Mae wyth deg mlynedd wedi mynd heibio ers Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop ym 1945, ac fe’ch gwahoddir i fod yn rhan o’r coffáu a’r nodi yng nghanol dinas Wrecsam.
Bydd 8 Mai, 2025, yn dechrau gyda gwasanaeth yn Eglwys Plwyf San Silyn am 12.30pm. Mae’r gwasanaeth hwn ar agor i’r cyhoedd, felly dewch draw i gymryd rhan yn y gwasanaeth awyr agored hwn dan arweiniad Corfflu Drymiau Gwirfoddol y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig.
Am 1.15pm, bydd Corfflu Drymiau Gwirfoddol y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yn arwain yr orymdaith o Eglwys Plwyf Sant Silyn i’r senotaff ym Modhyfryd. Yn yr orymdaith hon, byddwch yn gallu gweld baneri’r cymdeithasau milwrol yn Wrecsam.
Gallwch ddarganfod mwy am lwybr yr orymdaith yn yr erthygl hon.
Beth arall sy’n digwydd yn Wrecsam?
Nid canol y ddinas yn unig fydd yn nodi’r achlysur… mae digwyddiadau yn cael eu cynnal ar draws y fwrdeistref sirol. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n parhau i gadw llygad ar ein tudalen Facebook am fanylion.
Dyma rai i ddechrau ar gyfer eich dyddiadur…
Cefn Mawr
Bydd Cyngor Cymuned Cefn yn cynnal digwyddiad yn Neuadd George Edwards ar 8 Mai, a fydd yn cynnwys 50 i 60 o drigolion yn mwynhau te prynhawn, corau o Ysgol Cefn Mawr ac Ysgol Acrefair. Bydd Amgueddfa Cefn Mawr yn bresennol gyda llawer o bethau cofiadwy o’r cyfnod hwnnw. Byddwn hefyd yn chwifio baner Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop yn ein senotaff.
Owrtyn
Ar 8 Mai, am 11am, bydd torch yn cael ei gosod a theyrnged yn cael ei thalu wrth Gofeb Ryfel Owrtyn, ac yna bydd gwasanaeth byr yn Eglwys y Santes Fair, Owrtyn dan arweiniad y Tad Jeremy Dussek.
Ar 9 Mai, am 7.30pm, bydd Cyngerdd Band Mawr yn Eglwys y Santes Fair yn cynnwys cerddoriaeth o’r 1940au ymlaen, gan Wrexham Big Band.
Mae tocynnau ar gael am £10 yr un o The Corner Shop Owrtyn.
Is-y-coed
Byddant yn nodi 80 mlynedd ers Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop yn Neuadd y Pentref. Gwahoddir pob preswylydd am luniaeth o’r Neuadd Bentref gyda swper o bysgod a sglodion ar gael. Bydd y ffagl yn cael ei chynnau gyda’r nos ar dir wrth ymyl Neuadd y Pentref a bydd Clychau’r Eglwys yn cael eu canu i nodi’r achlysur. Bydd plant ysgol lleol hefyd yn cymryd rhan wrth ganu ‘I vow to thee my country’.
Cysylltwch â’r cynghorau cymuned sy’n trefnu i gael rhagor o wybodaeth am ddigwyddiadau cymunedol.