Ty Pawb People's Vote

Mae artistiaid wedi cael amser anodd eleni ond nid yw hynny wedi eu hatal rhag dangos eu creadigrwydd ac mae dros 350 o artistiaid wedi cyflwyno gwaith ar gyfer arddangosfa Agored Tŷ Pawb.

Y thema oedd ‘creadigrwydd yn ystod y cyfnod clo’ ac roedd yr ymateb yn ysbrydoledig, yn dangos dyfeisgarwch a’r cadernid a ddangoswyd gan artistiaid.

Darganfyddwch y gwybodaeth diweddaraf am Coronafeirws

Dyma’r tri categori:

  • Gwobr y Beirniad
  • Gwobr yr Unigolyn Ifanc
  • Gwobr Hyblygrwydd

Gwobr y Bobl

Hefyd mae pedwerydd categori arbennig iawn – “Gwobr y Bobl” ble gall unrhyw un sydd wedi gweld yr arddangosfa bleidleisio ar gyfer eu hoff ddarn. Gyda’r orielau ar gau bu i’r rhan fwyaf o bobl weld yr arddangosfa ar-lein ac aeth dros 2,000 ar-lein i weld beth oedd yno.

Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi ynghyd ag enillwyr mewn categorïau eraill ar ddiwedd yr arddangosfa. Bydd Tŷ Pawb yn cynnal digwyddiad cyflwyno gwobrau ar-lein byw nos Wener 5 Mawrth am 6pm.

Mae’r bleidlais yn cau am 9am ar ddydd Iau 4 Mawrth a gallwch ddefnyddio’r ddolen hon i bleidleisio ar gyfer eich hoff ddarn.

Os nad ydych wedi gweld yr arddangosfa eto gallwch wneud yma: https://my.matterport.com/show/?m=esbL6AfoTSg a chael taith rithiol lawn.

Cofiwch bleidleisio cyn 9am ar ddydd Iau 4 Mawrth. https://www.typawb.cymru/arddangosfeydd/ty-pawb-agored/#gwobrybobl

😷 Darganfyddwch y ffeithiau…darllenwch y gwybodaeth diweddaraf am brechlyn Covid-19 gan GIG Cymru 👈

CANFOD Y FFEITHIAU