Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Mae’n Ddiwrnod Ailgylchu Byd-eang! BYDD WYCH. AILGYLCHA.
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Mae’n Ddiwrnod Ailgylchu Byd-eang! BYDD WYCH. AILGYLCHA.
Pobl a lleY cyngor

Mae’n Ddiwrnod Ailgylchu Byd-eang! BYDD WYCH. AILGYLCHA.

Diweddarwyd diwethaf: Mawrth 18, 2021 11:25 am
Rhannu
Darllen 6 funud
Mae’n Ddiwrnod Ailgylchu Byd-eang! BYDD WYCH. AILGYLCHA.
RHANNU

Heddiw (dydd Iau, 18 Mawrth) mae’n Ddiwrnod Ailgylchu Byd-eang a gofynnir i ni feddwl am y pethau yr ydym yn eu taflu i ffwrdd – gan edrych arnynt fel cyfleoedd yn hytrach na gwastraff.

Cynnwys
  • Ffeithiau ailgylchu am Gymru:
      • Ailgylchu bwyd:
      • Ailgylchu gwydr a metel:
      • Ailgylchu plastig:
      • Ailgylchu cerdyn a phapur:

Crëwyd y Diwrnod Ailgylchu Byd-eang yn 2018 er mwyn helpu i gydnabod a dathlu pa mor bwysig yw ailgylchu er mwyn gwarchod ein prif adnoddau gwerthfawr a sicrhau dyfodol ein planed. Mae’n ddiwrnod i’r byd ddod at ei gilydd a rhoi’r blaned yn gyntaf.

Rydym yn gwbl gefnogol o hyn yn Wrecsam ac mae gennym ein Cynllun Gweithredu Datgarboneiddio ein hunain yn ein hymdrech i ddod yn sefydliad carbon niwtral erbyn 2030.

Meddai’r Cynghorydd David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Ailgylchu yw un o’r ffyrdd hawsaf a gorau y gallwn ni fynd i’r afael â newid hinsawdd o fewn ein cartrefi ein hunain. Trwy wneud hynny byddwn yn helpu i warchod adnoddau naturiol ac arbed ynni, sy’n arafu effeithiau newid hinsawdd. Fe ddylem fod yn falch o’n hymdrechion ailgylchu hyd yn hyn, ond mae’n rhaid i ni ddyfalbarhau ac anelu i wneud hyd yn oed yn well. Gadewch i ni barhau i ailgylchu popeth y gallwn ni o amgylch y cartref, er mwyn gwella ein ffigurau ailgylchu lleol a helpu i sicrhau fod Cymru yn cyrraedd y brig.”

Y diweddaraf am y rhaglen frechu rhag Covid-19 ar draws Wrecsam a Gogledd Cymru

Hoffech chi ddarllen ffeithiau diddorol am ailgylchu yng Nghymru? Edrychwch ar y rhain…

Ffeithiau ailgylchu am Gymru:

• Cymru yw’r drydedd wlad orau yn y byd am ailgylchu. Ni yw’r cyntaf yn y Deyrnas Unedig o bell ffordd.
• Yng Nghymru, rydyn ni’n ailgylchu 65% o’n gwastraff. 37% oedd y ffigur hwn yn 2009.
• Mae 92% ohonom yn ailgylchwyr rhyddid.
• Mae 55% o bobl yng Nghymru yn ailgylchu mwy o pethau i gymharu â 2019.
• Oedolion ifanc yng Nghymru sydd wedi gwneud y cynnydd mwyaf fesul blwyddyn, gydag 80% o bobl 18–34 oed yn dweud eu bod yn ailgylchu mwy yn 2020 nag a wnaethon nhw yn 2019.
• Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed i ailgylchu 70% o’n gwastraff erbyn 2025, a bod yn genedl ddiwastraff erbyn 2050.

Ailgylchu bwyd:

• Mae ailgylchu gwastraff bwyd yn helpu’n uniongyrchol i fynd i’r afael â newid hinsawdd.
• Mae 80% o bobl yng Nghymru yn ailgylchu eu gwastraff bwyd.
• Mae 6 o fagiau te wedi’u hailgylchu yn gallu cynhyrchu digon o ynni i ferwi’r tegell i wneud disgled arall.
• Gall 1 croen banana wedi’i ailgylchu gynhyrchu digon o egni i wefru 2 ffôn smart.
• Gall llond cadi o wastraff bwyd gynhyrchu digon o drydan i bweru cartref nodweddiadol am 1 awr.

Ailgylchu gwydr a metel:

• Gellir ailgylchu gwydr a metel dro ar ôl tro heb i’w ansawdd ddirywio.
• Defnyddir tua 95% yn llai o ynni i wneud eitemau gwydr a metel o ddeunyddiau eilgylch o’i gymharu â defnyddio deunyddiau ‘crai’.
• Mae’r eitemau gwydr a metel y gellir eu hailgylchu o’r ystafell wely a’r ystafell ymolchi yn cynnwys poteli persawr a phersawr eillio, ac erosolau diaroglydd, chwistrell gwallt a gel eillio.
• Mae ailgylchu 1 can diod yn arbed digon o ynni i bweru cawod am dros 5 munud.
• Mae ailgylchu 1 erosol arbed digon o egni i bweru teledu am 8 awr.
• Mae ailgylchu 1 botel gwin gwydr yn atal allyriadau CO2 gwerth bron i 4,000 o geir rhag cyrraedd ein hatmosffer.

Mae 73% o bobl Cymru’n ailgylchu eu caniau aerosol gwag. https://t.co/En3e9k7c5e #ByddWychAilgylcha pic.twitter.com/tIwAuHtUqw

— Cyngor Wrecsam (@cbswrecsam) March 15, 2021

Ailgylchu plastig:

• Gellir ailgylchu’r rhan fwyaf o eitemau plastig o amgylch y cartref.
• Mae’r poteli plastig y gellir eu hailgylchu o’r ystafell ymolchi yn cynnwys poteli hylif golchi dwylo, gel cawod, siampŵ a chyflyrydd gwallt, poteli ewyn bath a photeli nwyddau glanhau plastig.
• Mae 85% o ddinasyddion Cymru’n ailgylchu eu poteli nwyddau ymolchi plastig. Mae 88% yn ailgylchu poteli diodydd plastig.
• Mae’n cymryd 75% yn llai o ynni i wneud potel blastig o blastig eilgylch o’i gymharu â defnyddio deunyddiau ‘crai’.
• Mae ailgylchu 1 botel nwydd glanhau yn arbed digon o ynni i wefru 6 iPad.
• Mae ailgylchu 1 botel cannydd yn arbed digon o ynni i ferwi tegell 3 gwaith.
• Mae ailgylchu 3 botel diod 500ml yn arbed digon o ynni i bweru oergell am 4 awr.

Ailgylchu cerdyn a phapur:

• Mae 86% o bobl yng Nghymru yn ailgylchu eu cardbord.
• Mae’r cardbord y gellir ei ailgylchu o’r ystafell ymolchi yn cynnwys bocsys past dannedd, bocsys nwyddau ymolchi a thiwbiau papur toiled.
• Mae ailgylchu 1 tiwb papur toiled yn arbed digon o ynni i wefru eich ffôn smart ddwywaith.

Bydd yn Ailgylchwr Gwych a helpu Cymru i gyrraedd y brig – 8 GAIR O GYNGOR

???? Mynnwch y ffeithiau…darllenwch yr wybodaeth ddiweddaraf am raglen frechu Covid-19 GIG Cymru ar gyfer Wrecsam a Gogledd Cymru ????

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://bipbc.gig.cymru/covid-19/gwybodaeth-brechlyn-covid-19/ystadegau-brechu-lleol-ar-gyfer-gogledd-cymru1/”]CANFOD Y FFEITHIAU[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Tenants helped Tenantiaid yn dychwelyd i’w gartrefi gyda help gan staff adran Tai
Erthygl nesaf Borras P Mae gwaith yn mynd rhagddo yn ysgol Parc Borras i greu ysgolion Cynradd Cymunedol a Chyfrwng Cymraeg

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The Longest Yarn 2
Mae gwau lleol yn helpu i greu arddangosfa enfawr o’r Ail Ryfel Byd – peidiwch â cholli’ch cyfle i’w gweld!
Arall Digwyddiadau
Medi 15, 2026
Dysgu yn Wrecsam
Defnyddiwch yr offeryn defnyddiol hwn i ddarllen a gwrando ar newyddion a gwybodaeth y cyngor mewn unrhyw iaith
Busnes ac addysg
Medi 15, 2026
Mae hi'n Wythnos Ailgylchu 2026 – cofiwch ailgylchu yn y gwaith (neu yn yr ysgol, y coleg a'r brifysgol)
Mae hi’n Wythnos Ailgylchu 2026 – cofiwch ailgylchu yn y gwaith (neu yn yr ysgol, y coleg a’r brifysgol)
Datgarboneiddio Wrecsam Fideo
Medi 15, 2026
Arwyddion atal baw cŵn dylunwyr ifanc yn dechrau ymddangos ledled Wrecsam
Arwyddion atal baw cŵn dylunwyr ifanc yn dechrau ymddangos ledled Wrecsam
Pobl a lle Y cyngor
Medi 15, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Wrecsam v Southampton – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm
DigwyddiadauPobl a lle

Wrecsam v Southampton – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm

Medi 15, 2026
Cwmni gwaith coed o Wrecsam yn buddsoddi mewn gweithgynhyrchu uwch a thwf cynaliadwy
Y cyngor

Cwmni gwaith coed o Wrecsam yn buddsoddi mewn gweithgynhyrchu uwch a thwf cynaliadwy

Medi 15, 2026
Gwneuthurwr deunydd pecynnu o Wrecsam yn sicrhau grant Parth Buddsoddi i sbarduno twf a chreu swyddi
Y cyngor

Gwneuthurwr deunydd pecynnu o Wrecsam yn sicrhau grant Parth Buddsoddi i sbarduno twf a chreu swyddi

Medi 15, 2026
Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Pobl a lleY cyngor

Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam

Medi 14, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English