Mae’r Groes Goch Brydeinig yn chwilio am 2 weithiwr achos llawn amser ar gyfer eu Rhaglen Cefnogi Ffoaduriaid (Unigolion Diamddiffyn Syriaidd).
Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau cefnogi safon uchel sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, ar gyfer ffoaduriaid Syriaidd sydd wedi cael eu hadleoli i ardal Gogledd Cymru o dan y Cynllun Adleoli Unigolion Diamddiffyn Syriaidd.
Dewch i wybod am y newidiadau yn y cyfyngiadau Covid-19 yng Nghymru.
Bydd amrywiaeth o ddyletswyddau wedi’u dylunio i ddatblygu, cynnal a hyrwyddo gwasanaethau hanfodol sydd ar gael ac i helpu cleientiaid i ddod yn gyfarwydd â’r ardal leol trwy ddarparu gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth, yn ogystal â chynnig cymorth ymarferol.
Bydd y Gweithwyr Cefnogi Ffoaduriaid yn:
- Gyfathrebwyr cryf gyda’r gallu i addasu dulliau cyfathrebu yn seiliedig ar y gynulleidfa, gyda phrofiad o ddarparu cymorth sensitif, diogel a grymus i bobl sydd wedi cynhyrfu mewn sefyllfaoedd diamddiffyn
- Gallu cynllunio, darparu a gwerthuso sesiynau a gweithgareddau cymdeithasol – ac i’w haddasu i anghenion amrywiol y grŵp o bobl o ddiwylliannau, ieithoedd a chefndiroedd amrywiol
- Gwybodus, gyda dealltwriaeth o faterion sy’n effeithio ffoaduriaid.
- Bydd ganddynt brofiad o ddarparu gwaith achos gyda chleientiaid diamddiffyn a gallu cydweithio gyda phartneriaethau rhyngasiantaethol.
- Gallu gweithio mewn tîm o fewn amgylchedd pwysau uchel. Bydd ganddynt hefyd brofiad o gefnogi gwirfoddolwyr.
- Hyderus wrth ddefnyddio pecynnau e-bost, prosesu geiriau, cronfa ddata a thaenlenni gyda gwybodaeth drefniadol a TG cryf.
Gan fod teithio yn nodwedd o’r rôl hon, mae trwydded yrru llawn a mynediad at gerbyd hefyd yn hanfodol.
Bydd y deiliaid swydd yn gweithio ar draws Wrecsam neu Sir Ddinbych ac yn gweithio o gartref i ddechrau yn sgil cyfyngiadau Covid.
Y cyflog yw £19,590 y flwyddyn a’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 9 Mai 2021. Mae’n gontract tymor penodol tan 31 Mawrth 2022.
Ydych chi’n credu gallwch gyflawni’r rôl hwn? Dewch o hyd i ragor o wybodaeth trwy ddilyn y ddolen ganlynol.
Y RHEOLAU COVID DIWEDDARAF