Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Mae’n amser mynd i’r afael â thwyll rhamant
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Recycling
Ydych chi’n ymweld â chanolfan ailgylchu Plas Madoc? Byddwch yn ymwybodol o’r newidiadau hyn…
Y cyngor
admissions
Dyddiadau derbyn i ysgolion ar gyfer 2026
Busnes ac addysg Y cyngor
Red Ensign
Chwifio’r Lluman Coch i nodi Diwrnod y Llynges Fasnachol
Pobl a lle Y cyngor
Enillydd Glastonbury yn Perfformio yn Tŷ Pawb yn mis Medi!
Enillydd Glastonbury yn Perfformio yn Tŷ Pawb yn mis Medi!
Digwyddiadau Pobl a lle
Dau oedolyn hŷn yn eistedd gyferbyn â'i gilydd wrth fwrdd yn cael sgwrs
Sesiynau galw heibio i’w cynnal ledled y sir ynghylch gwasanaethau cymdeithasol oedolion
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Mae’n amser mynd i’r afael â thwyll rhamant
Pobl a lle

Mae’n amser mynd i’r afael â thwyll rhamant

Diweddarwyd diwethaf: 2022/12/15 at 9:11 AM
Rhannu
Darllen 3 funud
Romance Fraud
RHANNU

Rydym yn cefnogi CrimeStoppers i atal Twyll Rhamant sy’n effeithio ar unigolion ledled y DU ac yma yn Wrecsam.

Mae mwy a mwy o bobl yn cwrdd â phobl ar-lein, ar rwydweithiau cymdeithasol, trwy chwarae gemau ar-lein, llwyfannau chwilio am gariad, unrhyw le ble gall pobl sgwrsio ar-lein – ac felly mae mwy a mwy o bobl yn datblygu perthnasau gyda phobl nad ydynt erioed wedi eu cyfarfod wyneb yn wyneb.

Ydych chi’n ddioddefwr siarc benthyg arian? Ffoniwch 0300 123 311.

Mae chwilio am gariad ar-lein, er enghraifft, bellach yn un o’r ffyrdd mwyaf cyffredin i gwrdd â phartner rhamantaidd. Tra bod y rhan fwyaf o ddefnyddwyr yn rhai onest, yn anffodus mae rhai yn ceisio cymryd mantais o unigolion sy’n edrych am gariad.

Yn anffodus, mae twyllwyr wedi gweld sut y gallant gymryd maintais o hyn a nawr yn defnyddio proffiliau ffug, yn ffugio straeon, dylanwadu a chymell – oll gyda’r bwriad o greu cyswllt â rhywun diniwed ar y rhyngrwyd, gyda’r nod yn y pen draw i ddarbwyllo’r unigolyn diniwed i anfon arian atynt.

Twyll rhamant yw hyn.

Ar gyfartaledd mae unigolyn yn colli £10,000 dros gyfnod y twyll. Yn 2021 roedd dros £99 miliwn wedi’i golli i dwyll rhamant.

Gall twyll rhamant ddigwydd i unrhyw un. Pob rhyw, oed, cyfeiriadedd rhywiol. Mae pobl o bob cefndir diwylliannol ac ethnig yn ddioddefwyr, dynion hoyw yn cael eu targedu’n anghymesur gyda 12.4% o’r holl ddioddefwyr yn 2021.

Arwyddion o Dwyll Cariad:

  • Cyn i chi wir ddod i’w hadnabod, maent yn datgan eu cariad yn gyflym.
  • Maent yn gwneud esgusodion pam ma allant sgwrsio dros fideo neu gwrdd wyneb yn wyneb.
  • Maent yn ceisio symud eich sgyrsiau yn gyflym oddi ar y llwyfan ble fu i chi gyfarfod.
  • Pan fyddant yn gofyn am gymorth ariannol, bydd ar gyfer argyfwng critigol o ran amser, a bydd y rheswm yn mynd at eich calon.
  • Efallai y byddant yn mynd yn amddiffynnol os ydych yn gwrthod helpu.
  • Efallai y byddant yn dweud wrthych am gadw eich perthynas yn breifat ac i beidio â thrafod unrhyw beth gyda’ch ffrindiau a theulu.

Darllenwch fwy am hyn ar wefan CrimeStoppers

Os ydych wedi dioddef Twyll Rhamant cysylltwch â ni ar y ffôn neu ar-lein – ffoniwch am ddim ar 0800 555 111 neu ddefnyddio ein ffurflen ar-lein yma ar ein gwefan 24/7, 365 diwrnod y flwyddyn.

O ran costau byw, gallai gwneud yn siwr eich bod yn hawlio yr holl gymorth a chefnogaeth y mae gennych hawl iddo wneud gwahaniaeth mawr.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://www.wrecsam.gov.uk/services/cymorth-gyda-chostau-byw”] HAWLIWCH YR HYN SY’N DDYLEDUS I CHI [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Question marks Sut ydych chi’n hoffi cymryd rhan?
Erthygl nesaf Supported Lodgings Cytundeb i gynyddu Taliadau Llety â Chymorth

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Recycling
Ydych chi’n ymweld â chanolfan ailgylchu Plas Madoc? Byddwch yn ymwybodol o’r newidiadau hyn…
Y cyngor Awst 30, 2025
admissions
Dyddiadau derbyn i ysgolion ar gyfer 2026
Busnes ac addysg Y cyngor Awst 29, 2025
Red Ensign
Chwifio’r Lluman Coch i nodi Diwrnod y Llynges Fasnachol
Pobl a lle Y cyngor Awst 27, 2025
Enillydd Glastonbury yn Perfformio yn Tŷ Pawb yn mis Medi!
Enillydd Glastonbury yn Perfformio yn Tŷ Pawb yn mis Medi!
Digwyddiadau Pobl a lle Awst 26, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Red Ensign
Pobl a lleY cyngor

Chwifio’r Lluman Coch i nodi Diwrnod y Llynges Fasnachol

Awst 27, 2025
Enillydd Glastonbury yn Perfformio yn Tŷ Pawb yn mis Medi!
DigwyddiadauPobl a lle

Enillydd Glastonbury yn Perfformio yn Tŷ Pawb yn mis Medi!

Awst 26, 2025
Dau oedolyn hŷn yn eistedd gyferbyn â'i gilydd wrth fwrdd yn cael sgwrs
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Sesiynau galw heibio i’w cynnal ledled y sir ynghylch gwasanaethau cymdeithasol oedolion

Awst 22, 2025
Ruthin Road
Pobl a lle

Wrecsam yn erbyn Sheffield Wednesday: Parcio a Theithio

Awst 21, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English