Mae rhaglen newydd o weithgareddau am ddim i blant ac oedolion, gan gynnwys gweithdai cerddoriaeth, clybiau coffi a chrefft a sesiynau chwarae i blant bach wedi’i lansio yn Tŷ Pawb.
Bydd gweithgaredd gwahanol bob dydd o’r wythnos, a phob un yn digwydd yn ystod y dydd yn neuadd farchnad Tŷ Pawb.
Mae pob gweithgaredd heblaw am y Grŵp Celf Addysg Gartref yn rhai galw heibio, sy’n golygu na fydd angen i chi archebu ymlaen llaw – dewch draw ar y diwrnod!
Gweler isod am y rhaglen lawn.
Mae pob gweithgaredd wedi’i farcio â * ar y rhaglen wedi’i wneud yn bosibl diolch i gyllid gan Gronfa Ffyniant a Rennir Llywodraeth y DU #UKSPF #WCBC
Gellir dod o hyd i fanylion pellach am bob gweithgaredd ar wefan Tŷ Pawb.



Mwy o newyddion gwych i neuadd farchnad Tŷ Pawb
Dywedodd yr Aelod Arweiniol sydd â chyfrifoldeb am Dŷ Pawb, y Cynghorydd Hugh Jones: “Rydym yn gwybod o boblogrwydd ein digwyddiadau rheolaidd, gan gynnwys coffi a chrefftau, sesiynau chwarae a chyngherddau amser cinio am ddim, fod cynulleidfa frwdfrydig ar gyfer gweithgareddau dyddiol. Bydd y gweithgareddau ychwanegol, am ddim hyn yn caniatáu inni ddatblygu’r rhaglen ddyddiol yn sylweddol – bydd o leiaf un gweithgaredd dyddiol am ddim yn digwydd ar bob un o’r 6 diwrnod o’r wythnos y mae Tŷ Pawb ar agor. Mae gweithgareddau’n cwmpasu ystod eang o ddiddordebau a grwpiau oedran a bydd croeso cynnes i unrhyw un sy’n dymuno mynychu.
“Bydd yr holl weithgareddau’n digwydd yn ardal y neuadd farchnad a’r cwrt bwyd ac maent yn rhan o gyfres ehangach o brosiectau yr ydym yn eu cynnal i ehangu a gwella’r profiad dyddiol i ymwelwyr, denu mwy o ymwelwyr a chefnogi ein masnachwyr. Diolch i brosiect arall a ariannwyd gan SPF Llywodraeth y DU, mae gwaith adeiladu bellach wedi dechrau i greu lle newydd, agored, hyblyg yn neuadd y farchnad, gyda dodrefn ac offer chwarae newydd sbon, gan ganiatáu lle ychwanegol ar gyfer digwyddiadau a mwy o gapasiti i bobl eistedd yn yr ardal fwyd.
We are also delighted to announce that Tŷ Pawb has been awarded funding from the Welsh Government’s Capital Investment Fund, delivered through Arts Council Wales. This will fund a feasibility study to enhance the North Arcade entrance area and the Flexi Space.
“With a number of brand-new businesses about to open in the next few weeks, this caps off a very positive time for Tŷ Pawb’s market hall and food court.”
Gweithgareddau wythnosol yn ystod y dydd yn Tŷ Pawb
Dydd Llun
10:30 – 12:00
Clwb Cerddoriaeth Dydd Llun*
Dydd Mawrth
10:00 – 11:30
Clwb Celf Dydd Mawrth
Dydd Mercher
11.00 – 12.30
Amser Plant Bach!*
Dydd Iau
10:00 – 11:30
Coffi a Chrefft
Dydd Iau
16:00 – 17:30
Sesiwn Chwarae Am Ddim
Dydd Gwener
10.30 – 12.00
Clwb Celf Addysg Gartref*
Dydd Gwener
11:00 – 13:00
Gwirfoddoli yn ein Gardd ar y To
Dydd Sadwrn
10:00 – 12:00
Clwb Celf i’r Teulu