Bydd arddangosfa nesaf Tŷ Pawb yn dod â threftadaeth pêl-droed arwyddocaol Wrecsam i’r amlwg.
Trwy ddefnyddio arteffactau hanesyddol a gwaith celf cyfoes yn ymwneud â phêl-droed, bydd Futbolka yn ysgogi ymatebion o ran mynediad, cydraddoldeb a chynhwysiant.
Mae teitl yr arddangosfa yn cyfeirio at y wisg streipïog du a gwyn o’r un enw, a ddaeth yn gysylltiedig â dillad neillryw sofietaidd, chwyldroadol.
CELFYDDYDAU, MARCHNADOEDD, CYMUNED – COFRESTRWCH I DDERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB .
Trysorfa o arteffactau pêl-droed
Bydd Futbolka yn cynnwys crysau a sgarffiau pêl-droed ac eitemau eraill o archifau Amgueddfa Wrecsam a chasgliadau preifat eraill. Caiff rhain eu harddangos gyda pheintiadau, dillad, ffilmiau a gwaith celf eraill.
Bydd y rhaglen ehangach yn ymwneud â Futbolka yn cynnwys twrnameintiau, darllediadau ffilm a chynhadledd gyda siaradwyr a phaneli yn trafod testunau’r arddangosfa.
Rhywbeth i bob oedran ei fwynhau
Dywedodd Jo Marsh, Arweinydd y Celfyddydau yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Chyfarwyddwr Creadigol Tŷ Pawb, “Bydd Futbolka yn dod â nifer o agweddau o nod Tŷ Pawb ynghyd fel un cydlynus. Yn ffurfio rhan o’r tymor ‘Creu/Chwarae’ ehangach drwy gydol 2019/20 yn Nhŷ Pawb, bydd Futbolka hefyd yn cynrychioli nifer o’n nodau mewn perthynas ag iechyd a lles ein sir.
“Bydd cyfuno arteffactau sydd o bwysigrwydd lleol a gwaith celf sydd o bwysigrwydd rhyngwladol yn creu arddangosfa wych ar gyfer holl aelodau’r gymuned.”
Dywedodd Aelod Arweiniol dros Bobl – Cymunedau, Partneriaethau Diogelu’r Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol, y Cyng Hugh Jones: “Mae’n addas iawn bod arddangosfa ddiweddaraf Tŷ Pawb yn dathlu pêl-droed, rywbeth sy’n rhan mor enfawr o dreftadaeth Wrecsam.
“Bydd rhywbeth yma i bob oedran ei fwynhau ac rwy’n siŵr y bydd y rhaglen weithgareddau, trafodaethau a dangosiadau atodol yn denu llawer o ddiddordeb lleol.
“Mae’n barhad o raglen arddangosfeydd hynod amrywiol a lliwgar mae Tŷ Pawb yn cyflawni yn 2019.”
Cofrestrwch i dderbyn newyddion a diweddariadau gan Tŷ Pawb
DERBYN NEWYDDION O TŶ PAWB