Yng Nghymru mae yno tua 400,000 o bobl sydd naill ai heb gofrestru i bleidleisio’n iawn yn eu cyfeiriad presennol neu heb gofrestru o gwbl.
Yn yr wythnosau diwethaf fe ddylech fod wedi cael llythyr oddi wrthym yn gofyn ichi gadarnhau eich manylion. Peidiwch â’i anwybyddu! Trwy lenwi’r ffurflen hon, byddwch chi’n barod i bleidleisio pan ddaw hi’n amser etholiadau.
Rydym yn gwirio manylion fel hyn ar gyfer yr hyn a elwir yn ganfasiad blynyddol; fe gewch chi fwy o wybodaeth am hynny drwy ddarllen yr erthygl hon ynglŷn â gwneud yn siŵr y gallwch bleidleisio .
Wrth i fwy a mwy o bobl yng Nghymru gael yr hawl i bleidleisio, mae’n bwysig gwneud yn siŵr nad ydych chi ymhlith y 400,000 o bobl hynny sydd heb gofrestru eto.
Meddai Ian Bancroft, Swyddog Cofrestru Etholiadol Cyngor Wrecsam: “Y canfasiad blynyddol yw ein ffordd ni o wneud yn siŵr bod y wybodaeth ar y gofrestr etholiadol ar gyfer pob cyfeiriad yn gywir. Gwyliwch am ohebiaeth gan Gyngor Wrecsam a dilynwch y cyfarwyddiadau i wneud yn siŵr na fyddwch chi’n colli’r cyfle i fwrw eich pleidlais yn yr etholiad nesaf.
Os na glywch chi gan y Cyngor, efallai nad ydych ar y gofrestr. Os hoffech chi gofrestru, y ffordd hawddaf yw mynd ar-lein i www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio.”
Mae gennych tan 30 Tachwedd i roi gwybod i ni os oes unrhyw beth wedi newid ar eich ffurflen.
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.