Ers mis Medi, mae adran etholiadau Cyngor Wrecsam wedi bod yn cynnal y cynfas blynyddol i sicrhau bod holl breswylwyr y Fwrdeistref Sirol sy’n gallu pleidleisio, wedi cofrestru.
Mae’r gwaith bron â dod i ben, felly beth nesaf?
A ninnau bellach yn gwybod pwy sy’n gymwys i bleidleisio, rydym yn symud ymlaen i’r ail gam. Mae hyn yn golygu, os yw’r gwaith canfasio yn dangos bod pobl ar eich aelwyd sydd heb gofrestru, bydd Gwahoddiad i Gofrestru yn cael ei anfon atoch. Trwy lenwi’r ffurflen hon, mae’n golygu y byddwch chi’n gallu pleidleisio pan ddaw hi’n amser etholiadau.
Os byddwch yn derbyn Gwahoddiad i Gofrestru, peidiwch â’i anwybyddu…mae cymryd rhan mewn democratiaeth yn golygu defnyddio eich pleidlais, ond er mwyn gallu gwneud hynny, mae’n rhaid i chi gofrestru. Gallwch hefyd gofrestru ar-lein: gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio. Bydd angen eich Rhif Yswiriant Gwladol arnoch a dim ond 5 munud y bydd yn ei gymryd i gofrestru. Fe fydd yn hyn yn arbed arian i’r Cyngor ar gostau argraffu a phostio.
Swyddi a gyrfaoedd – gweithiwch i ni a bod yn rhan o’r stori.