Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Myfyrwyr gwrywaidd Wrecsam yn cymryd safiad i sicrhau bod menywod yn medru mwynhau noson allan ddiogel 
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Myfyrwyr gwrywaidd Wrecsam yn cymryd safiad i sicrhau bod menywod yn medru mwynhau noson allan ddiogel 
Pobl a lle

Myfyrwyr gwrywaidd Wrecsam yn cymryd safiad i sicrhau bod menywod yn medru mwynhau noson allan ddiogel 

Diweddarwyd diwethaf: Ebrill 24, 2024 2:15 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Compliance Notices
RHANNU

Erthygl Gwadd – Prifysgol Wrecsam

Mae myfyrwyr mewn prifysgol yng Nghymru wedi llunio eu rheolau ymgysylltu eu hunain ar gyfer noson allan, mewn cydweithrediad ag ymgyrch Iawn Llywodraeth Cymru, i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod. 

Mewn cyfres o sesiynau ymgysylltu, archwiliodd myfyrwyr gwrywaidd bwysigrwydd o greu amgylchedd gyda’r nos sy’n ddiogel a pharchus, lle nad yw ymddygiad amhriodol tuag at fenywod yn cael ei ddioddef na’i esgusodi.

Mae Iawn yn blatfform dwyieithog i ddynion ifanc, gydag un nod – gwneud Cymru y lle mwyaf diogel i fod yn fenyw. 

Lluniodd y grŵp o fyfyrwyr gwrywaidd y rheolau ymgysylltu canlynol, yn ystod sesiwn gydweithredol, pan gafwyd trafodaeth agored ynghylch sut y dylai dynion ymddwyn ar noson allan er mwyn sicrhau bod menywod yn teimlo’n ddiogel a’u bod yn cael eu parchu. 

Rheolau ymgysylltu Prifysgol Wrecsam: 

  1. Gofynna, paid cymryd yn ganiataol 
  2. Parchwch ffiniau eich gilydd 
  3. Gofala am dy hun, gofalwch am eich gilydd 

Dywedodd y myfyrwyr ei bod yn bwysig bod yn barchus pan yn ymgysylltu â menywod ar nosweithiau allan ac i sicrhau bod caniatâd yn cael ei roi.

Eglurodd un myfyriwr ‘Os ydw i mewn clwb a dwi’n mynd i fyny at fenyw ac yn gofyn iddi a yw hi eisiau dawnsio neu allai gael ei rhif hi, os yw hi’n dweud na, dwi’n camu’n ôl a wnai ddim ei thrafferthu eto. Mae’n ymwneud â gwybod sut i wneud i bobl deimlo’n gyfforddus.”

Cytunodd myfyriwr arall: “Ie, dwi i wrth fy modd yn dawnsio, ond dwi byth yn cymryd yn ganiataol bod pobl eisiau dawnsio gyda fi.”

Ymhelaethodd un myfyriwr ar bwysigrwydd bod yn ymwybodol o’r hyn sydd o’ch cwmpas: “Bydd yn ymwybodol o ble rwyt ti’n mynd ac ymddiria yn y bobl sydd gyda ti.”

Cytunodd y myfyrwyr mai’r rheol ymgysylltu bwysicaf a luniwyd ganddynt oedd parchu ffiniau.

Dywedodd y myfyrwyr ei fod yn ymwneud â “thynnu llinellau am y ffordd y mae dynion yn trin menywod.”

Mae’r myfyrwyr yn credu y bydd creu’r rheolau ymgysylltu hyn yn galluogi menywod yn yr ardal i deimlo’n ddiogel pan ar noson allan.

Wrth sôn am ymwneud â phrosiect Iawn, dywedodd un myfyriwr, Cal Roberts: 

“Dwi’n meddwl pe bai IAWN wedi bod o gwmpas pan oeddwn yn iau, byddai wedi helpu i drin fy mhroblemau ac wedi gwneud i mi fynd i’r afael ag ymddygiadau problematig yn gynt. Mae’r prosiect wedi fy helpu oherwydd doeddwn heb glywed am lawer o’r terminoleg sy’n ymwneud â pherthynasau cyn edrych ar IAWN. Roedd deall y diffiniadau wedi fy helpu i roi sefyllfaoedd y gorffennol yn eu cyd-destun, pethau fel gasleitio a lovebomio.” 

Wrth sôn am eu partneriaeth â Iawn, dywedodd Prifysgol Wrecsam: 

“Yma ym Mhrifysgol Wrecsam mae gennym ymrwymiad cryf i fynd i’r afael â materion cymdeithasol a hyrwyddo cydraddoldeb rhwng y rhywiau. Mae ein hymroddiad i feithrin amgylchedd diogel a chynhwysol ar y campws yn cyd-fynd yn berffaith â nodau’r ymgyrch. 

“Mater cymdeithasol allweddol y mae ein Prifysgolion a’n Hundeb Myfyrwyr yn cydweithio arno yw codi ymwybyddiaeth o drais yn erbyn menywod ac roeddem yn falch iawn o fod yn rhan o’r ymgyrch gan helpu i lywio strategaeth a chreu cynnwys effeithiol, gan roi cyfle i’n myfyrwyr ddysgu, myfyrio a chymryd camau cadarnhaol yn erbyn trais a chamdriniaeth.” 

Dilynwch sianeli Iawn ar: 

Instagram: www.instagram.com/soundcymru/  

TikTok: www.tiktok.com/@soundcymru  

YouTube: www.youtube.com/@soundcymru  

Rhannu
Erthygl flaenorol CYHOEDDI EISTEDDFOD GENEDLAETHOL WRECSAM - manylion terfynol CYHOEDDI EISTEDDFOD GENEDLAETHOL WRECSAM – manylion terfynol
Erthygl nesaf Mis Ebrill yw Mis y Plentyn Milwrol Mis Ebrill yw Mis y Plentyn Milwrol

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Penley Hospital
Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna
Arall Pobl a lle
Medi 3, 2026
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lle Y cyngor
Medi 3, 2026
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Digwyddiadau Pobl a lle
Medi 2, 2026
Yorke Street
Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Blue emergency services light
ArallPobl a lle

Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys

Medi 1, 2026
Caffi hynaf Wrecsam wedi'i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Pobl a lle

Caffi hynaf Wrecsam wedi’i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol

Medi 1, 2026
Football park and ride
ArallPobl a lle

Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd

Awst 28, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English