Mae’n bleser gennym roi gwybod i chi fod ein hadran arbennig newydd ar Newyddion Cyngor Wrecsam sy’n canolbwyntio ar gyngor arbed ynni bellach yn fyw!
Rydym wedi creu adran ‘Datgarboneiddio Wrecsam’ ar ein blog newyddion fel rhan o’n hymgyrch leol i arbed ynni, a fydd yn gweithredu fel canolbwynt adnoddau cynhwysfawr, yn cynnig ystod o argymhellion a chyngor ymarferol i helpu busnesau, staff a phreswylwyr i leihau eu defnydd o ynni a mabwysiadu arferion ecogyfeillgar.
Ynghyd â’r wybodaeth blog, rydym hefyd wedi creu tudalennau cyfryngau cymdeithasol Datgarboneiddio Wrecsam ar Facebook ac Instagram er mwyn rhannu’r cynnwys a’r cyngor amrywiol ymhellach. Gallwch ymweld â hwy drwy ddilyn y dolenni isod:
Datgarboneiddio Wrecsam – Facebook
Datgarboneiddio Wrecsam – Instagram
Aros ar y blaen â’r cyngor diweddaraf ar sut i arbed ynni!
Meddai’r Cynghorydd David A Bithell, Cefnogwr yr Hinsawdd: “Mae’n bleser gennym ddefnyddio’r sianeli hyn i rannu amrywiaeth o wybodaeth a chyngor. Cyhoeddom ein bwletin arbed ynni cyntaf yn ddiweddar, a byddwn yn ychwanegu rhagor o gynnwys dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf. I aros ar y blaen â’r cyngor diweddaraf, dilynwch y tudalennau cyfryngau cymdeithasol Datgarboneiddio Wrecsam.”
Darllenwch ein blogiau diweddaraf…
A hoffech chi chwarae eich rhan i helpu i ddatgarboneiddio Wrecsam? Ewch i gael golwg ar ein blogiau diweddaraf i weld beth allwch chi ei ddysgu…
Darllen mwy – Bwletin arbed ynni Cyngor Wrecsam
Darllen mwy – Prosiect Coedwig Fach: y wybodaeth ddiweddaraf.
Darllen mwy – Grymuso Cynaliadwyedd: Siwrnai Lleihau Carbon Ysgol Gynradd yr Holl Saint