Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Maer yn Nodi Lleoliad Safle Datblygu Ysgol
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Maer yn Nodi Lleoliad Safle Datblygu Ysgol
Pobl a lle

Maer yn Nodi Lleoliad Safle Datblygu Ysgol

Diweddarwyd diwethaf: Mawrth 17, 2022 2:47 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Ysgol Yr Hafod Turf Cutting Ceremony
RHANNU

Cynhaliwyd seremoni torri’r dywarchen i nodi dechrau’r gwaith ailwampio mewn ysgol leol yn Johnstown.

Cafodd Ysgol yr Hafod fuddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd fel rhan o’r Rhaglen Ysgolion Band B y 21ain Ganrif gyda’r bwriad o wella’r safle â chyfleusterau gwell.

Y weledigaeth ar gyfer y prosiect yw datblygu’r hen ysgoldy i wneud lle i blant 3 i 11 oed ac uno’r ysgol ar un safle.

Dechrau pennod newydd

Gan fod y gwaith yn barod i ddechrau gyda chwmni Wynne Construction ar ochr Ffordd Bangor y safle, estynnwyd gwahoddiad i Faer Wrecsam, y Cynghorydd Ronnie Prince i ymuno â staff a chynrychiolwyr o’r cyngor i nodi’r achlysur.

Gyda’i raw yn ei law, torrodd y Maer y dywarchen gyntaf i ddathlu dechrau pennod newydd a chyffrous yn hanes yr ysgol.

Wrth siarad yn y seremoni, dywedodd y Maer: “Mae wir wedi bod yn bleser bod yma heddiw i gydnabod y datblygiad newydd bendigedig hwn yn ein cymuned. Bydd hyn o fudd mawr i lawer o genedlaethau fydd yn pasio drwy goridorau’r ysgol hon gan y bydd yn darparu’r cyfleusterau gorau bosibl i sicrhau dyfodol disglair i blant Wrecsam.”

“Diolch yn fawr i bawb sydd wedi gweithio mor ymroddgar i wireddu’r prosiect hwn. Rwyf yn dymuno’r gorau i chi yn y dyfodol a boed i’ch llwyddiannau barhau.”

Meddai Pennaeth Ysgol yr Hafod, Mrs Alison Heale: “Mae’n ddiwrnod arbennig iawn i ni yma yn Ysgol yr Hafod gan ei fod yn nodi dechrau dyfodol llewyrchus a chyffrous iawn i’n hysgol.  Mae’r gwaith yn dechrau o ddifrif a phan fydd y gwaith adeiladu wedi’i gwblhau, byddwn yn cynnig y cyfleusterau gorau bosibl i’r plant ifanc sy’n dod drwy’n drysau bob blwyddyn.”

Roedd Aelod Arweiniol Addysg Cyngor Wrecsam, y Cynghorydd Phil Wynn a’r cynghorydd lleol a Chadeirydd Llywodraethwyr Ysgol yr Hafod, y Cynghorydd David A Bithell hefyd yn bresennol. Dywedodd y Cyng Wynn: “Bydd uno’r grwpiau oedran babanod ac iau ar un safle yn cynnig darpariaeth addysg wedi’i symleiddio i ddisgyblion Ysgol yr Hafod, ac ar yr un pryd yn darparu adeilad modern fydd yn gwasanaethu cymuned Johnstown am flynyddoedd i ddod.”

Gan adleisio’r sylwadau positif, dywedodd y Cyng Bithell: “Bydd hyn yn gwella’r cyfleusterau addysg yn sylweddol i blant a staff o 3-11 oed.  Rydym yn gweithio gyda’n contractwr i sicrhau ein bod yn rhannu gwybodaeth am y gwaith fel mae’n mynd yn ei flaen ac rwyf yn falch ein bod wedi sicrhau £4.5 miliwn i ddod â’r plant i gyd i un safle mewn ysgol sy’n addas i’r 21ain ganrif.  Rydym yn gobeithio bod ar y safle ym mis Ebrill 2023 mewn ysgol newydd.”

Dywedodd Mark Wilson, rheolwr prosiect gyda chwmni Wynne Construction: “Rydym yn falch iawn ein bod yn dechrau ar gyfnod adeiladu prosiect ailddatblygu Ysgol yr Hafod ac mae hyn yn dilyn y gwaith a wnaed gan ein tîm dylunio a fu’n cydweithio’n agos â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ac aelodau allweddol er mwyn creu amgylchedd ysgol newydd ac ehangu’r ystod o wasanaethau addysgol safonol mae’r ysgol yn eu darparu.

“Bydd y datblygiad hwn yn hwb sylweddol i gymuned Johnstown, a bydd yn creu etifeddiaeth barhaus o gymunedau cynaliadwy ar gyfer dysgu, ac yn caniatáu i’n partneriaid yn y gadwyn gyflenwi i gadw gwariant y prosiect yn lleol lle bo hynny’n bosibl, a thrwy ymgysylltu â disgyblion a dysgwyr i arddangos gwaith adeiladu a’r amgylchedd adeiledig.

“Rydym yn edrych ymlaen at ddechrau’r gwaith a chyflawni prosiect o ansawdd uchel, lle bydd y disgyblion yn gallu ehangu eu gwybodaeth eu hunain mewn ffordd gyfforddus a chynyddol.”

Rhannu
Erthygl flaenorol Traditional Building Skills Y wybodaeth ddiweddaraf am Adnewyddu’r Marchnadoedd – £2m wedi ei rhoi gan Lywodraeth Cymru
Erthygl nesaf bleidleisio’n Etholiadau Lleol – Sicrhewch eich bod wedi’ch cofrestru i bleidleisio

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Ysgol Fach, Llais Mawr: Disgyblion Pentre yn ymweld â Senedd y DU
Ysgol Fach, Llais Mawr: Disgyblion Pentre yn ymweld â Senedd y DU
Pobl a lle
Hydref 21, 2026
Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Busnes ac addysg Pobl a lle
Hydref 21, 2026
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Busnes ac addysg
Hydref 20, 2026
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Pobl a lle
Hydref 20, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026
DigwyddiadauDatgarboneiddio Wrecsam

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026

Hydref 13, 2026
Meet the Supertrees event
Pobl a lleDatgarboneiddio WrecsamDigwyddiadau

Digwyddiad teuluol ‘Meet the Supertrees’ yng Nghanolfan Adnoddau Gwersyllt (28 Hydref)

Hydref 20, 2026
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Pobl a lle

Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn

Hydref 20, 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da
Pobl a lleDigwyddiadauFideo

Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da

Hydref 20, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English