ffres i Wrecsam. Wedi’i gynhyrchu yn fewnol a gydag ôl-troed bwyd isel, dim ond o Tŷ Pawb y bydd ar gael, a bydd ei flas yn adlewyrchu’r cynhwysion sy’n cael eu tyfu ar ein to!
Bydd Clwb ‘Garddio/Garden Club’ yn dod at ei gilydd yn rheolaidd i blannu a chynnal, dyfeisio syniadau a chymdeithasu yn un o lefydd mwyaf anarferol Wrecsam, gyda llawer o botensial i’ch syniadau egino.
Darganfyddwch fwy
Bydd cyfarfod cyntaf ‘Clwb Garddio/Garden Club’ yn cael ei gynnal ddydd Gwener, 8fed Chwefror am 1pm gyda Kevin a thîm Tŷ Pawb ac mae croeso i unrhyw un sydd â diddordeb mewn dysgu mwy am y prosiect fod yn bresennol, cynllunio a gweld ein ardal to anhygoel tra’n samplo prototeip cyntaf diod Kevin!
Cysylltwch â Heather Wilson, Cydlynydd Gwirfoddolwyr Tŷ Pawb, i gael rhagor o wybodaeth am sut y gallech chi neu eich grŵp fod yn rhan o brosiect garddio cymunedol newydd a chyffrous yng nghanol tref Wrecsam: Heather.Wilson@wrexham.gov.uk