Yn dilyn ymweliad cyntaf llwyddiannus yn 2018, bydd y Farchnad Stryd Gyfandirol yn dychwelyd i ganol tref Wrecsam ar gyfer ymweliad cyntaf 2019.
Gallwch ddisgwyl ddod o hyd i gymysgedd o fasnachwyr rhyngwladol a fydd yn cynnwys llawer o opsiynau bwydydd stryd i’ch temtio. Bydd y digwyddiad ar agor rhwng 10am a 5pm, o ddydd Mercher, Mawrth 20, i ddydd Sadwrn, Mawrth 23, a bydd yng nghanol y dref ar Stryt yr Hôb, Stryt y Rhaglaw a Stryt y Frenhines.
Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol Adfywio Economaidd: “Mae hyn yn newyddion ardderchog ac mae’n hwb pellach i economi canol y dref. Bydd y farchnad boblogaidd yn gweld llawer o ymwelwyr tra yma a byddant yn gallu crwydro o amgylch y farchnad a chanol y dref hefyd. Roedd y farchnad yn llwyddiant pan oedd yma fis Tachwedd diwethaf ac mae’n wych ei gweld yn dychwelyd eto.”
Bydd masnachwyr o bob cwr o’r byd wrth law i arddangos y cynnyrch gorau sydd gan eu gwledydd i’w gynnig. Bydd amrywiaeth eang o gynnyrch ar gael, o grefftau anghyffredin, i fasnachwyr bwyd yn cynnig y cynnyrch poeth ac oer gorau o’u mamwledydd. Disgwyliwch i’r ardal fod yn llawn bwrlwm gyda golygfeydd, synau ac arogl y cyfandir.
Bydd dydd Mercher, Mawrth 20, hefyd yn weld gêm gyntaf Rhyngwladol Cymru ers deng mlynedd yn cael ei chynnal yn y Cae Ras gyda Chymru yn erbyn Trinidad a Tobago. Yn ystod y dydd bydd yna lwyth o weithgareddau i’r teulu yng nghanol y dref yn ogystal â thafarndai a bariau yn dangos y gêm yn nes ymlaen ar y noson – beth well? Cewch weld beth sydd ymlaen:
- Y Farchnad Gyfandirol
- Ffair Hwyl y Gwanwyn
- Gweithgareddau yn Nhŷ Pawb
- Arddangosfeydd sy’n gysylltiedig â Phêl-droed Cymru yn Amgueddfa Wrecsam
- Cyfle i wylio’r gêm mewn amrywiol dafarndai a bariau yng Nghanol y Dref
Cewch wybod mwy am Gymru yn erbyn Trinidad a Tobago yma.
Caiff y farchnad gyfandirol ei rhedeg gan RR Events, cwmni Rheoli Digwyddiadau sydd wedi’i leoli yn Lerpwl sydd yn arbenigo mewn digwyddiadau arbennig a marchnadoedd thema.
A fydd angen cludiant i’r ysgol arnoch ym mis Medi? Gwnewch gais ar-lein rŵan
GWNEWCH GAIS AR-LEIN RŴAN