Mae eleni yn nodi 80 mlynedd ers Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop ac fe’ch gwahoddir i fod yn rhan o’r coffáu yng nghanol dinas Wrecsam.
Bydd y diwrnod yn dechrau gyda gwasanaeth yn Eglwys Plwyf San Silyn am 12.30pm, ac yna gorymdaith, dan arweiniad Corfflu Drymiau Gwirfoddol y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, gyda’r Baneri’n cael eu harddangos gan gymdeithasau milwrol Wrecsam.
Bydd yr orymdaith yn gadael Eglwys San Silyn am 1.15pm ac yn gorymdeithio ar hyd Stryt yr Hôb, ymlaen i Stryt y Syfwr, gan fynd heibio Sgwâr y Frenhines, ymlaen i Stryd y Lampint, yna i Stryd Caer. Bydd y rhai sy’n gorymdeithio yn cyfarch y llwyfan yn Adeiladau’r Goron cyn troi i’r dde i Fodhyfryd lle bydd yr orymdaith yn aros. Yna bydd seremoni gosod torchau yng nghwmni band Byddin yr Iachawdwriaeth o Wrecsam. Ar ôl gosod y torchau, bydd yr orymdaith yn mynd i Glwb Coffa’r Rhyfel.
Dywedodd y Cynghorydd Parry-Jones, hyrwyddwr y Lluoedd Arfog: “Byddwn yn annog pawb i wneud nodyn o’r dyddiad hwn. Dewch allan, sefwch ar hyd strydoedd Wrecsam ar gyfer yr orymdaith a gwnewch hwn yn ddiwrnod o fyfyrio a dathlu. Mae gan Wrecsam gysylltiadau hirsefydlog â’r lluoedd arfog ac mae hwn yn gyfle gwych i ddiolch i genhedlaeth arwrol.”
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.