Heddiw fe lansiwyd casgliad ar-lein o ffotograffau a lluniau sy’n dathlu’r traddodiadau diwylliannol yr ydym yn falch o barhau eu dilyn gartref!
Wrth i bobl dreulio rhagor o amser gartref, crëwyd Rhannu o Gartref er mwyn rhoi cyfle i bobl ystyried a gwerthfawrogi’r hyn sy’n bwysig iddynt gartref.
Mae’r arddangosfa ar-lein, a ddatblygwyd gan Dîm Cydlyniant Rhanbarthol Gogledd Ddwyrain Cymru, bellach yn fyw.
Mae pobl wedi bod yn anfon eu lluniau dros yr wythnosau diwethaf a gallwch gael cip olwg ar y casgliad cyfan yma…
Cafodd y casgliad ei lansio heddiw yn bwrpasol, ar Ddiwrnod Amrywiaeth Ddiwylliannol y Byd, gan ei fod eisiau arddangos yr amrywiaeth sydd gennym yn ein cymunedau lleol a rhoi rhywbeth y gall bawb fod yn falch ohono.
Dywedodd Gareth Hall, Swyddog Rhanbarthol Cydlynol yng Nghyngor Wrecsam: “Mae gymaint o’n bywydau gartref yn ddathliad o’n traddodiadau diwylliannol – o’r pethau rydym yn eu rhoi ar ein waliau a’n silffoedd, i’r bwyd ar ein byrddau, i’r gemau, yr arferion a’r defodau sy’n rhan o’n bywydau bob dydd.
“Mae gymaint y gallwn ddysgu gan ein gilydd os byddwn yn rhannu darn o’n diwylliant – ac mae bod yn rhan o’r prosiect hwn yn ffordd llawn hwyl, rhad ac am ddim i fod mor greadigol ag yr hoffech gyda’ch ffotograffau a lluniau.”
Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19